Neidio i'r cynnwys

Daniel Lewis Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Daniel Lewis Lloyd
Ganwyd23 Tachwedd 1843 Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1899 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

Ysgolfeistr ac Esgob Bangor o 1890 hyd 1899 oedd Daniel Lewis Lloyd (23 Tachwedd 18434 Awst 1899). Roedd yn nodedig fel y Cymro Cymraeg cyntaf i ddod yn Esgob Bangor ers dwy ganrif.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llanarth, Ceredigion. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llanbedr Pont Steffan, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen yn 1864. Graddiodd yn 1867, ac yn M.A. yn 1871. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1869. O 1867 hyd 1872 bu’n gurad Dolgellau ac yn brifathro ysgol ramadeg Dolgellau. Yn 1873, daeth yn brifathro Ysgol Friars, Bangor, yna yn 1878 yn brifathro Coleg Crist, Aberhonddu.

Daeth yn Esgob Bangor yn 1890, ond gwaethygodd ei iechyd yn fuan, a bu raid iddo roi'r gorau i’r swydd yn 1899. Bu farw yn Llanarth yn fuan wedyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]