David Clubb

Oddi ar Wicipedia
David Clubb
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffisegydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://clubb.cymru/ Edit this on Wikidata

Amgylcheddwr o Gymru yw David Clubb a enwebwyd fel Darpar Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru[1] ym mis Medi 2021[2]. Penderfynodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd bod Dr Clubb yn berson addas a phriodol i'w benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Seilwaith Cenedlaethol.[3]

Cafodd ei addysg yn Ysgol Brynteg, Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Nottingham, lle cafodd ei Ph.D. mewn ffiseg[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru". Cyrchwyd 2021-12-18.
  2. "Datganiad Ysgrifenedig: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (23 Medi 2021)". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2021-09-26.
  3. "Gwrandawiad cyn penodi - Cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol" (PDF). Senedd Cymru. October 2021. Cyrchwyd 2021-12-18.
  4. Clubb, David (2003). "Spin Dynamics of 3He and 3He-4He Mixtures". eprints.nottingham.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-18.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.