Cymdeithas Hanes y Tair Llan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Cymdeithas Hanes y Tair Llan yn gymdeithas hanes yn Felinwnda, Llanwnda, ger Caernarfon, Gwynedd, ac maent yn cyfarfod ar yr ail nos Fawrth o’r mis, o fis Medi tan fis Mai.[1]

Ffurfiwyd y gymdeithas wedi agor Canolfan Bro Llanwnda ym mis Medi 2006 pan gafwyd y syniad o greu cymdeithas hanes yn y Ganolfan. Trefnwyd cyfarfod y mis Tachwedd canlynol, i sefydlu’r gymdeithas yn ffurfiol, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y 9fed o Ionawr 2007.

Mae’r gymdeithas yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda siaradwyr lleol, fel haneswyr o Brifysgol Bangor ac o’r tu allan i’r ardal. Bu ymgyrch ar y cychwyn i gasglu hen luniau lleol ac mae’r rhain i’w gweld ym mhob cyfarfod. Fe brynodd y gymdeithas recordiwr digidol er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau allu mynd ati i gofnodi hanesion llafar.

Cyfeiria'r enw at yr hen dair plwyf lleol: Llandwrog, Llanfaglan a Llanwnda.

Isod ceir rai o hanesion yr ardal.

Cofnodion Methusalem Jones o'r Groeslon am yr ardal, sef Y Groeslon, Maes Tryfan a'r Dolydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan 1 o gofnodion Methusalem Jones, Bryn Goleu, Y Groeslon, a ysgrifennwyd tua diwedd yr 1920au (wedi ei nodi fel y'i ysgrifennwyd)[golygu | golygu cod y dudalen]

David Jones Bryngoleu oedd chwarelwr yn nyddiau cyntaf ei oes, ond pan fu farw ei dad gadawodd y chwarel, a sefydlodd i drin y tir gartref. Priododd gyda merch Tŷ Glas, Clynnog, ond ni fu eu arhosiad yn hir yn Bryngoleu, ymadawodd oddi yno i ffarm arall, ar y terfyn, o'r enw Felin Forgan.

Roedd yn gymeriad hynaws tawel, ân yn meddy ar wybodaeth pur eang, darllenai lawer iawn ar lyfrau ac yr oedd yn hoff iawn o farddoniaeth, ymdrechodd lawer i feistroli y cynganeddion, ond bu y mesurau caethion yn drech nag amynedd Dafydd. Dur Wyn ydoedd ei brif fardd ac yr oedd yn medru llawer o'i weithiau ar ei gof. Ymdrechodd ai holl egni gyda gwaith yr eglwys yn Mrynrodyn, bu yn arolygwr yr ysgol am dwy flynedd, a bu yn athraw ymdrechgar ar dosbarth yn y capel. Ni fu yn hir yn y Felin na thorrodd ei iechyd i lawr, cafodd ei gaethiwo am flwyddyn a hanner, a manteisiodd ar yr amser hwnnw i ddarllen, anadlodd ei olaf fun Ebrill 1af 1923, clydwyd ei weddillion i fonwent Brynrodyn gan dyrfa fawr, a dyma dystiolaeth gymwys iddo ef gan Cynderyn yn ei englyn beddargraff. 

Mae un annwyl yma'n huno - aros

Mae hiraeth am dano.

Yn dawel gan flodeuo.

Llafuriai ef, gwellhau fro. 

William Pritchard Hafod Ifan ydoedd fab Owen Pritchard. Bu ef ar y mor am gyfnod, fel yr helyw oi deulu, ond gweithiodd yr rhan fwyaf oi oes yn ngwaith llechi y Grafog. Roedd yn ddyn tawel ymroddgar iawn gyda gwaith yr eglwys ym mhob ran, yr oedd yn fardd a llenor gwych iawn, parod iawn fyddai awen ganddo at bob amgylchiad. 

Aeth i shop John Jones Groeslon unwaith i brynu baco, ac wedi ymddiddan am gwrs o amser gyda John, pan oedd yn cychwyn allan gofynnodd John Jones “William dalais ti dŵad am y baco”, a dyma ei ateb mewn cwpled o gwydd, 

Sion y post un tost wyt ti

Gym arian ar gamwri. 

Dro arall bu ymrafael rhwng dau gymydog o'r ardal, a gwnaeth yntau gan i'r ornest, methais ai chael oi dechreu i'r diwedd, ond cefais ychydig linellau o honni: 

Fe neidiau John y mudan

Ai ddyrnau megis ffyst

Gan daro bwli'r Rhafod

Yn sentan twll ei glyst.

Fe lamai bwli'r Rhafod

Fel milgi ar ei hynt.

Cyrheuddodd feudy'r Gerlan

Bron, bron a cholli wynt.

Roedd yn amlwg mai'r mudan oedd y gorchfygwr. Gwnaeth lawer iawn o farddoniaeth, rhydd a chaeth, ond maent wedi myned ar ddisberod. 

“Yr olaf or Baruniaid”, dyna fel yr edrychem ar y brawd Evans Jones y Dolydd, un o wyr cedyrn ac urddasol gyda'r achos yn Mrynrodyn, ymgododd i sefyllfa o ymddiried a defnyddioldeb mawr mewn byd ai eglwys, efe a adeiladodd capel Brynrodyn, ac amryw o rhai eraill. Bu yn golofn gref o nerth, ac arweiniad i'r eglwys am flynyddoedd Lawer. Dyn oedd ef ar gair garwaf yn mlaen, ond yn meddu ar galon fawr. 

Byddai plant yr eglwys yn lle myned i mewn i'w seddau pan ddeuent yno, yn rhedeg o ddrws i ddrws ac yn edrych drwy y ffenestr a dyna'r pechod mwyaf gan yr hen frawd, llawer gwaith pan fyddai'r plant yn llawn ei hwyliau, y byddai rhyw un o honom yn ei ganfod ac yn rhoddi anıvydd fod Evan yn dyfod, byddem i gyd yn dianc fel lygod o flaen y gath. 

......... ._ ar dy droed pan elych i dy Dduw”. 

Erbyn heddyw mae yntau wedi myned oi ofid, a gallwn ddweyd am dano yn null “Francis Beyond” Thomas Hardy". 

Ewch a rhampiwch drwy'r seti capal

Hogia bach, os leciwch chi

Ac edrychwch drwy'r ffenestri

Nid yw hynnu yn ddim i mi.

Nid oes yno ddim iw boeni

Tawel iawn ei hun ai hedd. ' 

Gorffenodd yntau ei yrfa ar y ddaear hon, ac ymadawodd Mawrth 8, 1922, claddwyd ef yn monwent Llanwnda. 

Y flwyddyn uchod collason ein hannwyl weinidog John Jones, brodor ai gychwuniad ydoedd o Sir Aberteifi, ond daeth i figeilio eglwys Brynrodyn o Brynguran Sir Fon. 

Roedd yn llanu lle mawr nid yn unig ym mhlith pobl ei eglwys a'r cylch, ond yn y Brynrodyn a roddwyd ir fab ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth. 

