Defnyddiwr:Cymrodor/Canllaw
Ym mrawddeg cyntaf erthygl, cyfeirir at y pwnc mewn llythrennau trwm wrth roi tri chollnod pob ochr iddo. Mae dau gollnod pob ochr yn creu llythrennau italig.
Cynnwys Erthygl[golygu | golygu cod]
Penawdau[golygu | golygu cod]
Hafalnodau pob ochr sy'n creu penawdau ac is-benawdau i rannu'r erthygl yn adrannau. Mae'r tabl cynnwys yn ymddangos yn yr erthygl yn awtomatig.
Dolenni[golygu | golygu cod]
Mewn cromfachau sgwâr dwbl mae dolenni mewnol, gyda'r testun yn ymddangos mewn lliw coch os nad oes erthygl o'r enw. Defnyddir y beipen (|) ble mae'r ddolen yn wahanol i'r testun, er enghraifft wrth dreiglo yn Gymraeg.
Mae hefyd yn hawdd cynnwys dolenni allanol, megis http://www.wicicymru.org, [1], neu Wici Cymru.
Mewnosod cyfryngau[golygu | golygu cod]
Yn ogystal â delweddau, mae'n bosib mewnosod dogfennau, fideos a chlipiau sain o Gomin Wikimedia (http://commons.wikimedia.org)
Rhestri[golygu | golygu cod]
Mae dau fath o restr;
- Eitemau heb
- eu rhifo
- Eitemau wedi
- eu rhifo
Templedi[golygu | golygu cod]
Yr Wyddfa Eryri | |
---|---|
Llun | Yr Wyddfa o'r Garn |
Uchder | 1085m (3560tr) |
Lleoliad | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Mae defnyddio templedi yn hwyluso creu rhai rhannau arbennig o fewn erthyglau. Daw enw'r templed yn syth ar ôl y cromfachau cyrliog agoriadol yna mae'r beipen yn nodi'r elfennau gwahanol nes i ddwy gromfach gyrliog gau'r templed.
Cyfeirio[golygu | golygu cod]
Mae'n arfer da a phwysig i roi cyfeirnodau wrth grybwyll ffeithiau sy'n tarddu o ymchwil neu wrth ddyfynnu gwaith neu eiriau rhywun arall. Sylwer y defnydd isod o'r templedi {{Dyf gwe ...}} a {{Dyf llyfr ...}}.
- Un o egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd bob dydd.[1]
- Credai Cymdeithas yr Iaith y dylai enwau Cymraeg fod ar holl enwau llefydd a thai mewn datblygiadau newydd sy'n cael eu cymeradwyo gan awdurdodau cynllunio lleol.[2]
Ymddangosir rhifau'r cyfeirnodau yn awtomatig a dim ond templed syml dan bennawd adran sydd ei angen i ddangos y rhestr cyfeiriadau...
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Adalwyd ar 20 Ebrill 2014.
- ↑ (Mawrth 2014) Bil Eiddo a Chynllunio er Budd ein Cymunedau (Cymru) 2014. Cymdeithas yr Iaith, tud. 9. URL
Categorïau[golygu | golygu cod]
Mae'n llawer haws defnyddio Wicipedia os yw erthyglau yn cael eu categoreiddio. Nodwch gategorïau reit ar ddiwedd yr erthygl. Maent yn ymddangos yn y troedyn.