Deborah Kay Davies
Deborah Kay Davies | |
---|---|
Ganwyd | 20 g Pont-y-pŵl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, darlithydd |
Llenor a bardd Cymreig yw Deborah Kay Davies.
Ganwyd Davies ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, a graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda M.A. mewn Ymarfer Addysgu ac Ysgrifennu Creadigol. Mae wedi dysgu Ysgrifennu Creadigol ym mhrifysgolion Caerdydd a Morgannwg.[1]
Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Things You Think I Don't Know, gan Parthian Books yn 2006. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchgronnau MsLexia, Planet a'r New Welsh Review ac wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4. Mae Davies wedi ennill cystadleuaeth Rhys Davies dair gwaith.[2]
Enillodd ei llyfr ffuglen gyntaf, sef casgliad o straeon byrion, Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009, a oedd yn werth £10,000.[3]
Gweithiau[golygu | golygu cod]
- Things You Think I Don't Know, Tachwedd 2006, Parthian Books, Cardigan. ISBN 1-90576-221-6
- Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful, Hydref 2008, Parthian Books, Cardigan. ISBN 978-1-90576-290-3
- True Things About Me, Gorffennaf 2010 (Canongate Books), Faber and Faber, London 2011. ISBN 978-0-865478541
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Authors: Deborah Kay Davies. Wales Online (22 Ebrill 2009). Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.
- ↑ Deborah Kay Davies. Inpress. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.
- ↑ Alison Flood (16 Mehefin 2009). Debut author stunned by Wales book of the year award. The Guardian. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.