Dywed fy mod yn ddiolchgar iawn am eu holl garedigrwydd i mi, er pan ddeuthum yma, ac am iddynt geisio cofio a gwneud y pethau y ceisiais eu pregethu iddynt. Dywed wrthynt am fod yn ffyddlon ir Weinidogaeth ar Fugeiliaeth, a theyrnas cariad. Bu farw 24 o Ebrill 1922 yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd “gwr Duw” yn monwent Brynrodyn. 

Dyn o farn addfed ac annibynnol oedd David Roberts, Bronallt, wedi cyfoeth ei feddwl drwy ddarllen llawer ar y llyfrau goreu, ac yn un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul, ymadawodd yntau Awst 25 or flwyddyn uchod. 

Collasom ddau frawd a chwaer or eglwys yn y flwyddyn 1924 sef: Ellen Williams Penybont.

Roedd hi yn fam yn Israel, carai'r achos a hoffai'r tŷ. Cafodd rhan o brofedigaethau bywyd, gwelodd gladdu priod a phlant ond ni lwfrhaodd. Ymdrechodd ymdrech deg a gorffennodd ei gyrfa yn fwy na choncwerwr. 

William Jones Bryntirion, tad, a chyfaill annwyl iawn, ac yn cario'i achos yn ei galon. Dilynai y seiat gyda chysondeb, gwelodd yr ardal gymwynaswr ac arweinydd ynddo, a chafodd yr eglwys ei oreu. Priodol eiriau Paul amdano ef “eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd".

Owen Eames, Glasfryn. Guro brofiad hebaeth, bu yn flaenor yn Rhyd-ddu am gyfnod maith a chodwyd ef ir swydd ym Mrynrodyn yn 1917. Roedd iddo fel blaenor a Christion air da gan ei frodyr. Llenwodd ei swydd yn ffyddlon ir graddau ag y caniatâi ei iechyd. Dywedir iddo arfer llawer o haelioni dirgel i gynorthwyo rhai mewn angen. Mae colled ei aelwyd ar eglwys yn fawr ar ei ôl. 

Robert Lewis Jones, Glynllifon Terrace, boneddwr Christionogol ydoedd ef, yn meddu ar gymeriad prydferth, bu yn gwasanaethu yr eglwys yn neilltuol ffyddlon, bu yn arweinydd y gan am bymtheg mlynedd ar hugain, ac yn athraw gwerthfawr yn yr Ysgol Sul. Dewiswyd ef yn flaenor Awst 1924, daeth yr alwad am dan ef, yn sydyn a brawychys. Bu farw ar y ffordd, pan yn mynd at ei waith i Glynllifon, by biraeth byw am dano, canys yr oedd yn “lsraeliaid yn wir” ai galon mor loew ar grisial ac y bryd mor lan ar goleuni, bu farw Awst 15, 1925.

Ellis W. Hughes, Gilwm Uchaf, brodor o Rhosgadfan ydoedd ef oi dechreyad, bu iddo briodi dwy waith, doniol iawn fyddai yn dweyd yr hanes syt y darfy iddo daro ar yr ail wraig. 

Daeth hebio Gelwrn rhyw noswaith a galwodd yn y tŷ, gan gymeryd arno holi y ffordd i dy Dr Williams, Tryfan, daeth hithau iw ddanfon at y lon, a rhywle ar y ffordd y gwnaed cytyndeb. Bu Ellis yno llawer gwaith wedyn, ond nid i holi y ffordd i unman, hoffid ef oherwydd ei ysbryd tangnefeddus. Ymadawodd yntau yn fuan ar ol colli ei ail wraig, Ionawr 24, 1926

Casglwyd y cymeriadau hynod i gyd oddigerth rhai nad oeddynt yn aelodau Brynrodyn a gadawir rhai allan nad oedd iddynt hynodwedd cymeriad. Wrth gofio a meddwl am yr hen gymeriadau gwelwn eu bywyd glan ..... .. ai calonnau gonest a phur, a chofiwn am eiriau'r bardd,

Cofia dy daid ai ddwylo mawr

Ai gefn yn gwyro tua'r llawr.

A gofyn beunydd gan y nef

Am galon fel ei galon ef.

...................................................

 Ffynhonell: Teulu Methusalem Jones, Bryn Goleu Y Groeslon gynt, drwy law Ifor Williams, Cymdeithas Hanes y Tair Llan. 

Llythyr/Nodiadau i Gilbert Williams Rhostryfan, gan W. Methusalem Jones Bryn Golau Y Groeslon[golygu | golygu cod y dudalen]

(wedi ei nodi fel y'i ysgrifennwyd)

Bryn Golau, Groeslon

Mawrth 20, 1936

Annwyl Mr Williams

Yr wyf wedi bod uwchben eich rhestr diddorol. Mae arnaf ofn nas gallaf olrhain fy hen hynafiaid agos mor bell a chwi. Ni wybum o'r blaen am 'Gefneithin'. Yr oeddwn bob amser wedi arfer eu cysylltu a Tyddyn Dafydd neu fel y byddai'r hen drigolion

Rhosnenan yma yn ei alw, Tyddyn Dafydd Ddu gyda phwyslais mawr ar Ddu megis ag y gwaelid heddiw pan yn dweud 'Y Rugan Ddu'. A oes genych eglurhâd boddhaol ar y 'Dafydd Ddu'. Pwy oedd o?

Cofiaf i'r diweddar Owen Eams (Y Felin) gyfeiliorni yn fawr wrth ei briodoli i enw Dafydd Ddu (Eryri) gwêl ei M S. Perthynai Tyddyn Dafydd a Talsiencyn i Ystâd Llanfair, nis gwn i ba ystâd yr oedd Cefneithin yn flaenorol i'r Glynllifon ei phrynu. Fodd bynnag y mae yr enw tyddyn Daf Ddu wedi cael ei gysylltu gan hanes a thraddodiad ynglyn a'r Methusaleniaid fel nas gallaf roi cyfri o gwbl y paham na fuasai Cefneithin wedi dod i sylw ond at y testyn sef:

Hugh, mab Methusalem Jones ac Anne ei wraig, Cefneithin a fedyddiwyd Chwefror 10, 1760.

John, mab Methusalem Jones ac Anne ei wraig, Cefneithin a fedyddiwyd Ion 10, 1762.

Gan nad wyf wedi cael yr hamdden a ddymunwn i chwilio am y 'benod a'r adnod'. Ai tybed mai yr un ydynt, y 'John” a'r Parch John Jones, Edeyrn wedi hynny, marw os wyf yn iawn gofio 1822, oddeutu 60 mlwydd oed. Mae'r tystiolaethau oedd gennyf i brofi hynny yn anfiodus wedi eu benthyca.

Gan i mi ddarllen gryn dipyn amdano yng Nghymru O M Edwards ac mae llun John Jones yno hefyd, er fod y sawl a'i hanfonodd o dan yr argraff mai llun John Elias ydoedd.

Credaf mai Glan Pherath, sef y Parch Thomas Hughes Machynlleth sydd yn ysgrifennu amdano, er nad wyf yn sicr.

