Cytundeb Tordesillas
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 7 Mehefin 1494 |
Rhagflaenwyd gan | Inter caetera |
Lleoliad | Tordesillas |
Yn cynnwys | Demarcation line of Alexander VI |
Aelod o'r canlynol | Memory of the World |
Gwladwriaeth | Teyrnas Portiwgal, Ymerodraeth Sbaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cytundeb rhyngwladol rhwng Ymerodraeth Sbaen ac Ymerodraeth Portiwgal oedd Cytundeb Tordesillas (Sbaeneg: Tratado de Tordesillas, Portiwgaleg: Tratado de Tordesilhas) a arwyddwyd yn Tordesillas, Sbaen, ar 7 Mehefin 1494. Ei nod oedd i atal brwydro rhwng y ddwy ymerodraeth dros y Byd Newydd drwy sefydlu llinell derfyn i gydnabod hawl y Sbaenwyr i'r holl diriogaeth y tu hwnt i orllewin yr honno, ac hawl y Portiwgaliaid i unrhyw diroedd newydd a ddarganfyddwyd i'w dwyrain.
Ym 1494, wedi i Fernando V ac Isabel I—"Teyrnoedd Catholig" Sbaen—glywed am ddarganfyddiad yr Amerig gan Cristoforo Colombo, erfynasant ar y Pab Alecsander VI i gefnogi hawliau Coron Castilla i diriogaeth y Byd Newydd. Cyhoeddodd Alecsander fyliau i sefydlu llinell derfyn o begwn y gogledd i begwn y de, 100 lîg (320 milltir) i orllewin ynysoedd Cabo Verde, a chydnabod hawl y Sbaenwyr i unrhyw diroedd a ddarganfyddwyd y tu hwnt i'r llinell honno. Ar orchymyn y pab, cyfyngwyd mordeithiau a glaniadau'r Portiwgaliaid i ddwyrain y llinell derfyn, ac nid oedd Sbaen na Phortiwgal i feddiannu unrhyw diriogaeth a oedd eisoes dan feddiant gwladwriaeth Gristnogol.
Ni dderbyniwyd y terfyniad hwnnw gan unrhyw rym Ewropeaidd arall ar lannau'r Iwerydd, a mynnodd Ioan II, brenin Portiwgal yn enwedig ragor o le ar y môr i'w longau fforio arfordir Affrica. Yn Tordesillas, cytunodd llysgenhadon o Sbaen a Phortiwgal i symud y llinell derfyn 270 lîg i'r gorllewin, sef 370 lîg (1,185 milltir) i orllewin Cape Verde. Cydnabuwyd y setliad hwnnw gan y Pab Iŵl II ym 1506.[1]
Wedi'r cytundeb, hawliodd Portiwgal draethau gogleddol Brasil wedi i Pedro Álvares Cabral lanio yno ym 1500. Yn ddiweddarach, ymestynodd y diriogaeth Bortiwgalaidd ym mherfeddwlad Brasil y tu hwnt i linell derfyn Cytundeb Tordesillas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Treaty of Tordesillas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Chwefror 2023.