Neidio i'r cynnwys

Deutsche Nationalbibliothek

Oddi ar Wicipedia
Deutsche Nationalbibliothek
Delwedd:Eingang Deutsche Nationalbibliothek Leipzig.jpg, Deutsche Buecherei Hauptgebaeude mit Buecherturm.JPG
Mathllyfrgell genedlaethol, cronfa ddata lyfryddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Prif adeilad y Deutsche Nationalbibliothek yn Leipzig

Llyfrgell genedlaethol yr Almaen yw'r Deutsche Nationalbibliothek (DNB), a leolir yn ninasoedd Leipzig a Frankfurt am Main. Mae'n dal cyfanswm o ryw 27.8 miliwn o eitemau.[1] Mae'r DNB yn olynydd i'r Deutsche Bücherei, a sefydlwyd yn Leipzig, canolfan diwydiant argraffu yr Almaen, ym 1912, er mwyn casglu pob gwaith yn yr iaith Almaeneg. Oherwydd rhaniad yr Almaen ym 1945, â'r Deutsche Bücherei bellach yn y Dwyrain Comiwnyddol, agorodd llyfrgell gyfwerth yn y Gorllewin, yn Frankfurt, a alwyd yn y Deutsche Bibliothek. Cyfunodd y ddau sefydliad dan yr enw Die Deutsche Bibliothek yn dilyn uno'r Almaen ym 1990, ac yn 2006 ail-gyfansoddwyd y llyfrgell dan ei henw cyfredol.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Jockel, Stephan. The German National Library in Brief. Deutsche Nationalbibliothek. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) Fischer, Barbara. History. Deutsche Nationalbibliothek. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]