Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Oddi ar Wicipedia
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
Enghraifft o'r canlynolDeddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a elwir hefyd (gan Lywodraeth Cymru) yn Fil. Cyflwynwyd y bil gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno "Treth Trafodiadau Tir" (LTT), a fydd yn disodli Treth Dir Treth Stamp y DU yng Nghymru o Ebrill 2018 a mesurau i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig.

Rhannau[golygu | golygu cod]

Mae’r Bil yn nodi 7 rhan:[1]

  • egwyddorion allweddol LTT, megis y math o drafodiadau a fydd yn denu tâl i LTT a’r person sy’n atebol i dalu LTT;
  • y weithdrefn ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau trethi;
  • sut y caiff y dreth ei chyfrifo a pha ryddhadau allai fod yn gymwys;
  • mesurau penodol i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig;
  • cymhwyso’r Bil mewn perthynas â lesoedd;
  • y darpariaethau penodol sy’n gymwys i amrywiaeth o bersonau a chyrff mewn perthynas ag LTT;
  • y ddarpariaeth ar gyfer llenwi ffurflen trafodiadau tir ac ar gyfer talu’r dreth; a

dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau a thalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan senedd.cynulliad.cymru; adalwyd 27 Awst 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]