Neidio i'r cynnwys

Cymru yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision

Oddi ar Wicipedia
Cymru yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision
Enghraifft o:cenedl yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Rhan oCystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://junioreurovision.tv/country/wales Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2018 byddai Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision i'w gynnal yn Minsk, Belarus a digwyddodd hynny yn 2018 a 2019. Y darlledwr S4C sy'n gyfrifol am drefniadau Cymru yn y gystadleuaeth.[1] Dewiswyd y cystadleuydd a gynrychiolodd Cymru drwy glyweliadau a ddangoswyd mewn cyfres o dair rhaglen deledu Chwilio am Seren.[2] Enillydd y gyfres ar 9 Hydref oedd Manw o Rostryfan gyda'r gân "Berta" a ysgrifennwyd gan Yws Gwynedd.[3] Daeth Cymru yn olaf yn y gystadleuaeth gyda 29 pwynt.[4]

Bu Cymru yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth o'r blaen fel rhan o'r Deyrnas Unedig rhwng 2003 a 2005 drwy rwydwaith ITV. Dangosodd S4C ddiddordeb mewn cystadlu yng ngystadleuaeth 2008 yn Limassol, Cyprus, ond penderfynodd beidio â gwneud hynny.[5]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Artist Cân Iaith Safle Pwyntiau
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2018 Manw "Berta" Cymraeg 20 29
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2019 Erin Mai "Calon yn Curo" Cymraeg 18 35


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chwilio am Seren". junioreurovision.cymru. S4C. 9 Mai 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-26. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
  2. Granger, Anthony (9 Mai 2018). "Wales: Debuts in the Junior Eurovision Song Contest". Eurovoix. Cyrchwyd 10 Mai 2018.
  3. "Manw yw Enillydd Chwilio am Seren Junior Eurovision". S4C Press. 9 Hydref 2018. Cyrchwyd 10 Hydref 2018.
  4. Siom i Manw yn Minsk , Golwg360, 25 Tachwedd 2018.
  5. Kuipers, Michael (20 Ebrill 2008). "Junior Eurovision 2008: United Kingdom to return to JESC?". ESCToday. Cyrchwyd 9 Mehefin 2009. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]