Troais i nofel John Huws, chwedl Mr R T Jenkins (neu ryw rai o'r hogia Bangor) ond nid oes yno ddim penodol am ddyddiad ei enedigaeth, er ei fod yn dod o fewn y cyfnod - 1762. (Gwel Methodistiaeth Cymru IX, tud 267-270). Felly fy nghrêd i yw, (er nad oes gennyf yr un sail o awdurdod) fod y Methusalem Jones, Cefneithin yr un a Methusaiem Jones Tyddyn Dafydd Ddu, er fod y traddodiad a'r hanes mewn llyfrau yn priodoli y Tyddyn Dafydd Ddu fel mangre genedigaeth John Jones (Edeyrn).

Ond beth ddwêd 'Cofnodion Llandwrog'? Teimlaf nad oes genyf hawl i ddod i gasgliad yn y byd - heb brofi. Ond os nad yw 'Cofnodion Llandwrog' yn nodi Tyddyn Dafydd Ddu fel man y bedyddiwyd John Jones, mae yn rhesymol dweud fod yn debyg mai yn Nghefneithin y ganwyd John a Hugh

Pam na allesid camgymeriad y ddau le, mor hawdd ag y priodolwyd y 'Beudy lsaf’ fel mangre genedigaeth Mr Griffith Davies y Rhifyddwr a Owen ei frawd am y Ty Croes yr Hafod Boeth? Gan fod y ddau le yn y ddau amgylchiad mor agos. * (Gwel Meth Arfon Hobley, Hanes Carmel).1

 

Mae yna ryw gyd-ddigwyddiadau rhyfedd os ydyw Methusalem Cefneithin a Methusalem Tyddyn Dafydd Ddu yn ddau berson gwahanol - Methusalem Jones oedd enw tad John Jones ac Anne oedd enw ei fam, ac Anne oedd enw gwraig Methusalem Jones Cefneithin. 

Pa fodd bynnag yr oedd yr h n Fethusalem Tyddyn Dafydd Ddu yn ffugiwr rhy bwysig yn y 18fed Ganrif i`w gamgymeryd am ddim heblaw ryw slip fel a allsai ddigwydd ynglyn â man geni. Cawn ei hanes ynglyn â Chwarelau Ffestiniog bron yn y blynyddoedd y cyfeiriwch sef 1762. 

Byddaf yn meddwl fod cryn lawer o'i hanes wedi mynd i ebargofiant trwy flerwch a diffyg cyfraniad gan neb fel chwi am yr hen ardal diddorol hon. Clywais droeon gan hen chwarelwyr mai yr hen Fethiw Tyddyn Dafydd oedd yr 'hira' ei goryn ymhlith y

'Cilgwyniaid' ac mae ef a daniodd y twll cynta yn Chwarel y Cilgwyn a'i fod yn un o'r fintai a aeth i Lanberis i ddysgu y chwarelwyr yno i “bowdro' a'r tricia a chwareuwyd ynglyn â hynny. Soni Mr Gwynedd Roberts am hyn yn Nghofiant Morus Huws, Y

Felinheli. 

A welsoch chwi Gofiant John Jones, Edeyrn erioed? Mae'n sicr ei fod o gwmpas, gwaith un Griffith Solomon. Mae'n ddiau eich bod yn gwybod amdano, sef GS. Ganwyd oddeutu 1774 yn Blaen y Cae, yr wyf wedi methu er holi cael allan pa le mae Blaencae? Er fy mod yn gwybod mai ym mhlwy Llandwrog, a'i fod yn un o blant Bryn 'Rodyn yn ei hanes bore. Bu yn cadw ysgol yma un adeg ond symudodd ac aeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid. Yr wyf yn deall ei fod yn bregethwr cymeradwy iawn, ac yn neullduol ei ddawn fel darllenwr cyhoeddus ac os nad wyf yn camgymeıyd, brawd iddo o’r enw William Salmon a aeth i blwy Ffestiniog ym more chwarelyddiaeth, a disgynyddion hwnnw oedd y dynion mwyaf cyfrifol a fagwyd yn Ffestiniog.

Buasai gwybod ble roedd Blaencae yn wir ddiddorol ac yn enwedig gael Cofiant John Jones Edeyrn. Wel yr wyf yn crwydro'n arw.

William Jones, mab Methuselah Jones, Chwarelwr, Rhosnenan, a fedyddiwyd Chwefror 24, 1805 (Gaynor oedd enw'i fam).

Yma eto nid oes gennyf seiliau cadarn, ond y mae'r enw 'Gaynor' mor aml yn y pedigri ag yw enw, Methusalem. 

Yr wyf bron yn sicr mai fy nhaid oedd y 'William Jones' hwn ond fy mod eto dan yr argraff mai yn Tyddyn Dafydd Ddu yr oedd yr hen Feth yma eto'n byw. Ond y gwir amdani oedd mai hwy oedd pia  Rhosnenan yma i gyd.  A nês penelin oedd hi hyd y nod 50 mlynedd yn ol pan oeddwn blentyn. 

Brawd i fy nhaid oedd 'Sion Methiw' a fu orweddig am 35 mlynedd fel Sion Wyn o Eifionydd. Coffa da am danom y plant yn mynd i'r Fronhelig ac yn snecian i siambar i gael golwg ar y patiarch yn ei wely wenscot. Merch iddo oedd Margaret Thomas, Cae'r Moel, tebyg yr adwaenech hi. Symudodd Margiad i fyw o'r Fronhelyg i bentre'r Groeslon yn gynnar yn yr eighties. Ond nid a'i Sion ei thâd gyda hi yno, dewisodd fynd i'r Ty-isa-Rhôs gyda'i fab John - tâd Mr Capten Owen ond ni fu fyw yno eitha bythefnos.

Merch arall i'r hen Sion Fethiw oedd gwraig y diweddar William Roberts, R'efail Dolydd. Merch arall, a 'Gaynor' oedd ei henw, oedd gwraig hen ffigiwr da yn y Groeslon 60 mlynedd yn ol sef y diweddar John O Jones, Y Dafarn Dudur, efe fyddai`n lladd moch yr holl ardal a gwnai lu o gymwynasau rhâd ac am ddim i'r ardal megis checio pwysa'r moch rhag i'r chwareiwyr “golli stem“. Mab iddo yw Mr Owen P Jones, Cae Sarn, awdurdod go dda ar hanes yr ardal a chanddo gôf yfaeigar. 

Mae'n ddrwg gennyf, ac yn gywilydd na buaswn yn fwy cyfarwydd a theulu lluosog Tyddyn Dafydd Ddu. Dylid cofio fod yn y tyddynod hyn hyd canol y 19 Ganrif, ddau deulu oedd fei rheol yn byw, yr oedd dau yn Cae iago, dau yn Tyddyn Dafydd, dau ym Mhlas Mawr, dau os nad tri yn Llwyn Gwalch - dyna deulu yn hanu o Lwyn Gwalch, sef y Felin - rhai lluosog yr oeddech yn adwaen rhai ohonnynt. Robert Simon (Tan Lôn), Rhostryfan yna, dyna Trefor ei frawd y cyntaf i mi weled erioed mewn siwt goch, sef y Militia. Credaf mai cael ei ladd gan ryw rufian yn y De a fu diwedd yr hen Drefor druan.

