Delta Goodrem

Oddi ar Wicipedia
Delta Goodrem
Ganwyd9 Tachwedd 1984 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Label recordioSony Music Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • The Hills Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor, cerddor, pianydd, cyfansoddwr caneuon, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
PartnerNick Jonas Edit this on Wikidata
Gwobr/auAelod o Urdd Awstralia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.deltagoodrem.com Edit this on Wikidata


Actores, cantores a chyfansoddwraig o Awstralia yw Delta Lea Goodrem (ganwyd 9 Tachwedd 1984). Mae wedi ennill nifer o wobrau, Gwobr ARIA a Gwobr Logie. Arwyddodd gytundeb gyda Sony yn 15 oed, ond daeth i'r amlwg yn 2002, drwy serennu yn yr opera sebon boblogaidd Neighbours fel Nina Tucker. Sefydlodd hyn ei gyrfa gerddorol rhyngwladol.[1] Mae ei cherddoriaeth fel arfer yn pop a baledi gyda'r piano yn rhan bwysig o'r rhan fwyaf o'i chaneuon. Tra'n perfformio'n fyw mae fel arfer yn chwarae'r piano yn droednoeth. Mae wedi ei dylanwadu'n gryf gan gerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth dawns weithiau.[2]

Mae Goodrem wedi cael wyth sengl rhif un ARIA hyd yn hyn a sawl sengl yn y 10 uchaf yn siartiau'r Deyrnas Unedig. Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, Innocent Eyes, yn 2003, gan ei throi'n un o artistiaid benywaidd a oedd yn gwerthu orau yn Awstralia, gan dreulio 29 wythnos ar frig y siart[3] a gwerthu dros miliwn o gopïau yn Awstralia a 1.5 miliwn arall yn ryngwladol.[4] Aeth ei ddilyniant, Mistaken Identity, siartiau ARIA yn rhif un yn 2004, gan ennill statws multi-platinum. Mae wedi gwerthu 3.5 miliwn o albymau yn fyd-eang hyd yn hyn.[5] Yn 2005, fe aeth Goodrem ar daith The Visualise Tour, ei chyngerdd teithiol cyntaf o Awstralia. Rhyddhaodd ei thrydedd albwm, Delta, ar 20 Hydref 2007 ac aeth yn syth i rif un yn y siartiau unwaith eto.

Yn 2003, yn 18 oed, yng nghanol gyrfa a oedd yn blodeuo, cafodd Goodrem y ddiagnosis o Hodgkin's Lymphoma, ffurf o gancr. Mae wedi gwella ers hynny ac yn treulio llawer o'i hamser yn hybu elusennau cancr.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Bywgraffiad ar ei gwefan swyddogol Archifwyd 2012-03-27 yn y Peiriant Wayback.
  2. http://www.bignews.biz/?id=2132&keys=delta-goodrem-brian-mcfadden-australian-idol
  3. Herald Sun "Year of Delta's dawn" by Cameron Adams, 30 Rhagfyr 2003
  4. Herald Sun "Delta's Secret Video", 18 Chwefror 2007
  5. Datganiad i'r we ar ei gwefan swyddogol Archifwyd 2007-04-04 yn y Peiriant Wayback.


Baner AwstraliaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.