Diaffram (atal cenhedlu)

Oddi ar Wicipedia
Diaffram

Mae'r diaffram yn ddull rhwystr o atal cenhedlu. Mae'n gymharol effeithiol, gyda chyfradd methiant blynyddol o tua 12% gyda defnydd cyffredinol[1]

Defnydd[golygu | golygu cod]

Fe'i gosodir dros wddf y groth gyda sberm laddwr cyn cael cyfathrach rywiol ac yn cael ei adael yn ei le am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw[2].

Yn gyffredinol, mae angen ei osod am y tro cyntaf gan ddarparwr gofal iechyd[3].

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Ar y cyfan prin iawn yw'r sgil effeithiau. Gall y defnydd gynyddu'r risg o faginosis bacteriol a heintiau'r llwybr wrinol. Os caiff ei adael yn y wain am fwy na 24 awr gall syndrom sioc wenwynig ddigwydd. Er y bydd y defnydd yn lleihau'r risg o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, nid yw'n effeithiol iawn wrth wneud hynny.

Mathau[golygu | golygu cod]

Mae yna nifer o fathau o ddiafframau gyda dyluniad gwahanol i natur y sbring a'r rhimyn. Maent ar gael wedi eu cynhyrchu o latecs, silicon neu rwber naturiol. Maent yn gweithio trwy rwystro mynediad at, a chadw sberm oddi wrth, gwddf y groth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyfeisiwyd y diaffram tua 1882. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Yn y Deyrnas Unedig maent yn costio llai na £10 . Mae'n ddull atal genhedlu sy'n cael ei ddefnyddio gan tua 0.3% o ferched y byd. Nid yw'r gost yn cynnwys cost y sberm laddwr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]