Un arall a fyddai'n gwisgo'r siwt goch fyddai Hugh Tyddyn Dafydd, brawd i Meth a John. Y John hwn yw yr olaf a fu yn denant yn Tyddyn Dafydd o'r hen deulu. Roedd yn ddyn hardd o gorff ac yn un clên odiaeth ond y ddiod2 yn cael y llaw uchaf arno fel ei frawd, Hugh. Nid oes gennyf nemawr gôf am eu brawd Methu a gladdwyd yn gynnar yn yr eighties, mae argraff arnaf nad oedd ond ieuanc ychydig dros 30 oed yn marw. Roedd ganddo yntau fab o'r enw Methu. Claddwyd yntau yn fuan ar oi ei dad pan oddeutu 15 oed - mae carreg ar eu bedd ym Mynwent St Thomas yn agos i borth yr Eglwys. Mae merch i'r Meth yma yn byw yn Nhalysarn - gwraig i Willie Jones mab y diweddar erbyn hyn, Mr R Jones, Tal-y-sarn. 

Anghofiais sôn am William Jones, Tyddyn Dafydd, yr oedd yntau yn un o'r plant. Bu am lawer o flynyddoedd yn yr 'ingian Grafog'. Dreifio peiriannau fyddai 'Will Jôs” a hen gymeriad hynod glên a phoblogaidd oedd, aeth i Dal-y-sarn i fyw gan mai ef fu am flynyddoedd maith yn dreifio ingian Sied Dorothea. Ni aiiai fod ei oed ond rywle o 85 i 90 pe yn fyw.3 Wei dyma fi wedi crwydro ar draws ac ar hyd. 

Mae gan Mrs Capt Owen, Treflan, Groeslon, gofnodion am y teulu, tybiaf i mi weled cofnod am un Methusalem Jones, Tyddyn Dafydd, marw 1827 ganddi ond nid wyf yn hollol sicr, os câf hamdden i fynd i Landwrog, edrychaf. Pa fodd bynnag, y mae yn ddiddorol sylwi cymaint o'r enw hwn a fu yn yr ardal hon am bum neu chwe cenhedlaeth. 

Yr wyf bron yn sicr mai ym Mynwent Llanbeblig y mae Methusalem Jones tad John Jones, Edeyrn yn huno. Bum yn chwilio am ei fedd on nid yn ddigon amyneddgar i fod yn llwyddiannus. Disgynydd iddo yw'r Parch R M Jones, Glascoed. Ond Mathew mae o yn teitlo ei hun nis gwn paham? 

Wel dyna fi wedi traethu bron yr oll. Gyda golwg ar deulu Cefneithin Hugh Hughes wyf fi yn ei gofio yno a'i chwaer, brawd arall iddo oedd Robert Hughes a chwaer iddynt oedd gwraig John Jones Clochydd, Llanwnda.

Cymeriad gwreiddiol dros ben oedd yr hen lanc o Gefneithin, a gwae y sawl a'i aflonyddai rhag cael ergyd fawrol o'r gwn a gadwai. Gair amt4 Huw Huws fyddai 'A'i gwir yw' ac ni byddai byth yn sôn am Mr Wyn y Glynllifon wrth ei enw, ond bob amser 'Mab y Glyn'.

Wrth basio a gâf ofyn i chwi, beth a wyddoch am un John Byswater a fu yn cadw ysgol yn Llwyngwalch. Nid wyf yn gwybod pa un a'i i lawr yn y Felin, a'i i fyny ond mae wedi bod rywbryd tua 1790-1800.  

Gwelais grybwylliad byr amdano ynglyn â 'Gwyndaf leuangc' ond dim byd pellach nai fod wedi bod yn cadw ysgol yma ac fod 'Gwyndaf' yn un o'i ddisgyblion. 

Yr wyf wedi methu'n lan a chael allan pa le oedd5 'Ty Ucha' Rhosnenan, yr oedd Rich Jones brawd John Jones y Saer maen yna wedi bod yn holi amdano o'r blaen ryw flwyddyn yn ôl.  

Yr wyf dan anwyd ac yn llenwi fy meddwl yn blith draffeith caraswn enwi teuluoedd yr hen ardal sydd a'u ‘tai yn y fynwent' bod ag un. Dyna deulu Hafod Ifan, Y Ffatri – John Jones, Y Cilcoed a'r hogia. Teulu Hafod Coed - R Jones y Porthmon a Chadeirydd y Gwarchgeidwad. Dafydd Jones, Y Wern Oleu nad oedd r'un mwy peniog, a hen chum fy nhad o'i febyd. Daniel Eames a'i frodyr - Yr Eamsiaids yn deulu mawr 40 mlynedd yn ôl ond wedi eu teneuo yn fawr erbyn hyn. Ar wahân i'r tri Richard Eames, sef

(1) Richard Eames, Abercynon yn bresennol

(2) Richard Eames, Rhosgadfan yn bresennol

(3) Richard Eames, Connah's Quay yn bresennol. 

Nid wyf yn cofio am enwau yr un ohonnynt. Buasai'n ddiddorol eu holrhain a fy marn ydyw eu bod o gwmpas yma'n foreu. I'r Bryneithin y gallaf fi eu olrhain bella' yn yr ardal hon. 

Dyma deuluoedd mawr ond ar ddarfod bron amdanynt yn yr hen ardal erbyn hyn, sef Deulu'r Rugan (nid teulu y Rugan Wen - yr Huwsiaid)7. Saif yr hen gartref - dim ond adfeilion y tu ôl i'r Rugan Ganol. Dau yn unig o'r disgynyddion allaf enwi'n rhwydd sef: Mr R O Jones, Ysgol Feistr yr Orrel, L'pool, a'i frawd Mr G Jones, Liverpool. Meibion ydynt hwy i'r diweddar Owen Jones Rugan a fu'n flaenor yn M'rodyn. A dyna Robart ei frawd a Tomos a’r doniol Will Owen Rugan. A'i rhy farddonllyd fyddai llinell fel hon?

“Tra bydd croes yn mhentre'r Groeslon, Cofir am ei ddyrus droion”.

Bu farw yn yr Amerig yr hen 'Will'. Buaswn yn hoffi yn fawr allu llunio cywydd i'r hen Will ond nis gallaf. 

Y Robinsons8

Gyda golwg ar y teulu lluosog hwn eto credaf mai gwaith anhawdd ydyw eu holrhain a'u didoli erbyn hyn. Mae'n amlwg eu bod yn yr ardal yn bur fore. A ydynt o anghenrheidrwydd o'r un cyff? A'i yr un yw yr 'Robinson's' a 'Robins'?

