Ann Watkins

Oddi ar Wicipedia
Ann Watkins
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Alltudiwyd Ann Watkins (ganwyd tua 1822) o Sir Fynwy i Van Diemen’s Land (Tasmania heddiw), am gyfnod o ddeng mlynedd, wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom.[1]

Ar 28 Mawrth 1840, yn 18 blwydd oed, plediodd hi a Elizabeth Lewis (18 oed) yn euog o ddwyn torth o fara, darnau o gig mochyn (yn cynnwys y wyneb) a chwarter pwys o sebon.[2] Hwyliodd ar gwch y Navarino ar 5 Hydref 1840 gyda 179 o garcharorion eraill a glaniodd yn Tasmania ar 17 Ionawr 1841.[3]

Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tomos, Elin. "Ann Watkins a Ruth Roberts". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "MONMOUIlISHIRKASSIZES - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1840-04-11. Cyrchwyd 2018-03-22.
  3.  Ann Watkins, one of 180 convicts transported on the Navarino, 05 October 1840. Convict Records.
  4. Beddoe, Deirdre (1979). Welsh Convict Women. S.Williams.