Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Streic Chwarel Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Chwarel y Penrhyn tua 1900.

Gweithred Ddiwydiannol a barhaodd rhwng 1900 a 1903 oedd Streic Chwarel y Penrhyn.


Ar 22 Tachwedd 1900 aeth bron i dair mil o ddynion Chwarel y Penrhyn, a oedd yn eiddo i'r Arglwydd Penrhyn, ar streic.  Cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am dair blynedd ac ni fu ardal Bethesda, Gwynedd, yr un fath wedyn.  Hwn oedd anghydfod hiraf Prydain.[1]

Achosion[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1896, cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am oddeutu un mis ar ddeg oherwydd anghytundeb rhwng y meistr a'r gweithwyr ynglŷn ag isafswm cyflog. Bu’n rhaid i'r chwarelwyr ddychwelyd at eu gwaith bryd hynny heb ddatrys yr anghydfod. Yna ym mis Ebrill 1900 dywedodd rheolwr chwarel y Penrhyn, E. A. Young, na ddylid casglu tâl undebaeth yn y gweithle. Roedd yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, eisiau dileu dylanwad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y chwarel. Oherwydd y gwrthwynebiad i'r penderfyniad fe waharddwyd rhai o'r dynion rhag dychwelyd at eu gwaith, ac yn dilyn hyn aeth 2,800 o'r gweithwyr ar streic.  Roedd yr undeb yn cefnogi galwad y chwarelwyr am dâl gwell ac amodau gwaith mwy diogel, ond gwrthododd yr Arglwydd Penrhyn y cais hwn ac arweiniodd hyn at argyfwng cau allan y Penrhyn.

Gosodwyd arwyddion yn ffenestri rhai o'r tai yn datgan 'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'

Terfysgoedd 1901[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 11 Mehefin fe ddychwelodd pedwar cant o'r dynion at eu gwaith, gan dderbyn sofren yr un ac addewid o 5% o godiad cyflog. Achosodd hyn chwerwder mawr yn yr ardal, a datblygodd y drwgdeimlad yn drais erbyn diwedd 1901 pan dorrwyd ffenestri tafarndai a thai'r gwŷr a oedd wedi dychwelyd i'r chwarel. Gosodwyd arwyddion yn ffenestri rhai o'r tai yn datgan 'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'. Yn fuan wedyn, anfonodd Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon filwyr i Fethesda, ac Ynad Heddwch gyda hwy i ddarllen y Ddeddf Derfysg i'r streicwyr.

Diwedd y streic[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd y chwarelwyr at eu gwaith ym mis Tachwedd 1903 heb ddatrys problem cydnabod hawliau undebol. Cafwyd colledion o £360,000 mewn cyflogau dros y tair blynedd ac ni ddychwelodd un rhan o dair o'r gweithlu fyth i'r Penrhyn. Yn dilyn buddugoliaeth yr Arglwydd Penrhyn, gwelwyd dechrau'r dirywiad yn y diwydiant llechi, diwydiant a oedd mor bwysig i gymdeithas yr ardal hon o Gymru. Rhannodd y streic y gymuned Gymraeg ei hiaith a gadawodd miloedd o bobl yr ardal, heb ddychwelyd byth.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ymgyrchu! - Brwydrau Llafur". web.archive.org. 2013-09-22. Cyrchwyd 2020-03-10.
  2. "Cefnogi astudiaeth fanwl 1900–1918". resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com. Cyrchwyd 2020-03-10.