Cyprianus
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Cyprian)
Cyprianus | |
---|---|
Ganwyd | Thascius Caecilius Cyprianus c. 200 Carthago |
Bu farw | 14 Medi 258 o pendoriad Carthage |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, offeiriad, athronydd, esgob Catholig |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 16 Medi |
Diwinydd Cristnogol, un o Dadau'r Eglwys, ac arweinydd y Cristnogion yn Affrica oedd Sant Cyprianus (Thascius Caecilius Cyprianus; 200 – 14 Medi 258).
Ganwyd yng Ngharthago i deulu bonheddig. Trodd yn Gristion tua'r flwyddyn 245, a rhoddai'r mwyafrif o'i gyfoeth i'r tlawd. Cafodd ei ddewis yn Esgob Carthago yn 248. Fe wnaeth ffoi o'r ddinas pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Decius erlid y Cristnogion.
Cafodd Cyprianus ei roi ar brawf a'i ddienyddio'n ferthyr dan erledigaeth yr Ymerawdwr Valerian I. Dethlir ei ŵyl ar 16 Medi yn yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac ar 26 Medi yn yr Eglwys Anglicanaidd.