Defnyddiwr:KevRobbCY /sandbox
Barraba | |
---|---|
Lleoliad o fewn Awstralia | |
Gwlad | Awstralia |
Ardal | De Cymru Newydd |
Llywodraeth | |
Maer | Col Murray |
Pencadlys | Tamworth Regional Council |
Daearyddiaeth | |
Uchder | 500 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 1410 [1] (Cyfrifiad 2016) |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | AEST (UTC+10) |
Cod Post | 2347 |
Gwefan | (Saesneg) [[1]] |
Cyfesurynnau: 30°22′42″S 150°36′38″E / 30.37833°S 150.61056°E
Pentref yn y rhanbarth Lloegr Newydd yn Ne Cymru Newydd, Awstralia yw Barraba. Yr oedd y pentref canolfan y weinyddol sir Barraba Shire er hynny cyfunwyd a’r pentref a’r mwyafrif o’r sir i’r Cyngor Rhanbarthol Tamworth (Tamworth Regional Council) ym 1994. Y mae Barraba yn Rhanbarth yr Aderyn Pwysig Bundarra-Barraba (Bundarra-Barraba Important Bird Area) sy’n gwarchod cynefin yr aderyn anturiedig Melysor eurymylog (Anthochaera phrygia).
Y mae Barraba ar 477 cilometr yn ogledd-orllewinol o Sydney, ar 548 cilometr yn ddeau-orllewinol o Frisbane ac ar 90 cilometr yn ogleddol o Damworth sydd y dinas agosaf. Y mae’r Afon Manilla yn rhedeg wrth y pentref. Leolir Barraba ar y ffordd twristiaeth Llwybr Ymchwilwyr (Fossickers’ Way) ac y mae Barraba yn gorwedd yn y mynyddres Nandewar Range.
Hanes[golygu | golygu cod]
Oedd yn byw’r pobl cynfrodorol y Kamileroi/Gamileraay yn yr ardal cyn dyfodiad yr Ewropeaid.[2] Oedd yr Ewropead cyntaf yn yr ardal y fforiwr a botanegwr Allan Cunningham a oedd wedi cyrraedd yr ardal ym 1827.[3] Sefydlwyd y fferm cyntaf yn yr ardal, Barraba Station, ym 1837 neu ym 1838.[2][4] Tirfesurwyd lle y pentref dyfodol ym 1852.[5]
Helpodd darganfyddiad yr au y pentref i cynyddu.[5] Agorwyd swyddfa’r post cyntaf ym 1856[6] ac agorwyd yr ysgol cyntaf ym 1861.[2] Adeiladwyd yr eglwys Anglicanaidd ym 1876[4] ac agorwyd hefyd y banc cyntaf ym 1876.[4] Adeiladwyd y gwesty cyntaf, The Commercial Hotel, ym 1878[4] ac adeiladwyd llys y barn ym 1881.[4] Cyhoeddwyd Barraba pentref ym 1885.[4][5] Adeiladwyd y ysbyty ym 1891[4] ac adeiladwyd yr eglwys Fethodistaidd ym 1898.[4]
Dechreuodd cyhoeddi y papur lleol, The Barraba Gazette, ym 1901.[4] Adeiladwyd yr eglwys Pabyddol ym 1906.[4] Cyrhaeddodd lein y rheilffordd i’r pentref ym 1908[7] er hynny rhedodd y trên terfynol i Farraba ym 1983 a chaewyd lein y rheilffordd ym 1987.[8] Adeiladwyd yr Argae Connors Creek ym 1933 er gwella darpariaeth y dŵr i’r pentref.[4]
Mwyngloddiaeth[golygu | golygu cod]
Copr[golygu | golygu cod]
Ffeindiwyd copr ar Gulf Creek ym 1889 a sefydlwyd y mwynglawdd cyntaf ym 1892. Ar 22 cilometr yn ddwyreiniol o Farraba yw Gulf Creek. Sefydlwyd hefyd pentrefan y adeiladwyd gwesty, ysgol a swyddfa bost ynddo.[9] Oedd y mwynglawdd y mwynglawdd cupr mywaf yn Ne Cymru Newydd ym 1903 a cynhwysodd y pentrefan 300 preswyliwr. Caewyd y mwynglawdd yn y degawd 1930 a chaewyd swyddfa’r bost ym 1966.[6] Gadawyd y pentrefan.
Asbestos[golygu | golygu cod]
Mwyngloddid asbestos o 1919 i 1983 ar Woodsreef. Pentrefan ar 15 cilometr yn ddwyreiniol o Farraba oedd Woodsreef. Helaethwyd y mwynglawdd ym 1974. Cynhyrchodd y mwynglawdd 500,000 tunnell o asbestos gwyn.
Gadawod y mwynglawdd gwag 75,000,000 tunnell o graig diffaith a 25,000,000 tunnel o asbestos gwyn. Y mae’r pentwr abestos gwyn yn gorchuddio 43 hectar a y mae hi yn cyrraedd at 70 metr yn uchel.[10]
Disgrifiodd adroddiad teledu yn 2008 am y pryder cynyddol y bo yr asbestos gwag risg iechyd ar y preswylwyr ac ar y ymwelwyr.[11] Galwodd Sefydliad y Clefydau Asbestos Awstralia (The Abestos Diseases Foundation of Australia) y rhaid lle y mwynglawdd yn cael ei ailsefydlu.[10] Galwodd y Sefydliad y rhaid bod y cyhoedd yn gwahardd dreiddio lle y mwynglawdd.
