David Jones (Treffynnon)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Jones
Portrait of David Jones, Holywell, Flintshire (4673329) (cropped).jpg
Ganwyd Hydref 1770 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Awst 1831 Edit this on Wikidata (60 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog, emynydd, Cerddor Edit this on Wikidata

Cerddor, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd David Jones (Hydref 177025 Awst 1831).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd David Jones, Hydref 1770 yn Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Ei alwedigaeth oedd gwneuthurwr llestri coed. Aeth am gwrs o addysg yn ddyn ieuanc, i'r athrofa yn Wrecsam o dan yr athro Jenkin Lewis. Aeth i Dreffynnon i ofalu am yr eglwys Annibynnol yno yn 1801. Yn 1821 cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chafwyd ail argraffiad yr un flwyddyn yn cynnwys Egwyddorion neu Dôn-raddau Peroriaeth a amcanwyd yn bennaf er anogaeth a chynorthwy i bobl ieuanc (3ydd arg. yn 1826). Yn 1831 aeth i Fanceinion i gasglu at gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Bu farw 25 Awst 1831, yn Lerpwl, trwy ddamwain. Chladdwyd ef yn Nhreffynnon.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, 222;
  • W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (Caernarfon 1907);
  • C. Ashton, Llyfryddiaeth Gymreig o 1801 i 1810 (1908);
  • [ Y Gwyddoniadur Cymreig (1889–96) (ail arg.), vi, 416 D;
  • R. T. Jenkins, Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (1937), 99, 114].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]