Ci Tarw

Oddi ar Wicipedia
Ci Tarw
Ci Tarw ar ei sefyll.
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Màs25 cilogram, 23 cilogram Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Brîd o gi sy'n tarddu o Loegr yw'r Ci Tarw. Gafaelgi ydyw a ddatblygwyd yn hanesyddol er mwyn baetio teirw. Fodd bynnag, mae'r brîd hwnnw wedi colli ei ffyrnigrwydd a fe'i ystyrir bellach yn gi cymar yn hytrach na chi ymladd.

Mae ganddo ben mawr gyda thrwyn byr a gên isaf sy'n ymwthio allan, clustiau wedi plygu, a chroen llac sy'n crychu dros y pen a'r wyneb. Mae ganddo gôt fer o flew main, o liw melynddu, gwyn, neu frowngoch, weithiau ar batrwm brithlwyd (streipiau tywyll) neu "laeth a chwrw" (gwyn a brown). Saif 13 i 15 modfedd hyd at ei war, ac mae'n pwyso 40 i 50 o bwysau.[1]

Mae'r Ci Tarw yn symbol poblogaidd o Brydeindod. Mae sawl brîd arall yn cynnwys "tarw" yn yr enw, megis y Daeargi Tarw a'r Ci Tarw Ffrengig, felly weithiau cyfeirir at y Ci Tarw Seisnig neu Gi Tarw Prydeinig i wahaniaethu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Gellir olrhain y Ci Tarw yn ôl i'r 13g. Am chwe chan mlynedd cafodd ei ddefnyddio i ymladd â'r tarw yn y talwrn, pan oedd chwaraeon gwaed yn hynod o boblogaidd. Yn y cyfnod hwn datblygodd dymer dewr a chas, a goddefiad uchel iawn o boen. Bu bron i'r Ci Tarw ddarfod yn sgil Deddf Creulondeb i Anifeiliaid 1835, a waharddodd faetio ac ymladd cŵn.

Yn Oes Fictoria, aeth bridwyr a oedd yn hoff o'r Ci Tarw ati i'w achub, gan fridio'r hen dymer treisgar allan ohono. Cedwid ei ddewrder, ac o ganlyniad un beiddgar ac ystyfnig, er hawddgar, ydy'r Ci Tarw modern.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Bulldog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2023.