Croesodd ffordd cyhoeddus lle y mwynglawdd hyd caewyd y ffordd hon yn 2013. Gadawyd y pentrefan.
Cynhaliodd Gwasanaeth y Iechyd o Hunter-New England (Hunter-New England Health) astudiaeth pwysig am goblygiad iechyd i’r cymuned Barraba.[10] Cwblhawyd y astudiaeth ond nid yw yr astudaieth hon wedi cael ei cyhoeddi.[12]
Pridd Diatom[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd mwynglawdd y pridd diatom (diatomaceous earth) ym 1982.
Gemau a Ffosilau[golygu | golygu cod]
Y mae pobl yn gallu ffeindio pyritau, maen iasbis, garned, zeolite, cwarts coch, cwarts melyn a chwarts brown yn yr ardal. Y mae pobl yn gallu ffeindio hefyd ffosilau.
Amaethyddiaeth[golygu | golygu cod]
Ffermir eidonnan cig, defaid merino a gwenith yn yr ardal.
Hinsawdd[golygu | golygu cod]
Y mae Barraba yn profi hafau poeth a llaith a gaeafau oed a sych. 41.8°C yw’r tymheredd cofnodedig uchaf a -9.4°C yw’r tymheredd cofnodedig lleiaf. 688.7 milimetr yw’r glawiad blynyddol cyfartalog cofnodedig uchaf a cwympodd 25 Ionawr 1955.[13]
Darpariaeth Dŵr[golygu | golygu cod]
Cyn adeilawiath yr Argae Split Rock tynnai’r pentref ddŵr o’r Afon Manilla, y Nant Barraba a’r Argae Connors Creek.[14] Pan lleihawyd y tarddiadau hynny tynnai’r pentref ddŵr o ffynhonnau argyfwng.[15]
Adeiladwyd yr Argae Split Rock ym 1988 a chwblhawyd piblin o’r argae i’r pentref yn 2015.
Ffotograffau[golygu | golygu cod]
-
y priffordd o Farraba yw Queen Street (Stryd-y-Brenhines)
-
llys y barn, Barraba
-
Commercial Hotel, Barraba
-
yr eglwys Anglicanaidd, Barraba
-
yr eglwys Fethodistaidd, Barraba
-
yr eglwys Pabyddol, Barraba
-
tŵr y cloc, Barraba
-
y banc cyntaf, Barraba
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "2016 Census QuickStats – Barraba (State Suburb)". Australian Bureau of Statistics. 6 July 2018. Cyrchwyd 18 August 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Barraba". Sydney Morning Herald Traveller. 13 November 2008. Cyrchwyd 14 November 2011.
- ↑ "Barraba". Visit Tamworth. Tamworth Regional Council. Cyrchwyd 14 November 2011.
- ↑ 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 "Barraba Dateline". Barraba NSW – The Community Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17a de Marto 2012. Cyrchwyd 14a de Novembro 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Check date values in:|accessdate=, |archivedate=
(help) - ↑ 5.0 5.1 5.2 Boileau, Joanna (Februaro 2007). "Thematic History of Nundle, Manilla and Barraba". Tamworth Regional Council. tt. 124–125. Cyrchwyd 14a de Novembro 2011. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help) - ↑ 6.0 6.1 "Post Office History". Post Office List – NSW. Premier Postal Auctions. Cyrchwyd 14 November 2011.
- ↑ "THE BARRABA RAILWAY". The Sydney Morning Herald. National Library of Australia. 22 September 1908. t. 7. Cyrchwyd 15 November 2011.
- ↑ Bozier, Rolfe. "Barraba Branch". NSWrail.net. Cyrchwyd 15 November 2011.
- ↑ "MINING IN NEW SOUTH WALES". The Sydney Morning Herald. National Library of Australia. 29a de Julio 1901. t. 8. Cyrchwyd 15a de Novembro 2011. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help) - ↑ 10.0 10.1 10.2 Woodsreef Asbestos Mine Site Rehabilitation Private Members Statement, 29 August 2008. Archifwyd 3a de Aprilo, 2011, yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Abandoned asbestos mine causes community outrage
- ↑ Woodsreef health report under wraps Archifwyd 6a de Julio, 2011, yn y Peiriant Wayback.
- ↑ "Basic Climatological Station Metadata – Barraba Post Office" (PDF). Bureau of Meteorology. Cyrchwyd 16a de Novembro 2011. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Barraba Water Supply Archifwyd 28a de Junio, 2011, yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Barraba's water supply critical
Cysylltau allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) tudalen y gwe lleol
- (Saesneg) gŵyl Barraba
- (Saesneg) o tudalen y gwe Fossickers Way
- (Saesneg) Fideo: Argae Connors Creek
- (Saesneg) Fideo: Argae Split Rock