Un yn unig o'r rhestr oeddwn yn adnabod yn bersonol, sef Mr William Robinson (geni 1848). Ym mhonc y Faen Goch y Cilgwyn y gwelais ef gyntaf, yr oedd yn cael ei ystyried yn “chwarelwr mawr' oddeutu 1890. Diau fod Mrs Cadwaladr yn ei adwaen yn dda (yn Nhan'rallt yr oedd yn byw). Mae mab i un arall ohonnynt eto'n fyw os nad wyf yn camgymeryd sef William Robinson9 hen ddrumer Band Nantlle - Hugh Robinson Ty'n Bont ger Llwyn gwalch oedd enw ei dad. Clywais Mr O. P. Jones, Cae Sarn yn son am ei daid, William Robinson oedd ei enw yntau, yn byw yn y Plas Mawr, mae ei fedd ger drws yr eglwys yn Llandwrog, Ni chredai Owen P. Jones fod a wnelai ei daid a theulu Glan'rafon dyweder, ond yr oedd y Robinsons Bryn'rhos a Robinson Glan'rafon yn un llwyth yn ol pob tebyg. 

Mae beddfaen hardd (llechfaen) ym Mynwent St Thomas i William Robinson a'r teulu Bryn'rhos ac arni: 

Er Cof am

William Robinson, Bryn'rhos, Llandwrog

Manıv Ebrill 1864 yn 51 mlwydd oed

Hefyd Margaret ei wraig

Marw Chwefror 22, 1863 yn 49 mlwydd oed.

Hefyd er cof am blant yr uchod

Marw Awst 30, 1859, David yn 12 mlwydd oed

Ebrill 19, Thomas yn 14 mlwydd oed

Rhagfyr 25, John yn 25 mlwydd oed 

Y traddodiad ydyw i Thomas golli ei fywyd trwy syrthio oddiar ferlen a'i draed fyned yn sownd yn y gwerthaflau, a'i lusgo'n arswydus - bellder o ffordd. Am y gweddill o`r Robinsons tebyg mai yn Llandwrog y maent yn huno

.

Aeth Humphrey i'r Amerig. Canodd yr Hen Bregethwr sef Shôn Fryn'rodyn fawrhad i un 'John Robinson'. A'i i'r llanc hwn o Bryn Rhos yr oedd? Mae golwg raenus ar y garreg fedd ag eithrio'r relins yn dechrau rhydu. 

Teulu Owen Parry'r Gôf

I mi dyma'r teulu sydd wedi eu llwyr ddifodi megis o ardal y Groeslon. Yr oeddynt hwythau wedi sefydlu yma yn gynnar iawn yn y 18fed Ganrif. Yr olaf ohonnynt oedd Owen Parry Hughes bu yn bostman yn Groeslon, Penygroes a Chaernarfon, ac aeth allan i Ffrainc yn llythurgludydd rhwng 1915 a 1917. Bu farw yn naear Ffrainc. Gallaswn ysgrifennu llawer am y Gwynllys - yr hen gartre sydd erbyn hyn wedi ei chwalu ers llawer dydd. Credaf fod y Gwynllys yn llenwi ystyr yr enw - ei lond. Os nad rwyf yn mawr gamgymeryd, ynddo y ganwyd y gwr mawr hwnnw “John Parri o Gaer”, wedi hynny awdur y 'Rhodd Mam' a'r 'Rhodd Tad', heblaw ei fod yn awdur llyfrau lawer eraill, efe hefyd oedd golygydd cyntaf 'Y Drysorfa'. Mae rhai yn yr ardal, er mai go ychydig, yn cofio yr hen Owen Parri - hanner brawd rwyn meddwl oedd o i John Parri a theip dipin gwahanol. Efe oedd y Cwnstabl - ym more' oes fy nhâd, mab i ôf oedd yntau, ac Owen Parri oedd enw'r tâd hefyd, felly dyna dair cenhedlaeth o ofaint o'r un enw. 

Owen Parri'r mab wyf fi yn ei gofio, Wân Bach y galwai yr hen bobl ef. Yr wyf yn deall mai dyn dipin yn fras - lled gorphol oedd yr hen Gwnstabl, ac hoff iawn o'i lasiad. Nid oedd Owen bach ond cyffredin o gorff ac o bryd dipin yn dywyll. Yr wyf fel pe gwelwn i o'r funud yma yn troi cwrr o'i farclod i estyn ceiniog o'i boced i nol canwylla' iddo i Siop yr hen Bregethwr - Shon Fryn'rodyn ~ oedd gerllaw, er nad oedd y Siop ond ychydig llatheni o'r efail byddai'n sicr i roi ceiniog am nol ceiniog werth o g'nwylla. Roedd yn anwylun os nad yn eulyn genym ni- y plant. Yng nghanol ei brysurdeb, pa sawl cylch a ddarfu iddo hasio i ni yn rhad ac am ddim? Credaf y gwnaeth gannoedd os nad miloedd o “dwllwes cnau” i ni - peth na welais ers 40 mlynedd. Roedd ganddo gast doniol efo'r cylch, ei hobi fyddai bron yn dieithriad cyn i'r cylch oeri bron - mynd a fo i'r lon fawr a rhoi full speed arno i gyfeiriad y Groeslon, a'i bleser mwya` fyddai gweld yr hen gylchyn yn tori ar y slap gynta'. Roedd yr hen ôf trw hyn yn cyrraedd dau amcan - testio yr hasiad a thestio amynedd y phlentyn. Cywilydd mawr i ni fel hogia nad oes 'garreg arw na dwy lythyren' ar ei feddrod llwyd ym Mynwent St Thomas. Mae'n anhawdd esbonio paham y gadawyd fedd un oedd mor boblogaidd ac annwyl gan y chwarelwyr, nid difiyg meddwl, oblegid bu'r peth ar dro rhagor nac unwaith. Hwyrach nad oedd yr ardal yn hoffi symud gan fod y nai, Mr Owen Parri Hughes, a'i chwaer, Miss Catherine Parri, yn fyw y pryd hynny ac efallai dipyn yn falch yn eu ffordd. Fodd bynnag, heddiw ar ol cymaint o amser gall y tô hynaf yr ardal dystio nad oes neb teilyngach yn haeddu nodi man ei 'llety llwch' os mesurir yr haeddiant oddi wrth yr aberth a'r gwasanaeth. Byddai rhywun beunydd yn ei boeni oddi wrth ei waith ei hun - tynnodd ganoedd o ddannedd i bobl y plwy, os dyn fyddai rhoddai ef ar sâch ar lawr yr efail, er difyrwch weithiau i ni'r plant, yn enwedig os byddem yn cario'r syniad ei fod yn dipin o giarph.  Ond os mai merch fyddai'n mynd dan y driniaeth, y ddefod fyddai eu harwain i’r 'Gwyn-llys` a chawsai groeso cystal a phe buasai yn etifeddes Glynllıfon. Gan fy mod wedi bod yn ysgrifennu ei hanes i Carneddog rai blynyddau yn ôl ac o bosibl eich bod wedi ei weled yn ei 'golofn' yn yr herald, ni wnâf eich blino. Anfonais rhaı o'i ganeuon hefyd. Mae un ohonnynt yn dlws hefyd, sef 

“Draw yn Nghoed y Glyn mi glywais

Lais y deryn du" etc 

Ni chefais y copi yn ol gan y Carn. Fel rhigyrnwr yr enwogodd ei hun fwyaf, byddai wrth ei fodd yn rhigymu am droéon trwstan (fel ddigwyddodd yn 1936 pryd y lladdwyd y ci ger Rhostryfan). Megis marw Gomer, ci y Parch John Jones ond y rhigwm a'u cododd genym ni y plant oedd Hanes Owain Gough yn mynd ar ôl Huw Plas Mastiff i Lerpwl. Fel gwyddoch yn dda os byddai ambell i wag wedi mynd i ddyied yn o 'drwm' y ddefod fyddai rhoi 'moonlight shift'. A'r Amerig oedd `dinas noddfa” yr Hen Blas. 

