Deuod allyrru golau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Deuodau allyrru golau (LED) lliwgar.
Bylbiau LED, 2010.
Bylbiau car, 2010.

Mae deuod allyrru golau neu (LED - Light emitting diode) yn fath o ddeuod sy'n goleuo pan fo'r cerrynt trydanol yn llifo drwyddo. Cafodd y DAG ei ddyfeisio yn Rwsia gan Oleg Vladimirovich Losev yn yr 1927 ac yna ei gyflwyno yn ymarferol i America yn 1962. Roedd y DAGau gwreiddiol yn rhoi'r lliw coch, ond cynhyrchir heddiw DAGau gwyn, gwyrdd, glas a myrdd o liwiau eraill. Nid yw'r gwyn yn wyn pur, ond cymysgedd sy'n ymddangos yn wyn i'r llygad). Cyn 1962 roedd y golau'n olau anweledig, sef golau is-goch. Defnyddiwyd hwy ar raddfa eang gan Hewlett-Packard yn eu cyfrifiannellau yn 1968.

Fel pob deuod, dim ond pan gysylltir y foltedd yn y cyfeiriad cywir mae'r ddyfais yn caniatau i'r cerrynt lifo; tipyn bach yn anghymesur ydy DAG felly (er bron yn gylchol yn amlaf), er mwyn helpu ei gysylltu'n gywir.

Mae'r math yma o fwlb yn defnyddio egni yn fwy effeithlon na bwlb ffilament neu bwlb "ynni isel". Defnyddir ef yn aml felly mewn dyfeisiau sy'n cael eu pweru gan fatri gwan, megis goleuadau ar gyfer beiciau.

Datblygiadau lampau a bylbiau LED[golygu]

Cafwyd datblygiad sylweddol yn y dechnoleg o greu bylbiau a lampau yn ystod y ddegawd diwethaf, gyda rhai mathau yn defnyddio cyn lleied ag 1W o drydan ond yn rhoi golau eitha cryf. Mae pris y math hwn o fylb yn eitha uchel - tua degpunt y bwlb yn 2009; erbyn Rhagfyr 2010 roedd yn bosibl prynnu bwlb 1W yn Tesco am £4. Mae golau stryd sy'n cael ei bweru gan gelloedd solar yn dechrau dod yn boblogaidd mewn rhai gwledydd.