Daniel Gooch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Daniel Gooch
Daniel Gooch by Thomas Dewell Scott (Illustrated London News, 1866-12-08).jpg
Ganwyd 24 Awst 1816 Edit this on Wikidata
Bedlington Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Hydref 1889 Edit this on Wikidata (73 oed)
Windsor Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth peiriannydd, gwleidydd, railway engineer Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Daniel Gooch (24 Awst 181615 Hydref 1889) yn beiriannydd, enwog am ei waith efo Rheilffordd y Great Western.

Ganwyd Gooch yn Bedlington. Daeth yn beiriannydd yn ffatri locomotifau Edward Pease a Robert Stephenson yn Newcastle upon Tyne, ac wedyn yng Ngwaith Haearn Tredegar. Daeth yn orychwylydd locomotifau i Reilffordd y Great Western ym 1837, yn 21 oed. Roedd ei locomotifau'n gyflymach na locomotifau rheilffyrdd eraill, oherwydd lled y cledrau, 7 troedfedd yn hytrach na led safonol y rheilffyrdd eraill. Cynlluniodd o gyfanswm o 340 math gwahanol o locomotifau. Cynlluniodd o Gwaith Rheilffordd Swindon. Gadawodd y rheilffordd ym 1864 i ganolbwyntio ar ddatblygiad cysylltiad telegraffig, a daeth yn gadeirydd y Cwmni Adeiladwaith a Cynhaliaeth Telegraff (Telcon) ac yn gyfarwyddwr Cwmni Telegraff Anglo-American. Goruchwyliodd ef osodiad y cebl cyntaf dros y Môr Iwerydd ym 1866, ac un arall o Brest i Ganada ym 1869. Ym 1865, daeth yn Aelod Seneddol i Cricklade hyd at 1885. Ym 1865, daeth yn gadeirydd Rheilffordd y Great Western.

Bu farw Gooch ar 15 Hydref 1889.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]