Dilynodd dialydd y gwaed yr hen Huw i Ddinas Lerpwl ond ow, yr oedd yn rhy ddiweddar canys yr oedd y llong wedi cychwyn cyn i'r Hen Huw amlygu ei hun i Gough a dyna'r plot yn y gan, a chredaf nad allsai Charlie Chaplin beri mwy o hwyl a chwerthin na disgrifiad yr hen ôf o siomedigaeth Gough druan. Roedd ganddo ryw ddawn anghyffredin i fynd at bawb, a ryw hiwmor lach diwenwyn. 

Cafodd ei glwyfo’n fawr y ddwy neu dair blynedd olaf y bu fyw. A hynny ynglyn a'r Cyfarfod Llenyddol. Nid wyf yn honi y gallaf roi y manylion, ond digwyddodd rwvbeth yn debyg i hyn. Yn y testynau yr oedd cystadleuaeth ar nifer o benillion, ni chofiaf y testyn, a chan y byddai Owen Parri'n ymgeisydd buddugol bron yn ddieithriad chwareuwyd tric ag ef trwy i un Thos Parri gynnig ar y farddoniaeth a chael ryw eneth fach i fynd ymlaen am y wobr (oblegid fe gafodd y Gôf ei guro y tro yma) ond nid am iddo golli yr oedd Owen Parri yn ddig, ond am y trio. 

Os yw fy nghof yn iawn yr oedd pethau wedi mynd mor bell a bod yna ddealltwriaeth rhwng Thomas Parri a'r beirniad hefyd, sef  Dafydd Dais Pengwern (Tremlyn). A dywedir i'r gôf ymfflamychu yn debyg i hyn “Y rogus Twm y Rugan, A'r pego'r Dafydd Pengwern". 

Fodd bynnag ni welwyd yr annwyl Owen Parri wedyn yn y Cyfarfod Llenyddol, ac er mai ryw ddireidi diniwed oedd y cwbl, eto bu'n foddion iddo gilio a suro weddill ei oes o Frynrodyn.

Cefais y fraint o fod yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul ac y mae fy mharch iddo fel athro yn fawr.

Byddai rywun ar ei gefn beunydd yn ysgrifennu llythyrau, a phethau o'r fath nes robio ei amser yn ddi-drugaredd. Fel mai, yr argraff sydd arnaf heddiw ydyw iddo trwy wasanaethu ei genhedlaeth mor ddibrin, ei fod ei hunan yn ddigon prin i gyfarfod a'r salwch angeuol a ymosododd arno.

Tybiaf iddo farw heb gael ond cystudd byr, ryw glefyd fel y Typhoid Fever megis ag y lladdwyd amryw eraill o'r ardal hon, aeth a'i fywyd.

Brodor Prydain fyddai'n galw ei hunan yn ostyngedig hefyd. Wel huned fy hen gyfaill, a chyfaill fy nhad hefyd a chaned y 'Deryn Du' eto uwch ei fedd llwm ym Mynwent Cefn'nen (dyna'r enw roid 50 ml yn ol ar St Tomos). Af finnau yno i roi briallen neu ddwy rai o'r dyddiau nesaf yma, ofnaf mai go brin y gwelodd neb yn dda yn ystod y 40 Gwanwyn a aeth heibio. Pe buaswn yn cael fy newis i roi ar garreg ei fedd dyma fuasai, un wnaeth Ceiriog iddo ei hun, 

“Carodd eiriau cerddorol, carodd feirdd

Carodd fyw'n naturiol

Carodd gerdd yn angweddol

Dyma ei Iwch a dim lol. 

Teulu Gruffudd Edward

Dyma un stori eto “ei le nid edwyn ddim ohonno mwy".

 Nid wyf yn disgwyl y gwelaf neb eto'n llanw'r swydd o flaenor yn hafal i'r diweddar annwyl Gruffudd Thomas Edward. Yn ddios yr oedd yn blaenori ym mhob dim, dyma flaenor blaenoriaid, ac eto nid oedd yn y gradd lleiaf yn ymylu ar ddim tebyg i dra- awdurdodi nac anglwyddiaethu. Cymerai ei le mor naturiol a'r ddeıwen, a bu y bwlch ar ei ôl megis ag y gwelis ar ol colli cysgod derwen gadarn ym myd natur. Roedd o gorff urddasol a hardd, yn mesur buaswn yn tybied o gwmpas 5 troedfedd a 10 modfedd i ddwy lath o daldra, ac os yr un yr oedd ei ddwy ysgwydd yn tueddu i fod yn uwch neu yn fwy ysgwar na'r cyffredin. Roedd felly yn ymddangos yn wr llunaidd ryfeddol. Cerddai bob amser yn urddasol iawn, heb yr un ymgais o'i eiddo at ymddangos felly. 

I goroni hyn eto yr oedd yn ddyn diwylliedig, boneddigaidd, a dawn ymadrodd o'r mwyaf hapus a fu'n annerch unrhyw gyhulliad erioed. Dywedid fod cuddiad ei gryfder i'w briodoli i gylch ei ddarlleniad yn enwedig Llyfr y Diarhebion, a'r Salmau, yn ogystal a llyfrau eraill. Yn ysgrythyrwr cadarn, ac nid hynny yn unig, ond yn Gristion boneddigaidd. Roedd yn codi'r Traethodydd o'i gychwyn. Gwelodd Eglwys Bryn'rodyn

ei Werth yn more' ei oes. Gwnaed ef yn flaenor yn yr oedran cynnar o 26 oed.

Mor hardd a gweddus yr edrychai ef ar y naill gongl i Set Fawr Bryn'rodyn, a'i gyfaill a'i gyd flaenor y diweddar Evan Jones, Dolydd yn y gongl arall. Ni fu deuddyn erioed yn cyd-dynnu yn well.

