Damweiniau a digwyddiadau awyrennu
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Diffinir damwain awyrennu gan Atodiad 13 y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO). Gellir crynhoi'r diffiniad fel:
- Digwyddiad sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren sy'n digwydd rhwng yr amser mae unrhyw berson yn byrddio'r awyren gyda'r bwriad o hedfan ac yr amser mae pob person wedi dat-fyrddio, lle bo:
- a) person wedi ei anafu'n angheuol neu'n ddifrifol
- b) yr awyren yn dioddef o ddifrod neu fethiant adeileddol; neu
- c) yr awyren ar goll neu'n llwyr anghyraeddadwy.
Diffinir digwyddiad awyrennu fel:
- Digwyddiad ar wahân i ddamwain, sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren, sy'n effeithio neu gall effeithio ar ddiogelwch gweithrediad.