De duodecim abusivis saeculi
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Pseudo-Cyprian |
Iaith | Lladin |
Traethawd Lladin ar foeseg gymdeithasol yw De duodecim abusivis saeculi (sef "Ynglŷn â deuddeg camarfer y Byd"). Bu'n llyfr poblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Credir mai Gwyddel o'r 7g oedd yr awdur.[1]
Awduraeth a chynnwys
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol priodolid y traethawd hwn i Sant Padrig, Awgwstws o Hippo neu Cyprian o Carthago, ond gwyddys erbyn hyn mai gwaith awdur dienw o dde Iwerddon yn y 7g ydyw.[1]
Prif ffynonellau'r traethawd yw Rheol y Benedictiaid, Etymologiae Isidore o Sevilla, a Sylwebaeth Sierôm ar Yr Efengyl yn ôl Mathew. Ond ei brif ddiddordeb i ysgolheigion Celtaidd ydy'r posiblrwydd cryf ei fod yn cynnwys defnydd o'r hen gyfreithiau Gwyddelig cyn-Gristnogol, yn enwedig yn achos yr adran ar y 'brenin anghyfiawn' (rex iniquus).[1]