Sgandal treuliau Senedd y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Palas San Steffan

Sgandal gwleidyddol a sbardunwyd gan gyhoeddiad hawliau treuliau gan aelodau Senedd y Deyrnas Unedig dros gyfnod o nifer o flynyddoedd oedd sgandal treuliau Senedd y Deyrnas Unedig. Achoswyd dicter cyhoeddus pan gafodd camddefnydd gwirioneddol a honedig ei ddatguddio yn y wasg, er i'r Senedd geisio atal y newyddion o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. O ganlyniad i'r sgandal bu nifer fawr o ymddiswyddiadau, diswyddiadau, dad-ddetholiadau, a datganiadau o ymddeoliad, ynghŷd ag ymddiheuriadau cyhoeddus ac ad-dalu treuliau. Hefyd fe greuodd pwysau am ddiwygio gwleidyddol y tu hwnt i bwnc treuliau.