 Fy marn onest ydyw na chynyrchodd plwy Llandwrog yn ystod tymor ei oes, a chymeryd bobpeth i ystyriaeth neb mwy na Griffith Thomas Edward ac hwyrach y gellid estyn cortynnau y cylch yn llawer mwy. A ydych yn rhy ieuanc i'w gofio yn 'Swyddog Plant yr Ysgol'? er nad ydwyf yn sicr a oedd eich plwy chwi (Llanwnda) yn ei ddosbarth10

Yr wyf bron yn meddwl mai ef neu Daniel Thomas, Yr Hafod oedd y cyntaf o dan Y Bwrdd Ysgol. Ei fan gwanaf oedd nad oedd cystal gweithiwr a'r cyffredin. Ond dywedai y rhai a wyddai oreu amdano ei fod yn weithiwr da, ond nad oedd ei iechyd er hardded corfif oedd ganddo yn caniatau iddo wneud caledwaith mawr. 

 Oddiar fy adnabyddiaeth i ohoni hyd nes yr oeddwn oddeutu 18 oed tueddir fi'n gryf i gadarnhau nad oedd gan G. J Edwards ond hen gâs bregus iawn, a phrofodd felly'n union yn ei gystudd olaf. 

Cofiaf yn dda am ddiwrnod ei gladdu - diwrnod i ethol cynrychiolwyr ar y Cyngor Sir – y cyntaf erioed rwy'n meddwl. Awd a chorff Mr Edwards i'r Capel (Bryn'rodyn). Darllenwyd llythyrau oddi wrth Mr D Lloyd Jones ac eraill (yr oedd peth cysylltiad teuluaidd rhyngddo a phlant yr Hen Dal'sarn). 

Dywedwyd llawer y dydd hwnnw, ac y mae 42 er hynny ac nid wyf yn tybied y dylid tynnu yr un gair yn ôl. 'Gruffudd` meddai'r Hybarch John Jones 'A fu ffyddlawn yn yr holl dy'. Ac Amen ddywedwn innau. 

Byddem ni y plant yn cael treat ganddo pan y darlithiau i ni ar Ddau Dy y Senedd yn y Band of Hope. Roedd yn sôn wrthym am Dy'r Arglwydd a'r Arglwydd Ganghellor a'r Sach Gwlân, mor gartrefol a phe buasai yn sôn am 'Yr lngian Grafog” (lle y bu yn gweithio'n hir). Mae'n rhyfedd gennyf os nad oedd G.T.E. wedi ei dorri allan i amgenach safle nag y'i gwelwyd”. 

Private & Confidential

 Un stori bach am G. T Edwards a chyd flaenor.

 Rywdro ychydig cyn marw G.T.E. cafwyd achos i alw 'Cyfarfod Brodyr” a'r mater dan sylw oedd 'achos un o'r blaenoriaid' - Thomas Jones, Glangoes, blaenor o radd dda, yn enwedig ynglyn â phethau allanol yr Eglwys, dywedais radd dda am bethau allanol. Yr awgrym a roid weithiau fyddai na chodwyd mo T. J. yn rheolaidd gan yr Eglwys ond y gwnaed camgymeriad ar bwys ei fod o a Thomas Jones arall, T. J. Pen'rhosgwtta - brawd yng nghyfraith i T. J. dan sylw - yr un enw. Nis gallaf benderfynu a oedd ryw sail i beth felly a'i peidio. Beth bynnag am hynny, yr oedd achos T. J. y biaenor i ddod ger bron y 'Clys isa' - y Cyfarfod Brodyr (The...below). Cyfarfod Brodyr - a drama y noswaith honno, ar nos Fercher ar ol y Seiad yr oedd. A'r charge yn erbyn T. J. Y blaenor oedd “ei fod o ac Eliza Jôs ei wraig allan a'u gilydd ac wedi ymwahanu”. Cyhuddid T. J. ym mhellach o “greulondeb tuag at Lisa trwy ei thagu". Llwyddid y Cyf. Yma gan G. T. E. ac er fod degau o flynyddoedd er hynny y mae mor fyw o fy mlaen a phe buasai yr wythnos diwetha. 

Yn y gadair o dan y Pwlpud yr oedd yr hen dad, John Jones (y cynta'). Dyma'r llywydd yn codi i fyny a gwedd lwydach nag arfu arno (yr oedd yn llwyd yn naturiol). Ac er nad oeddwn ond ieuanc, deallais ar wedd ddifrifol G. T. E. fod rywbeth mawr ar dro. 

Agorodd y llywydd y mater yn ddeheuig dros ben, gan roi pwyslais mawr ar y ffaith fod safle T. J. yn gwneud pethau yn fwy anhawdd a difrifol i fynd o'u cwmpas. 

Rhoddwyd hefyd ar ddeall fod y Swyddogaeth wedi bod yn Glan Gors yn ceisio 'cael y partion at eu gilydd'. A thra yr oedd G. T Edwards a'i holl egni yn ceisio cadw gymaint a allai o ddillad ar y cyhuddedig a'r cyhuddedig yn y Dock (Y Set Fawr), a'r llywydd yn wir yn gymhedrol iawn yn cyflwyno ei achos gerbron. Dyma Tomos i fyny, a'i sparking plug wedi ei danio yn ofnadwy - y fath na welwyd mae'n debyg mewn na ffair na thafarn erioed, heb son am Set Fawr, a chan fod ei groen mor felynddu ag Ashianti, yr oedd yr olygfa yn un anhawdd ei desgrifio, ond gallaf eich sicrhau ei bod yn olygfa - scene ys  dweud y...........  Ac am G.T.E. yr oedd erbyn hyn a golwg gynhyrfus os nad gwanaidd arno.

A chan godi ei freichiau hirion yn ogystai a chodi ei lais “Eisteddwch i lawr" meddai “os dymunwch mi wnawn godi eich achos i Lys uwch” meddai wedyn. Ac fei pe i gleinsio sylw G.T.E. “ia wir Gruffudd” meddai yr Hen Weinidog, “Mae'n rhyfedd nad ai y dyn allan”. Ac allan yr aeth Tomos fel milgi a chafodd y frawdoliaeth ef yn 'euog' a'r ddedfryd basiwyd arno oedd ei “susbendio o'r Set Fawr am 6 mis” Ond y traddodiad oedd yr adeg honno nad aeth Tomos fawr bellach na drws y Capel ac iddo pan oedd y swyddogion yn mynd are', neidio ger Giat Llwyngwalch fel daeargi i wddw G. T. Edwards a'i dagu yn sych, a chafodd y teiti genym ni y iiaf... fel “Y Tagwr". 12

 

Private & Confidential

 Hanes yr Hen Goff ar y carbad. 

Gan fy mod wedi son am Owen Gough, waeth i mi orffen a dweud dipyn o'i hanes yn mynd ar y carbed'. Yn y Seiad nos Fercher yr oedd hyn, yn y Capel y cynhelid y Seiad. Roedd yn ddealledig y byddir yn dod ag achosion ymlaen a 'disgyblu' cyhuddiad aelodau o'r Eglwys o “ymyfed' ac enwyd amryw a ystyrid yn 'golofnau' o fod wedi bod yn Dinas Dinlle yn 'slotian'. Ni ddaeth neb ymlaen fodd bynnag ond y brawd Owen Gough ac ar ol y gwasanaeth dechreuol dyma'r hen John yn gafael yn ei waith a chan ddechreu gwneud sylwadau pur hallt, dyma enwi Gough a thıwy ei fod mor flaenllaw ac yn enwedig mor wlithog a godidowgrwydd ei ymadrodd mor lithrig a hysbys, dyma'r hen John yn gafael yn ei fwa ac yn dechrau gwagio ei gawellad saethau (fel y medrai yn dda) ar yr hen Goff.

