David Richard Boyd

Oddi ar Wicipedia
David Richard Boyd
Ganwyd1964 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, amgylcheddwr, diplomydd, academydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddSpecial Rapporteur on human rights and the environment, UN Special Rapporteur on human rights and environment, athro prifysgol cysylltiol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ecojustice Canada
  • Prifysgol British Columbia
  • Prifysgol British Columbia Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr amgylcheddol, actifydd a diplomydd o Ganada yw David Richard Boyd. Yn 2023 ef oedd Rapporteur (neu 'Gofnodwr') Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a'r amgylchedd.[1]

Gweithredu[golygu | golygu cod]

Roedd yn cefnogi cytundeb Escazu[2] ac achos llys Jakarta Clean Air.[3][4][5] Galwodd ar wledydd i roi'r gorau i ariannu eu seilwaith glo.[6] Mae'n gefnogwr i'r ymgyrch #1Planet1Right[7] a chondemniodd ladd Nacilio Macario sef Mayangna brodorol yn Nicaragua, a ymgyrchodd yn erbyn cloddio am aur a thorri coed anghyfreithlon yn ei gymuned.[8] Cyflwynodd Boyd adroddiad am brinder dŵr i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.[9][10]

Addysg[golygu | golygu cod]

Graddiodd o Brifysgol Alberta yn Edmonton, Alberta, Canada ac yna ym Mhrifysgol Toronto. Ef oedd cyfarwyddwr gweithredol Ecojustice Canada[1] ac yn 2023 roedd yn dysgu ym Mhrifysgol British Columbia.[11]

Gweithiau a gyhoeddodd[golygu | golygu cod]

  • Pam mae holl hawliau dynol yn dibynnu ar amgylchedd iach, The Conversation, Hydref 27, 2020
  • Hawliau Natur (Gwasg ECW, 2017)
  • Yr Amgylcheddwr Optimistaidd (Gwasg ECW, 2015)
  • Glanach, Gwyrddach, Iachach: Presgripsiwn ar gyfer Cyfreithiau a Pholisïau Amgylcheddol Cryfach Canada (Gwasg UBC, 2015)
  • Y Chwyldro Hawliau Amgylcheddol: Astudiaeth Fyd-eang o Gyfansoddiadau, Hawliau Dynol, a'r Amgylchedd (Gwasg UBC, 2012).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "David R. Boyd, Special Rapporteur on human rights and the environment". ohchr.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-07.
  2. Foundation, Thomson Reuters. "Can a treaty stop Latin American activists being killed?". news.trust.org. Cyrchwyd 2021-05-25.
  3. "UN expert supports lawsuit on Jakarta pollution". The Jakarta Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-25.
  4. Paddock, Richard C. (2021-05-19). "Citizen Lawsuit Seeks Court's Help in Battle for Clean Air in Jakarta". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-05-25.
  5. "Air pollution will lead to mass migration, say experts after landmark ruling". the Guardian (yn Saesneg). 2021-01-15. Cyrchwyd 2021-05-25.
  6. "Climate crisis: States must stay the course on coal cuts - UN expert - World". ReliefWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-25.
  7. BirdLife International. "Interview with UN rapporteur Dr David Boyd: the power of human rights". BirdLife (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-25.
  8. "Nicaragua : Amidst 'socio-political and human rights crisis', independent expert condemns environmental defender's death". UN News (yn Saesneg). 2021-02-01. Cyrchwyd 2021-05-25.
  9. "UN expert: Water crisis is worsening, urgent response needed - World". ReliefWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-25.
  10. "Human rights and the global water crisis: water pollution, water scarcity and water-related disasters – Report of the Special Rapporteur (A/HRC/46/28) [EN/AR/RU/ZH] - World". ReliefWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-25.
  11. "David Boyd | Institute for Resources, Environment and Sustainability". ires.ubc.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-23. Cyrchwyd 2021-05-25.