Despina (lloeren)
Jump to navigation
Jump to search
Despina yw'r drydedd o loerennau Neifion a wyddys:
Cylchdro: 52,600 km oddi wrth Neifion
Tryfesur: 148 km
Cynhwysedd: ?
Mae Despina wedi ei henwi ar ôl y nymff Despoena a oedd yn ferch i Boseidon a Demeter ym mytholeg Roeg.
Cafodd y lloeren Despina ei darganfod gan Voyager 2 ym 1989.
Mae Despina'n cylchio bob 8 awr. Mae ganddi ffurf afreolaidd (sef nid yw'n gronnell). Mae hi'n cylchio yn yr un cyfeiriad â Neifion gan gadw'n agos i arwyneb cyhydeddol y blaned.