Daeargi Boston

Oddi ar Wicipedia
Daeargi Boston
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs11.3 cilogram Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeargi sy'n tarddu o'r Unol Daleithiau yw Daeargi Boston. Cafodd ei ddatblygu yn ail hanner y 19eg ganrif yn ninas Boston o'r Ci Tarw a'r Daeargi Gwyn Seisnig.[1]

Mae ganddo lygaid tywyll, trwyn byr, a chôt o flew byr o liw du neu'n rhesog (brindle), gyda gwyn ar y wyneb, y frest, y gwddf, a'r coesau. Mae ganddo daldra o 38 i 43 cm (15 i 17 modfedd) ac yn pwyso 7 i 11 kg (15 i 25 o bwysau). Ci addfwyn a chariadus yw Daeargi Boston.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Boston terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.