Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1973 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.deenats.org.uk/ Edit this on Wikidata

Mae Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy yn gymdeithas yng Nglannau Dyfrdwy i ysgogi diddordeb mewn natur ac i warchod bywyd gwyllt yr ardal. Ffurfiwyd y gymdeithas ym 1973, a chawsant caniatâd i leoli cuddfan ar dir Gorsaf Pŵer Cei Connah ym 1974. Erbyn hyn, mae’r gymdeithas wedi creu Gwarchodfa Natur Glannau Dyfrdwy ar y safle. Trefnir teithiau i warchodfeydd eraill, darlithoedd am natur yng Nghanolfan Gymuned Cei Connah[1] a chyfarfodydd am ffotograffiaeth a chelf yng nghanolfan y gymdeithas.

Ymhlith yr adar sydd i'w gweld yn y warchodfa natur mae: Gwyddau Canada, Corhwyaden a Hwyaden wyllt, Pibydd coeswerdd, Pibydd coesgoch a Phibydd y tywod.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y gymdeithas
  2. Steve Oakes. "Connah's Quay Nature Reserve, Clwyd". World Birds. Cyrchwyd 28 Medi 2020.[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]