Deintgig
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | animal structure, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | organ zone, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | gên ![]() |
![]() |
Mae'r deintgig neu gingiva (lluosog: gingivae), yn cynnwys meinwe mucosaidd sy'n gorwedd dros y gên (mandibl) ac asgwrn yr ên (macsila) y tu fewn i'r geg. Mae iechyd a chlefyd deintgig yn gallu cael effaith ar iechyd cyffredinol yr unigolyn.[1]
Nodweddion deintgig iach[golygu | golygu cod y dudalen]
Lliw[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel arfer, mae gan ddeintgig iach liw sydd wedi'i ddisgrifio fel "pinc cwrel." Mae lliwiau eraill fel coch, gwyn, a glas yn gallu bod yn arwydd o enyniad (gingivitis) neu batholeg. Er bod yn lliw yn cael ei ddisgrifio fel pinc cwrel, mae amrywiaeth yn y lliw yn bosibl. Gall hyn fod o ganlyniad i ffactorau fel: trwch a mesur keratineiddiad yr epitheliwm, llif y gwaed i'r deintgig, pigmentiad naturiol, clefyd a meddyginiaethau.[2]
Gan fod lliw y deintgig yn gallu amrywio, mae cysondeb lliw yn bwysicach na'r lliw ei hun. Gall gormodedd o melanin achosi sbotiau neu glytiau tywyll ar y deintgig.
Amlinelliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae deintgig iach yn edrych yn llyfn ac yn grwm neu sgolpiog ar bob dant. Mae deintgig iach yn llenwi a ffitio i bob bwlch rhwng y dannedd, yn wahanol i'r papila chwyddedig a welir mewn gingivitis neu'r agorfa gwag rhwng y dannedd a welir mewn clefyd amddanheddol. Mae deintgig iach yn glynu'n dynn wrth bob dant, yn teneuo wrth ddringo, tra bod ymylon deintgig llidiog, ar y llaw arall, yn ymddangos wedi "rowlio" neu wedi chwyddo.
Gwead[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan ddeintgig iach wead cadarn sy'n gwrthsefyll symudiad, ac mae'r gwead ar yr arwyneb yn aml yn arddangos dotweithio arwynebol, tebyg i groen oren. Mae deintgig afiach, ar y llaw arall, yn aml wedi chwyddo ac yn llai gwydn.
Ymateb i gynnwrf[golygu | golygu cod y dudalen]
Nid yw deintgig iach yn ymateb i gynnwrf arferol fel brwsio neu chwilota amddanheddol. Bydd deintgig afiach yn gwaedu neu'n diferu'n grawnllyd.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gum disease opens up the body to a host of infections 6 Ebrill 2016 Science News
- ↑ Mosby's Medical Dictionary, 8th edition. 2009, Elsevier.