David Daniel Davis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ffisegwr (meddyg) o Gymru oedd David Daniel Davis M. D. F. R. C. P. (15 Mehefin 17774 Rhagfyr 1841) a anwyd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.  

Astudiodd ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn ei ddoethuriaeth yn 1801.[1] Dechreuodd weithio fel meddyg yn Sheffield, tra'n byw yn Paradise Square o 1803 i 1812.[2]

Genedigaeth Victoria[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymsefydlodd yn Llundain, ac yn 1813 cafodd ei ethol i swydd yn ysbyty ''Queen Charlotte Lying-in Hospital''.[3] Yn y rôl hon, ym 1819, roedd yn dyst i enedigaeth merch Duges Caint sef y Frenhines Victoria.

Cyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1806 cyfieithodd lyfr dylanwadol Philippe Pinel sef Traité médico-philosophique sur l'aleniation mentale; ou la manie gyda'r teitl Saesneg Treatise on Insanity.[4]

Yn 1827, etholwyd ef yn athro cyntaf mewn Bydwreigiaeth yn y Brifysgol yn Llundain. Yn ei astudiaeth o obstetreg, ceisiodd Davis wella offerynnau a ddefnyddid i helpu i roi genedigaethau a chyhoeddodd yn eang am y pwnc, gan gynnwys Elfennau gweithredol Bydwreigiaeth (1825) ac Egwyddorion ac arferion obstetreg... mewn merched a phlant (1836).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Moore, Norman; rev Baigent, Elizabeth (2004). "Davis, David Daniel (1777–1841)". Oxford Dictionary of National Biography. Oxford: Oxford University Press. 
  2. "Memorial Plaque to David Daniel Davis". Public Art Research Archive, Sheffield Hallam University. http://public-art.shu.ac.uk/sheffield/unk226.html.
  3. Gateway, UM-Medsearch (1841). "David Daniel Davis obituary". The Lancet: p. 384. doi:10.1016/s0140-6736(02)84467-1. https://books.google.com/?id=gfsBAAAAYAAJ.
  4. Pinel, Philippe (1806). A Treatise on Insanity. Translated from the French by D.D. Davis M.D. Sheffield: W. Todd. ISBN 0-89093-167-4. 
  5. Bower, Fay (2003). "David D. Davis’s Obstetric Textbook and Atlas.". Australian and New Zealand Journal of Obstetrics and Gynaecology 43 (5): 338–340. doi:10.1046/j.0004-8666.2003.00114.x. PMID 14717306. http://www.ranzcog.edu.au/collections/pdfs/Davis-Obstetric-Textbook-and-Atlas.pdf.