Damages

Oddi ar Wicipedia
Damages
Genre Drama cyfreithiol
Drama gyffrous seicolegol
Crëwyd gan Todd A. Kessler
Glenn Kessler
Daniel Zelman
Serennu Glenn Close
Rose Byrne
Tate Donovan
Ted Danson
Željko Ivanek
Noah Bean
Anastasia Griffith
Marcia Gay Harden
Mario Van Peebles
Timothy Olyphant
William Hurt
Campbell Scott
Martin Short
Lily Tomlin
Len Cariou
Ben Shenkman
Thema'r dechrau "When I Am Through With You" gan The V.L.A.
Gwlad/gwladwriaeth Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 39
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 43 mun.
65 mun. (episod cyntaf/diwethaf y gyfres)
Darllediad
Sianel wreiddiol FX (2007-2010)
DirecTV The 101 Network (2011-presennol)
Darllediad gwreiddiol Mehefin 24, 2007 – presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu drama o'r Unol Daleithiau ydy Damages ("Iawndal") a grëwyd gan Daniel Zelman a brodyr Glenn a Todd A. Kessler (elwir gyda'i gilydd fel KZK). Term cyfreithiol yw'r gair Saesneg "Damages" sy'n golygu "iawndal" ond hefyd "niwed" felly mae'n chwarae ar eiriau. Darlledir yn yr Unol Daleithiau ar The 101 Network (yn flaenorol ar FX), dechreuodd ym Mehefin 24, 2007, a darlledir yn y Deyrnas Unedig ar y BBC, dechreuodd yn Ionawr 2008.

Mae'r rhaglen yn dilyn y cyfreithiwr galluog a didostur Patty Hewes (Glenn Close), ei phrotégé Ellen Parsons (Rose Byrne) a'r cwmni cyfreithiol Hewes & Associates, sydd wedi ei leoli yn Efrog Newydd. Mae pob cyfres yn pwysleisio ar achos mawr gyda Hewes a'i chwmni tra datblygu ac archwilio'r berthynas rhwng Ellen a Patty. Mae'r rhaglen yn dangos yr achos o'r safbwynt y cwmni a'r targed trwy bob cyfres. Mae'r rhaglen wedi atynnu sêr i chwarae rolau yn erbyn Hewes yn cynnwys Ted Danson, William Hurt, Marcia Gay Harden, Martin Short, Lily Tomlin, ac, yn y gyfres bedwaredd i ddod, John Goodman. Enillodd Close a Željko Ivanek, o'r gyfes gyntaf, Emmys ar gyfer eu perfformiadau. Cafodd actorion eraill eu henwi hefyd.

Mae Damages wedi cael canmoliaeth feirniadol a gwobrau teledu niferus, yn cynnwys Golden Globes ac Emmys. Ar 19 Gorffennaf 2010, comisiynnodd DirecTV dwy gyfres mwy o Damages yn cynnwys 10 episod y gyfres a bydd y gyfres bedwaredd yn dechrau ar 11 Gorffennaf 2011. Mae'r rhaglen yn enwog am ei dirdroeon plot, naratif aflinol, teilyngdod technegol a gallu'r actorion.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Actor Enw Cyfres(i)
Glenn Close Patty Hewes 1, 2, 3
Rose Byrne Ellen Parsons 1, 2, 3
Tate Donovan Tom Shayes 1, 2, 3
Ted Danson Arthur Frobisher 1, 2, 3
Željko Ivanek Ray Fiske 1, 2, 3
Noah Bean David Connor 1, 2, 3
Anastasia Griffith Katie Connor 1, 2
Timothy Olyphant Wes Krulik 2, 3
William Hurt Daniel Purcell 2
Marcia Gay Harden Claire Maddox 2
Campbell Scott Joe Tobin 3
Martin Short Leonard Winstone 3

Rhyddhadau cyfryngau yn y cartref[golygu | golygu cod]

Cyfres Rhanbarth Dyddiad
1 Un 29 Ionawr 2008
Dau 14 Ebrill 2008
Pedwar 19 Rhagfyr 2007 (DVD)
18 Awst 2009 (Blu-Ray)
2 Un 19 Ionawr 2010
Dau 31 Awst 2010
Pedwar 25 Tachwedd 2009
3 Un 5 Gorffennaf 2011
Dau 18 Hydref 2010
Pedwar 27 Hydref 2010

Gellir brynu Damages hefyd ar Amazon Video on Demand ac ar yr iTunes Store.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am Damages
yn Wiciadur.