Delmira Agustini

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Delmira Agustini
Delmira Agustini.jpg
Ganwyd Delmira Agustini Triaca Edit this on Wikidata
24 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Gorffennaf 1914 Edit this on Wikidata (27 oed)
Montevideo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Wrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Bardd Edit this on Wikidata
Arddull Barddoniaeth Edit this on Wikidata
Mudiad Modernismo, vanguardism Edit this on Wikidata

Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Delmira Agustini (24 Hydref 18866 Gorffennaf 1914) sy'n nodedig am ei barddoniaeth ramantus yn nechrau'r 20g.

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Er nad oedd yn aelod weithgar o fudiadau deallusol y wlad, cysylltir Agustini â La Generación del 900, cenhedlaeth o lenorion Wrwgwaiaidd yn nechrau'r 20g oedd yn cynnwys Julio Herrera y Reissig, María Eugenia Vaz Ferreira, Alberto Zum Felde, ac Angel Falco.

Yn ystod ei gyrfa lenyddol fer, cyhoeddodd El libro blanco (Frágil) (1907), Cantos de la mañana (1910), a Los cálices vacíos (1913). Dylanwadwyd ar ei cherddi cynnar, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau llenyddol, gan modernismo llên America Ladin. Mae ei gwaith diweddarach yn enghraifft gynnar o'r themâu erotig a thanbaid sydd yn nodweddiadol o feirdd benywaidd Sbaeneg yr 20g.[1][2]

Priododd Enrique Job Reyes yn 1913, a chawsant ysgariad ar ôl rhyw 10 mis. Cafodd Agustini ei llofruddio yn 27 oed gan Reyes. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd Obras completas (1924), sy'n cynnwys y cylch anorffenedig o gerddi El rosarío del Eros.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Delmira Agustini ar 24 Hydref 1886 ym Montevideo, yn ferch i rieni dosbarth canol. Wrwgwaiad o'r enw Santiago Agustini (m. 8 Gorffennaf 1925) oedd ei thad, ac Archentwraig a aned yn Buenos Aires, María Murtfeld Triaca (24 Awst 1859 – 18 Gorffennaf 1934), oedd ei mam. Agweddau ceidwadol a disgyblaeth oedd y drefn yn y tŷ, ond roedd gan Delmira berthynas glos a'i mam a chyfleoedd i ddatblygu ei ddiddordebau creadigol. Dysgodd Ffrangeg, cerdd, a phaentio, a dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn 10 oed.[3]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd ei cherddi cyntaf yn ystod ei harddegau, ac ymddangosodd rai ohonynt yn y cylchgronau La Alborada ac Apolo (1905–09). Defnyddiodd y ffugenw Joujou (gair Ffrangeg am degan).[4]

Dylanwad arni oedd y bardd Rubén Darío o Nicaragwa, y cyntaf o fudiad modernismo yn llên America Ladin, a oedd ei hunan yn edmygwr ohonni. Meddai Darío taw Agustini yw'r unig lenores, ac eithrio'r Santes Teresa o Ávila, i fynegi ei gwaith o safbwynt gwir fenywaidd.[3] Yn ôl ei chyfaill, yr awdur Archentaidd Manuel Ugarte, hi oedd sylfaenydd y traddodiad o lên gan ferched yn America Ladin ar ddechrau'r 20g.[5]

Efelychwyd dulliau a themâu modernaidd gan Agustini yn ei barddoniaeth. Yn ei thrydedd gyfrol, Los cálices vacíos (1913), gwelir elfennau'r avant-garde. Mynegir erotiaeth a rhamant y fenyw a themâu ffantasi a'r dieithr yn ei cherddi, Cymeriad cyffredin yn ei gwaith ydy Eros, duw serch ym mytholeg Roeg, sy'n symboleiddio'r wefr erotig a phleserau'r cnawd.[3]

Priodas a marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Seremoni briodas Delmira Agustini ac Enrique Job Reyes.

