Santes Cynheiddon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cynheiddon (santes))
Jump to navigation Jump to search
Santes Cynheiddon
Ganwyd Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Man preswyl Cydweli Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd 5G Edit this on Wikidata
Tad Brychan Edit this on Wikidata
Plant Cymorth Edit this on Wikidata

Santes oedd Cynheiddon ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]

Cymysgu enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu gan dair o ferched Brychan, Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon [1] (neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor ac (ambell waith) Ciwa. Cymysgir nhw hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint fel nad oes modd eu gwahanu'n llwyr. Aeth Ceinwen a Canna i Fôn a cysylltir Cain gyda de-ddwyrain Cymru yn bennaf [2].

De-orllewin Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna), fodd bynnag, yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal Cydweli, ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda Cymorth, a oedd yn ferch neu'n nith iddi.[1][2] Cysylltir hi hefyd gyda Llangain ger aber afon Tywi.[2]

Sedd Canna[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ymyl Llangain mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yno a bod y dŵr yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Arferai'r claf daflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y gadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y driniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y 19g ac mae'r ysgrifen ar y gadair yn amheus ond dywedir fod pant yn y garreg wedi'i greu gan y nifer o gleifion a oedd wedi eistedd arni.[2]

Cysegriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg fod Llangennech, ger aber yr afon Llwchwr, Llangain ar yr afon Tywi a Llangeinor a Llangan ger Penybont i gyd wedi'u cysegru iddi. Cysylltir hi hefyd gyda Phontcanna a Threganna yng Nghaerdydd ond mae'r llefydd hyn hefyd wedi'u cysylltu gyda'i chwiorydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Spencer.R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch