Ruth Roberts

Oddi ar Wicipedia

Cymraes a yrrwyd i Dir Van Diemen (Tasmania) am saith mlynedd ym 1847 oedd Ruth Roberts[1] wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.[2]

Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.[3]

Wrth edrych ar y driniaeth a dderbyniodd troseddwyr benywaidd, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw’r gwrthdaro cyson a geir rhwng y ddelwedd o’r ferch eiddil a’r gred fod rhai merched yn wirioneddol ddrwg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ruth Roberts", Gwefan Convict Records; adalwyd 30 Gorffennaf 2019
  2. Tomos, Elin. "Ann Watkins a Ruth Roberts". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22 Mawrth 2018.
  3. Deirdre Beddoe, Welsh Convict Women: A Study of Women Transported from Wales to Australia, 1787-1852 (Y Barri: Stewart Williams, 1979)