David Thomas (Dewi Hefin)

Oddi ar Wicipedia
David Thomas
FfugenwDewi Hefin Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Mehefin 1828 Edit this on Wikidata
Llanwenog Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1909 Edit this on Wikidata
Cribyn, Ceredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Cribyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd o Gymru oedd David Thomas (4 Mehefin 1828 - 9 Mawrth 1909).

Cafodd ei eni yn Llanwenog yn 1828 yn fab i John Thomas (saer) a Margaret ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Llanwenog ar 2 Ionawr 1829 [1]. Cofir Thomas yn bennaf am ei gyfraniadau I gyfnodolion Cymreig ei gyfnod, ac am gyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth:

  • Y Blodau (1854)
  • Blodau Hefin (1859)
  • Blodau'r Awen (1866)
  • Blodau Hefin (1883).

Am nifer o flynyddoedd bu'n athro a phrifathro nifer o ysgolion yng Ngheredigion ac mae llawer o enwogion Sir Aberteifi yn ddyledus iawn i'w hyfforddiant cyn i ysgolion bwrdd ddod i fodolaeth.[2]

Cafodd Dewi Hefin a Mary ei wraig 6 o blant, merch a phum mab. Roedd dau o'r meibion yn feistri ysgol, un yn glerigwr, un arall yn arolygydd ysgol, a'r pumed yn dilledydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cofrestr Bedydd Plwyf Llanwenog David Thomas 2 Ion 1829". Family Search. Cyrchwyd 9 Chwefror 2020.
  2. "DEATH OF DEWI HEFIN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-13. Cyrchwyd 2020-02-09.