David Evans (Dewi Dawel)

Oddi ar Wicipedia
David Evans
FfugenwDewi Dawel Edit this on Wikidata
Ganwyd16 Medi 1814 Edit this on Wikidata
Llanfynydd Edit this on Wikidata
Bu farw20 Rhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
Cwm-du, Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethTeiliwr, tafarnwr, bardd Edit this on Wikidata
PlantWilliam Caradog Evans Edit this on Wikidata

Roedd David Evans (Dewi Dawel) (16 Medi, 1814 -27 Awst, 1871) yn deiliwr, tafarnwr, bardd a chasglwr trethi Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dewi Dawel yn y Gefnffordd, Penygarn, plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Thomas Evans, teiliwr. Bu farw ei dad trwy foddi yn yr afon Cothi.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dilynodd yn ôl traed ei dad, gan ddechrau gweithio fel teiliwr yn gweithio o ddrws i ddrws. Wedi cael llwyddiant yn y fenter agorodd gweithdy teilwra, siop a thŷ tafarn, Y Cwm Du Inn. Yn ychwanegol i'w busnesau bu hefyd yn gweithio fel casglwr trethi ac fel clerc i bwyllgor yr ysgolion lleol.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Meistrolodd reolau cerdd dafod gan fabwysiadu'r enw barddol "Dewi Dawel" bu'n cystadlu a beirniadu mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn yr ardal. Bu hefyd yn cystadlu ar ysgrifennu traethodau. Enillodd yn eisteddfod Llandeilo gyda thraethawd "Dyletswyddau rhieni i roi addysg dda i'w merched", syniad a oedd braidd yn ddieithr yn y cyfnod hwnnw. Argraffwyd y traethawd yn ddiweddarach.

Roedd Dewi Dawel yn aelod o enwad yr Undodiaid, a byddai yn cerdded y 9 milltir o'i dŷ i'r capel undodaidd agosaf ger Llandeilo. Byddai'n cyfrannu'n aml i golofn farddonol cylchgrawn ei enwad Yr Ymofynydd. Un o'i gerddi mwyaf nodedig i'w gyhoeddi yn y cylchgrawn oedd Addysgiaeth yng Nghymru, sef ei ymateb i Frad y Llyfrau Gleision. Roedd mor siomedig ag eraill yng Nghymru am gynnwys yr adroddiad. Roedd o hefyd yn siomedig efo ymateb y mwyafrif i'r adroddiad. Roedd yn ymwybodol bod diffygion yn narpariaeth addysg yng Nghymru ac yn credu bod y cyfle i gael trafodaeth am addysg wedi ei golli trwy droi'r ymateb yn un Capel yn erbyn Eglwys.[2]

Dyma'r gerdd:[3]

Yn ogystal â bod yn fardd roedd Dewi Dawel yn gerddor hefyd. Chwaraeai nifer o offerynnau a fu'n sarsiant band feistr ar seindorf bres fach oedd yn gysylltiedig â chatrawd gwirfoddolwyr y cylch. Dewi a'i feibion oedd bron y cyfan o aelodau'r band.[2]

Mae llawer o'i waith wedi ei gadw gan y Llyfrgell Genedlaethol.[4]

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Mary Davies, Maes yr Haidd, Llanfynydd ym 1837 a bu iddynt ddeg o blant. Bu dau o'i feibion yn ysgolfeistri Thomas Morgan Evans (1838-92) yng Nghwmdu a Dafydd Evans (1842-93) yn Nhalyllychau. Mab arall iddo oedd y bardd Gwilym Caradog, William Caradog Evans (1848-78).[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Tafarn Cwm-du yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Plwyf, Llanfynydd.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "EVANS, DAVID ('Dewi Dawel'; 1814 - 1891), teiliwr, tafarnwr, bardd, etc. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-09.
  2. 2.0 2.1 "Dewi Dawel". Yr Ymofynydd 51: 70. Mawrth 1892. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2555083/2568603/23#?xywh=-24%2C-185%2C2013%2C1785.
  3. "Addysgiaeth yng Nghymru". Yr Ymofynydd 51: 119. Mai 1849. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2555083/2555710/24#?xywh=-347%2C-74%2C3679%2C2392. Adalwyd 9 Tachwedd 2019.
  4. "Llawysgrifau Dewi Dawel, - Llyfrgell Genedlaethol Cymru Archifau a Llawysgrifau". archives.library.wales. Cyrchwyd 2019-11-09.
  5. "BBC - De Orllewin - Teilwriaid Bro'r Lloffwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-09.
  6. "CWMDU TALLEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1892-02-26. Cyrchwyd 2019-11-09.