David Morgan (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
David Morgan
Morgan yng nghrys Cymru
Enw llawn David Morgan
Dyddiad geni (1872-07-14)14 Gorffennaf 1872
Man geni Llanelli
Dyddiad marw 13 Medi 1933(1933-09-13) (61 oed)
Lle marw Waun Wrla
Gwaith gweithiwr tunplat
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Maswr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Seaside Stars
Llanelli
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1895–1896  Cymru 2 (0)

Roedd David "Dai" Morgan (14 Gorffennaf 1872 - 13 Medi 1933) yn faswr rygbi'r undeb rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli[1] ac a gafodd ei gapio ddwywaith i Gymru.[2]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Morgan rygbi rhyngwladol gyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1895 mewn gêm yn erbyn Iwerddon.[3] Daethpwyd â Morgan i mewn yn lle Selwyn Biggs o Gaerdydd a chafodd ei baru ar yr hanner gyda chwaraewr arall o Gaerdydd, Ralph Sweet-Escott. O dan gapteiniaeth Arthur Gould, wynebodd Cymru Iwerddon mewn penderfyniad 'llwy bren", gyda'r ddwy wlad eisoes wedi colli yn erbyn Lloegr a'r Alban. Enillodd Cymru'r gêm 5-3, diolch i gais dyfeisgar gan Tom Pearson. Y tymor olynol cadwodd detholwyr Cymru ffydd gyda Morgan gan ddod ag ef i'r tîm ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth 1896. Y tro hwn penderfynodd y dewiswyr i greu partneriaeth iddo o'i dîm gartref, Lanelli, gan ddod â Ben Davies i mewn, dyma hefyd oedd ail gêm ryngwladol Davies. Roedd yr ornest yn drychineb i Gymru. Dioddefwyd crasfa o 25-0,[4] ac er mae'r blaenwyr oedd ar fai, ymatebodd y detholwyr trwy ollwng Morgan a Davies hefyd, ni chafodd yr un ohonynt gyfle i gynrychioli eu gwlad eto.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "SWANSEA V LLANELLI - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1896-04-06. Cyrchwyd 2021-03-04.
  2. "David Morgan". ESPN scrum. Cyrchwyd 2021-03-04.
  3. "IRELAND v WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-03-04. Cyrchwyd 2021-03-04.
  4. "ENGLANDVWALES - The Cambrian". T. Jenkins. 1896-01-10. Cyrchwyd 2021-03-04.