Damwain hofrennydd Glasgow 2013
Yr hofrennydd dan sylw yn 2010. | |
Enghraifft o'r canlynol | damwain awyrennu |
---|---|
Dyddiad | 29 Tachwedd 2013 |
Lladdwyd | 10 |
Gweithredwr | Babcock Mission Critical Services Onshore |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ar 29 Tachwedd 2013 bu damwain pan darodd hofrennydd Bond Air Services a weithiai ar ran Heddlu'r Alban yn erbyn tafarn "Clutha Vaults" yn Glasgow, yr Alban, tua 22:25 y nos. Mae lleoliad y dafarn i'r gogledd o Afon Clud.[1][2] Cyhoeddwyd yr adroddiad i'r digwyddiad ar 23 Hydref 2015. Canfyddwyd mai achos y ddamwain oedd gorweithio'r injan gan y peilot, a oedd yn sifiliad.
Lladdwyd deg o bobol yn y damwain; tri yn yr hofrennydd a saith yn y dafarn.[3][4][5][6] Bu'r dafarn The Clutha Vaults ar gau tan Gorffennaf 2015.[7] Anafwyd 32 o bobl, 11 ohonyn nhw'n ddifrifol.[1] Yn ôl Gordon Smart, golygydd y Scottish Sun, a oedd yn dyst i'r digwyddiad, ni chlywodd ffrwydriad o unrhyw fath, ac ni welodd belen o dân; yr unig beth a ragflaenodd y ddamwain oedd sŵn injan yr hofrennydd yn tuchan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Quinn, Ben (30 Tachwedd 2013). "Police helicopter crashes into roof of Glasgow pub". The Guardian. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
- ↑ "Helicopter crash in central Glasgow". STV. 29 November 2013. Cyrchwyd 29 November 2013.
- ↑ "Glasgow helicopter crash: Clutha death toll rises to 10". bbc.co.uk/news. BBC News. 12 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Glasgow helicopter crash: Eight dead at Clutha pub". BBC News. 30 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
- ↑ "Glasgow helicopter crash: Ninth victim found". BBC News. 2 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2013.
- ↑ "Helicopter crashes into Glasgow pub". BBC. 29 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2013.
- ↑ "New bar at Clutha to open after helicopter crash". BBC. 24 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2015.