Priododd Delmira fasnachwr ceffylau ac arwerthwr o'r enw Enrique Job Reyes ar 14 Awst 1913. Chwe wythnos yn ddiweddarach, gadawodd ei gŵr a chychwynnodd ar y broses o'i ysgaru, a gyflawynwyd ar 5 Mehefin 1915. Er iddynt wahanu, parhasant i gwrdd â'i gilydd. Ar 6 Gorffennaf 1914, bu farw Delmira ac Enrique yn yr un ystafell yn 1206 calle Andes, Montevideo, y ddau wedi eu saethu.[3]

Nid yw'n sicr os cytundeb hunanleiddiaid oedd, neu lofruddiaeth Delmira a hunanladdiad Enrique. Ar y pryd, y farn gyffredin oedd taw crimen pasional (trosedd serch) ydoedd, a bod Reyes wedi saethu Delmira yn farw cyn iddo ladd ei hunan. Cyhoeddwyd ffotograffau o olygfa'r trosedd yn y wasg, a bu colofnwyr y dydd yn dyfalu ynghylch achosion yr hyn a ddigwyddodd. Mewn ysgrif hir a gyhoeddwyd ym mhapur newydd El Día (Montevideo) ar 7 Gorffennaf 1914, bwriasai Alberto Lasplaces yr amcan taw loco de amor ("gwallgof gariad") oedd sefyllfa feddyliol Reyes. Mi oedd newyddiadurwyr eraill, er enghraifft yn El amigo del obrero, yn defnyddio'r trosedd fel esiampl o ddrygioni'r byd seciwlar a oedd yn tarddu o anfoesoldeb megis ysgariad.[3]

Mae ei charwriaeth dymhestlog â Reyes ac amodau syfrdanol ei marwolaeth wedi lliwio'r ddelwedd draddodiadol o'i gwaith. Yn y ffilm ddogfen El siglo del viento (1999), a ysgrifennwyd gan Eduardo Galeano, ceir atgrynhoad dramataidd sy'n cyfosod ei llofruddiaeth a'i barddoniaeth erotig.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • El libro blanco (Montevideo: O.M.Bertani, 1907).
  • Cantos de la mañana (Montevideo: O.M. Bertani, 1910).
  • Los cálices vacíos (Montevideo: O.M. Bertani, 1913).
  • Los astros del abismo (Montevideo: M. García, 1924).
  • El rosario de Eros (Montevideo: M. García, 1924).

Detholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Poesías completas, cyflwyniad gan Alberto Zum Felde (Buenos Aires: Losada, 1944).
  • Poesías completas, golygwyd gan Magdalena García Pinto (Madrid: Cátedra, 1993).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Magdalena García Pinto, "Agustini, Delmira (1886–1914)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 23 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Delmira Agustini. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Sbaeneg) Juan Carlos Fernández, "La trágica muerte de la poetisa Delmira Agustini", El Editor (1 Mai 2018). Adalwyd ar 30 Mai 2019.
  4. Renée Scott, "Delmira Agustini 1886–1914" yn Encyclopedia of Latin American Literature, golygwyd gan Verity Smith (Chicago: Fitzroy Dearborn, 1997), tt. 33–35.
  5. 5.0 5.1 Gwen Kirkpatrick, "Agustini, Delmira" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 5–6.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • T. Escaja (gol.), Delmira Agustini y el Modernismo: Nuevas propuestas de género (Rosario: Beatriz Viterbo, 2000).
  • T. Escaja, Salomé decapitada. Delmira Agustini y la estética finisecular de la fragmentación (Amsterdam: Rodopi, 2001).
  • Luzmaría Jiménez Faro, Delmira Agustini: Manantial de la brasa (Madrid : Torremozas, 1991).
  • Clara Silva, Genio y figura de Delmira Agustini (Buenos Aires : Editorial Universitaria de Buenos Aires, 1968).
  • Clara Silva, Pasión y gloria de Delmira Agustini (Buenos Aires: Editorial Losada, 1972).
  • Doris T. Stephens, Delmira Agustini and the Quest for Transcendence (Montevideo : Ediciones Geminis, 1975).