Deddf Trawsgludo 1717
Roedd trawsgludo yn rhan annatod o system gyfraith a threfn yng ngwledydd Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif. Pasiwyd Deddf Trawsgludo ym 1718. Bwriad y ddeddf hon oedd cael gwared â gwehilion cymdeithas drwy eu halltudio yn bell, bell o Brydain i diroedd newydd yr Ymerodraeth. Hyd nes 1776 America oedd prif gyrchfan llongau Prydeinig ond gyda dechrau Rhyfel Annibyniaeth yn America roedd gofyn canfod cyrchfan newydd, a dewiswyd Awstralia.
Rhwng 1787 ac 1852 anfonwyd 147,580 o droseddwyr o Brydain i Awstralia, ac yn eu plith roedd 283 o ferched o Gymru. Yn nechrau’r ddeunawfed ganrif ffurfiwyd cysyniadau ‘modern’ ynghylch rhywedd. Cred a oedd yn ennill lle blaenllaw gan gyfoeswyr oedd y gred awdurdodedig mai merched oedd y gwanaf o’r ddau ryw; yn gorfforol ac yn feddyliol. Ystyriwyd merched fel unigolion mamol, goddefol a chain. Yn ogystal â hyn, credai cyfoeswyr fod merched yn disgyn i mewn i ddau ddosbarth, y merched da a’r merched drwg. Lliwiwyd y gred hon gan draddodiadau Cristnogol; roedd merched un ai’n hollol dda, fel y Forwyn Fair, neu’n hollol ddrwg fel Efa yng Ngardd Eden. Gyda chredoau mor gadarn yn siapio’r ddelwedd o ferched roedd hi’n anochel y byddent hefyd yn lliwio’r system gyfreithiol ac yn arwain at amrywiaeth yn y driniaeth a dderbyniai troseddwyr benywaidd a gwrywaidd.
Ym 1866 mewn erthygl yn y Cornhill Magazine dywedwyd ‘Criminal women, as a class, are found to be more uncivilised than the savage… less true to all natural and womanly instincts… they are guilty of lying, theft, unchastity, drunkenness, slovenliness.’ Roedd cryn stigma yn amgylchynu’r merched hyn; cawsent eu hystyried fel puteiniad meddw, israddol ac anfoesol.
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe[1] derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb. Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau e.e. Ann Watkins a Ruth Roberts.[2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Beddoe, Dierdre (1979). Welsh Convict Women. S. Williams.
- ↑ Richard, Williams (2011). Sentenced to Hell: The Story of men and women transported from north Wales 1730 – 1878. Pwllheli.
- ↑ Tomos, Elin. "Ann Watkins a Ruth Roberts". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22 Mawrth 2018.