Cystadleuaeth Wici Henebion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cystadleuaeth Rijksmonument)
Neidio i: llywio, chwilio
Inffograffig yn dangos geotagio otomatig, categoreiddio a llawer o'r gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llen.
Mae'r wefan i uwchlwytho'r ffotograffau o Gymru ar Comin yma. Ceir teclyn pwrpasol hefyd, gyda map, yma.

Cystadleuaeth flynyddol mewn ffotograffiaeth ydy Cystadleuaeth Rijksmonument neu Wici Henebion (Saesneg: Wiki Loves Monuments) a gaiff ei gweinyddu bob mis Medi. Trefnir gan gymuned Wicipedia fyd-eang ac yn 2012 roedd 31 ffotograffydd o wahanol wledydd wedi cystadlu.[1] Canolbwyntir ar dynnu lluniau o adeiladau hanesyddol.

Cychwynwyd y gystadleuaeth yn yr Iseldiroedd yn 2010, ond ymledodd drwy Ewrop yn sydyn iawn ac o fewn blwyddyn, yn ôl y Guinness Book of Records, dyma oedd y gystadleuaeth tynnu lluniau fwyaf drwy'r byd.[2]

Logo Wici Henebion

Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Hysbyswyd y gystadleuaeth yn wreiddiol am luniau "Rijksmonument" (sef yr Iseldireg am henebion cenedlaethol) ac ysbrydolwyd ffotograffwyr i dynnu lluniau'r henebion hyn yn yr Iseldiroedd. Roedd y Rijksmonument yn cynnwys pensaerniaeth a gwrthrychau o ddiddordeb cyffredinol a oedd yn hynod am eu prydferthwch, eu nodweddion gwyddonol neu ddiwylliannol. Yn eu plith yr oedd safle archaeolegol Drenthe, Plasdy Brenhinol Noordeinde yn yr Hague a'r tai diddorol ar hyd y camlesi yn Amsterdam. Danfonwyd dros 12,500 o luniau i'r gystadleuaeth.[3]

Lluniau o Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2014 tynnwyd oddeutu 20% o'r lluniau drwy wledydd Prydain yng Nghymru.

Castell Cas-gwent; 2014
2013 1,748
2014 1,426
2015 Wikimedia UK yn peidio cymryd rhan
2016 685
2017... ar y gweill![4]

Un o'r enillwyr yn 2014 oedd llun Karen Sawyer - a roddodd ei llun ar yr erthygl gyfatebol ym Mis Medi - dim ond ar y wici Cymraeg! Dyma'r tro cyntaf i lun o Gymru gyrraedd y brig.

Gwâl y Filiast

Rhai cyn-enillwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Eglash, Ruth (28 August 2012). "Hundreds of cultural sites to be visually documented during "Wiki Loves Monuments event."". Jerusalem Post. http://www.jpost.com/NationalNews/Article.aspx?id=282847. Adalwyd 15 September 2012.
  2. Guinness World Records, Largest photography competition, 2012.
  3. (Ffrangeg) Virginie Malbos, Le monumental concours de Wikimédia, dans Libération, 9 Medi 2011, consulted 22 Awst 2012. "The operation had taken place last year in the Netherlands, and was concluded by the arrival of 12,500 new royalty-free photos."
  4. [https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Images_from_Wiki_Loves_Monuments_in_Wales Categori lluniau o Gymru ar Comin.