Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christopher Davies
Yr AS Cymreig cyntaf i'w adalw

Mae Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 yn Ddeddf a basiwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig sy'n gwneud darpariaeth i etholwyr allu adalw eu Haelod Seneddol (AS) a galw isetholiad. Cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 ar ôl ei gyflwyno ar 11 Medi 2014. [1]

Yn wahanol i weithdrefnau adalw mewn rhai gwledydd eraill, nid yw'r Ddeddf yn caniatáu i etholwyr gychwyn achos. Yn hytrach, dim ond os ceir AS yn euog o gamwedd sy'n bodloni meini prawf penodol y caiff achos ei gychwyn. Mae'r ddeiseb yn llwyddiannus os bydd o leiaf un o bob deg o bleidleiswyr yn llofnodi. Mae deisebau llwyddiannus yn gorfodi'r AS a adalwyd i roi'r gorau i'w sedd, gan arwain at isetholiad.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn pasio'r ddeddf, nid oedd unrhyw fecanweithiau i adalw Aelodau Seneddol (ASau) yn y DU. Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 yn gorfodi unrhyw AS a ddedfrydwyd i garchar am fwy na blwyddyn i ymadael a'i sedd. Gellid rhoi pwysau ar ASau sy'n ymwneud â sgandalau neu a gafwyd yn euog o droseddau llai i ymddiswyddo, ond nid oedd mecanwaith i orfodi ymadawiad AS cyn etholiad cyffredinol.

Roedd y cefnogwyr ar gyfer cyflwyno mecanweithiau galw'n ôl yn cynnwys y grŵp pwyso 38 Degrees ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr . [2] [3] Ymrwymodd llywodraeth glymblaid y DU yng Nghytundeb Clymblaid 2010 i gyflwyno deddf adalw. [4] Yn dilyn sgandal treuliau seneddol y Deyrnas Unedig, ymddiswyddodd nifer o ASau a oedd wedi eu cael yn euog o gamymddwyn ar ôl achosion llys cysylltiedig — er enghraifft Eric Illsley, bu i'w ymddiswyddiad achosi isetholiad Barnsley Canolog yn 2011, a Denis MacShane, a achosodd Isetholiad Rotherham 2012. Roedd yr achosion hyn yn cael eu defnyddio gan gefnogwyr adalw fel esiamplau o'r angen i ganiatáu pleidleiswyr "ddiswyddo" ASau sy'n torri'r rheolau. [5] [6] [7]

Ym mis Mehefin 2012, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol ei adroddiadau ar y broses adalw, gan restru ugain o gasgliadau ac argymhellion a oedd yn cynnwys y farn y gallai "system adalw lawn atal ASau rhag gwneud penderfyniadau sy'n amhoblogaidd yn lleol neu'n amhoblogaidd yn y tymor byr -, ond sydd o bwysigrwydd cenedlaethol neu hirdymor.

Manylion y Ddeddf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Adran 1 yn nodi'r amgylchiadau lle byddai Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn cychwyn y broses adalw, sef:

  • Dedfryd o garchar am flwyddyn neu lai — roedd dedfrydau hwy eisoes yn anghymwyso ASau yn awtomatig heb angen deiseb;
  • Diarddeliad dros dro o'r Tŷ am o leiaf 10 diwrnod eisteddiad neu 14 diwrnod calendr, yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau ;
  • Dedfryd am ddarparu hawliad treuliau ffug neu gamarweiniol.

Y broses adalw[golygu | golygu cod y dudalen]

Unwaith y cyflawnir un o'r amodau a amlinellir yn y Ddeddf, mae'r Llefarydd yn hysbysu swyddog deisebau'r etholaeth (y swyddog canlyniadau neu'r swyddog canlyniadau gweithredol fel arfer). Yna mae'n ofynnol i'r swyddog deisebau wneud y trefniadau ymarferol ar gyfer y ddeiseb er mwyn agor yr achos o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl hysbysiad y Llefarydd. Mae hyn yn cynnwys dewis hyd at ddeg lleoliad arwyddo lle gall deisebwyr lofnodi'n bersonol, mae'r rhain yn gweithredu mewn modd tebyg i orsafoedd pleidleisio etholiadol. [8] Fel gyda phleidleisiau mewn etholiadau, gall pleidleiswyr lofnodi drwy'r post neu drwy ddirprwy . [9] Mae ymgyrchu dros neu yn erbyn adalw AS yn cael ei reoleiddio gan gyfyngiadau gwariant. [8]

Mae'r ddeiseb yn parhau ar agor am chwe wythnos. [8] Nid yw'r swyddog deisebau yn adrodd unrhyw gyfrif parhaus ac ni ddatgelir a gyrhaeddwyd y trothwy gofynnol o 10% o bleidleiswyr cymwys tan ddiwedd cyfnod y ddeiseb. Yn ystod cyfnod y ddeiseb mae'r AS yn parhau i fod mewn swydd. Os yw'r ddeiseb yn llwyddiannus, daw'r sedd yn wag ac mae gweithdrefnau isetholiad yn dechrau. [8]

Os bydd yr Aelod Seneddol yn gadael y sedd, neu os gelwir etholiad cyffredinol, mae'r galw'n ôl yn ddibwys ac mae'r ddeiseb yn dod i ben. [8]

Deisebau adalw a wnaed o dan y Ddeddf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ian Paisley iau,
y cyntaf i wynebu deiseb adalw
Senedd Deiseb AS Achos Canlyniad
57fed 2018 Deiseb adalw Gogledd Antrim Ian Paisley iau Ataliad 30 diwrnod o'r Tŷ Aflwyddiannus (9.4%)
2019 Deiseb adalw Peterborough Fiona Onasanya Dedfryd o garchar am lai na blwyddyn Llwyddiannus (27.6%), yn sbarduno isetholiad Peterborough 2019
2019 Deiseb adalw Brycheiniog a Sir Faesyfed Christopher Davies Euogfarn am ddarparu hawliadau treuliau ffug neu gamarweiniol Llwyddiannus (18.9%) [10], yn sbarduno Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Recall of MPs Act 2015 - Legislation PDF" (PDF). The Stationery Office. Cyrchwyd 23 Mai 2015.
  2. ONE DOWN TWO TO GO – NICK CLEGG ACCEPTS OUR CALL FOR A RIGHT TO RECALL YOUR MP 38Degrees
  3. NUS launches "Right to Recall" campaign NUS
  4. Impact Assessment Right to Recall Parliament.uk
  5. Voters to get right to sack 'bad apple' MPs as Labour and Lib Dems back stronger Recall powers The Daily Telegraph
  6. Public could get right to sack misbehaving MPs The Daily Telegraph
  7. Zac's Campaign for True Recall Zac Goldsmith MP
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Library, House of Commons (2018-08-10). "The first use of a 'recall petition' in the UK". House of Commons Library (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-26.
  9. McCormack, Jayne (2018-08-16). "Ian Paisley recall petition opens" (yn en-GB). https://www.bbc.com/news/uk-northern-ireland-politics-45083840.
  10. "Welsh Tory MP unseated after petition". BBC News. 21 Gorffennaf 2019. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-48720176.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]