Neidio i'r cynnwys

Dan Gadarn Goncrit

Oddi ar Wicipedia
Dan Gadarn Goncrit
Clawr y llyfr "Dan Gadarn Goncrit"
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMihangel Morgan
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ISBN0862434947

Nofel gan yr awdur Mihangel Morgan ydy Dan Gadarn Goncrit. Fe'i cyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa yn 1999.

Adolygiad Gwales

[golygu | golygu cod]

Nofel ddirgelwch yw hon ar yr olwg gyntaf. Mae darlithydd parchus, Maldwyn Taflun Lewis, yn gyrru ei gar cyflym, ac fe ddigwydd rhywbeth sy’n newid popeth yn ei fywyd. Sut mae’r darlithydd yn ymdopi â’r hyn ddigwyddodd, ac â phopeth arall sy’n dilyn? Ond mae yna fwy na hynny i’r stori - wrth i ni ddilyn trywydd y datblygiadau ym mywyd Maldwyn, cawn gyfle hefyd i gyfarfod â llu o gymeriadau eraill. Yn y cymeriadau hyn y mae cyfoeth y nofel. Mae i fywyd pob un ohonynt haenau cudd o dan y ddelwedd arwynebol, ac mae gan bob un ohonynt gyfrinach, a’r hyn sy’n gafael wrth ddarllen yw'r modd y mae Mihangel Morgan yn plisgo ymaith yr arwynebol, ac yn datgelu’r haenau fesul un nes cyrraedd at galon y gwir. Ac mae’r gwir yn hanes ambell un yn dychryn - nid stori i’r gwangalon yw hon. Er gwaethaf yr argraffiadau cynnar, felly, nid stori’r dirgelwch yw craidd y nofel, ond ein hadnabyddiaeth gynyddol o’r cymeriadau.

Mae amrywiaeth y cymeriadau yn eang - o ddarlithwyr yr Adran Astudiaethau Celtaidd yn y brifysgol, i’r butain Lois, y ddau frawd Hedd ac Ellis Wynne, a’r pâr cariadus Tada Pwdin Mawr a Mama Losin, sy’n cadw lle Gwely a Brecwast yn Aberdyddgu. Mae Aberdyddgu’n gartref i Tanwen, arlunydd na werthodd ddarlun hyd yma, ac i Mared, y feudwyes sy’n mynnu siarad Cymraeg ar bob achlysur. I Aberdyddgu y daw’r cardotyn dieithr a’i gi, ac Alys, yr eneth ifanc sy’n chwilio am ei chariad ar ôl ei ddiflaniad sydyn.

Wrth i’r stori ddatblygu, mae bywydau’r cymeriadau hyn i gyd yn plethu i’w gilydd, ac mae’r dychan ar gymdeithas y dref – ac ar natur bywyd yng Nghymru heddiw - yn ddeifiol.

Mae hon yn nofel gymhleth, a dryslyd ar adegau yn y penodau agoriadol. Ond wrth i’r stori a’r nofel ddatblygu, mae perthnasedd y cyfan yn dod i’r amlwg. Mae’r cymeriadu’n gadarn iawn, iawn – mae eu sgyrsiau, a’u meddyliau, yn rhoi i ni ddarlun llawn o bob un person. Maent yn gymeriadau cymhleth ac annisgwyl, ond cyflawn, ac mae’r profiad o’u dinoethi yn rhoi gwefr – neu’n hytrach, yn creu ias.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Adolygiad oddi ar [1], trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.