Dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten

Oddi ar Wicipedia
Dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten
Enghraifft o'r canlynoldadleuon Edit this on Wikidata
Dyddiad2005 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Medi 2005 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://jp.dk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y cartwnau dadleuol o Muhammad, fel y'u cyhoeddwyd yn gyntaf yn Jyllands-Posten ym Medi 2005. Mae'r pennawd, "Muhammeds ansigt", yn golygu "Wyneb Muhammad".

Dechreuodd dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten yn dilyn cyhoeddiad deuddeg o gartwnau golygyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn portreadu'r proffwyd Islamaidd Muhammad, yn y papur newydd Daneg Jyllands-Posten ar 30 Medi, 2005. Esboniodd y papur newydd taw cyfraniad i'r ddadl ynglŷn â beirniadaeth o Islam ac hunan-sensoriaeth oedd y cyhoeddiad. Fel ymateb, cynhaliodd mudiadau Mwslimaidd Danaidd protestiadau cyhoeddus a chodont wybodaeth ynglŷn â chyhoeddiad Jyllands-Posten. Wrth i'r ddadl mwyhau, ailargraffwyd enghreifftiau o'r cartwnau mewn papurau newydd mewn dros 50 o wledydd eraill, a arweiniodd at brotestiadau treisgar yn ogystal â phrotestiadau heddychol, yn cynnwys terfysgoedd (yn enwedig ym myd Islam).

Disgrifiwyd y cartwnau fel Islamoffobig gan rai beirniaid a ddadleuwyd eu bod yn gableddus i Fwslemiaid, yn bwriadu bychanu lleiafrif Danaidd, mewn cyd-destun o gynnydd baetio mewnfudwyr yn Nenmarc, ac yn enghraifft o anwybodaeth am hanes imperialaeth Orllewinol, o wladychiaeth i'r gwrthdaro cyfredol yn y Dwyrain Canol.[1]

Dywedir cefnogwyr y cartwnau taw darlunio pwnc pwysig o fewn cyfnod o derfysgaeth eithafol Islamaidd ydynt ac mae'u cyhoeddiad yn ymarfer deg o ryddid barn. Maent hefyd yn dweud cânt gartwnau tebyg am grefyddau eraill eu hargraffu'n aml, ac felly ni chânt ddilynwyr Islam eu gwahaniaethu yn eu herbyn.[2]

Disgrifiodd Prif Weinidog Denmarc, Anders Fogh Rasmussen, y ddadl fel argyfwng rhyngwladol gwaethaf Denmarc ers yr Ail Ryfel Byd.[3]

Digwyddiadau tebyg[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Gwefannau newyddion
Barnau