Ac wedyn meddai “mi gawn y gwir gan Goff reit siwr” a dyma fo yn brasgamu o'r set fawr i gyfeiriad Goff fei pe buasai am ei guro. “Wel Goff rhowch i ni gael gwybod beth ddigwyddodd yn 'lan y mor'?" A dyma Goff yn dechreu pesychu a cheisio hel ei hun at  ei gilydd. Ac yr oedd llawer o gias a bwmbast yn yr hen Goff - yr olaf am wni o urdd y teilsuriaid crwydrol y ffordd yma beth bynnag. Nodwedd arall yn Goff oedd y byddai yn ceisio siarad yn ramadegol iawn. Meddai “mae yn hollol wir y bum i yn Dinas Dinlle yr adeg ar adeg". “Ho, felly, a gawsoch ddiod feddwol yna Goff?” gofynnai y Gweinidog. “Wel do, hynny yw, mi gerddais i lawr bob cam, ac mi chwysais yn enbyd yna cymerais lasiad o gwrw”, ebai Goff “iddo fy oeri, felly”. “A'i dyna'r cyfan a gawsoch felly Goff?” gofynnai'r Gweinidog. “Wei na", meddai Goff, “ar oi oeri ychydig mi ymdrochais, ac ar ol hynny drachefn, mi a aethym yn oer dros fy holl gorff nes yr oeddwn yn crynu fy nanedd, a thybiais y buasai glasiad o gwrw yn fy nghynesu a chymerais lasiad o gwrw drachefn, yna mi a gynesais yn fuan". “Ho, Ho, ie wir, y glasiad cwrw yn eich oeri, ac yn eich cynhesu chwi Goff, lol mi lol Goff, chredai monoch Goff, chredai monoch". Dywedaf innau yn ngeiriau awdur Y Epis at y Hebreaid.13

Amser a ballai i mi son am deulu Cae Iago, Garreg Fawr, Bryn Ffynnon, Croesffordd, Pencaerwern, Dolnanan (teuiu gwraig J Jones Bryn Manaw), Bryn Pistyll, Gerlan a llu eraill, a'r rhai mwyaf oll Teulu Plas Dolydd, Evan Jones yn enwedig a John Davies, Y Traian, rhag c'wilydd i Fryn'rodyn i'w hen  fynd i ddifancoll. Samuel Jones, Dolydd tad John Owen Jones y joiner yna. Ac wedyn yn y pentre'r Groesion - dyna hanes gweithdy E Jones“ a'r crefftwyr gwych oedd yno, yn seiri, stone cutters etc. Gweiwch nad wyf wedi gwneud dim i'r pwrpas oedd gennych chwi mewn goiwg pan yn anfon y rhestr.

Cofion

W. M. Jones 

NODIADAU

1 Yr wyf yn meddwl fod yma gryn “ddefnydd hanes' yn yr rhan yma o 'Landwrog enwog annwyl” am gyfraniad yr hen frodorion yma pe na buasai yn ddim ond eu hymgais ddewr 'i agor y Chwarelau Llechi yn wyneb llawer o rwystrau ac erledigaeth. Nid wyf yn gwybod yn iawn faint o'r giang a fu yn ngharchar (Caernarfon) a fu yn arfer mynychu Capel Bryn'rodyn. Mae'n fwy na thebyg fod genych chwi restr ohonynt, nid oes genyf fi gofnod yn y byd wrth law. 

Ond yr oeddech chwi a minau yn adwaen Owen Jones Cae Morfudd a fu yno. Bu Hugh Jones Llwyn’piod yno hefyd - fisoedd os nad wyf yn methu  Fe ddiangodd yr Hen Gapten, sef Robert Ifan Davies, brawd Dafydd lfan, Bryn Golau i Gornwall neu rhywle pell. 

2 Cawsom ddarlith yn ystod y gaeaf gan Mr Bob Owen, M.A. ac yn ol y darlithydd nid y syndod ydyw ein bod mor ddrwg, ond ein bod mor dda ag yr ydym. Dywedodd na sobrodd hyd y nod y Diwygiad Methodistaidd mo'n cyndeidiau hyd yn agos i 1835. Er na ddefnyddiodd y term ond buasid yn casglu mai 'meddw ac afreolus` oedd ardal Bryn'rodyn.

Gan y gofynwyd i mi ddiolch i Mr Owen dywedais nad oeddwn yn cydweld, parthed ardal Bryn'rodyn a chofiais i mi weled ysgrif gennych yn y Genedl ers llawer dydd a'ch bod yn sôn fel yr oedd Mr Hobley yn dweud fod 'Sion Gruffudd', Bryn'rodyn wedi melldithio Tafarn yr Hen Efail.

Fodd bynnag yr oedd yr Hen Efail wedi cau ac wedi ei throi yn ysgol Dafydd Ddu yn gynnar yn 19 ganrif. Wrth basio eto, nid rwyf yn gwybod am fawr neb o'r ardal hon a fu yn ddisgybl i'r Bardd

ond R Huws uwchlaw ffynon. 

3 Mab arall Tyddyn Dafydd Ddu oedd Robert, nid oes gennyf un math o atgo' amdano ef, er y dylaswn ei gofio, ac yr oedd ganddo fab at fy oed pan oeddwn yn yr ysgol yn Penffordd-elen.

Clywais fwy o sôn am hwn ar gyfri iddo gyfarfod a damwain, os nad a’i ddiwedd hefo’r dyrnwr - aeth ei goes iddo. A chredaf i'w hanner brawd gael damwain yn agos yn debyg - ei fraich o aeth i'r dyrnwr. W Davies oedd enw hwn - mab Dafydd Evan y Bryn Golau. Hen ffugiwr go wych oedd Dafydd Ifan, ond mae`r traddodiadau amdano bron a darfod, buasai pennod amdano yn ddigon diddorol, hen wr tal ac wedi croesi ei 80 wyf fi yn ei gofio. Dafydd lfan Daniel fyddai'r hen bobl yn ei alw, yr oedd o'r un gwehelyth a Daniel Eames a'r 'Eamesiaid', a John J Evans, `F.G. S. Etc 

Gan fy mod yn methu'n lân a chloddio i lawr i'r sylfaen buaswn yn wir ddiolchgar i chwi wneud ynglyn a hen deulu Tyddyn Dafydd. Er nad wyf yn bwrw fod dim gwerth yn y cenheldlaethau diweddaf ond fy mod yn credu y byddai'n haws olrhain trwyddynt hwy - dyma'r anawster yr wyf ynddo. Pa berthynas oedd fy hen daid - Meth Jones, Tyddyn Dafydd a fu farw rywbryd tua 1827 i'r hen Feth ag y mae gymaint o hanes iddo a thraddodiadau yn yr rhan olaf o'r 18 Ganrif? Bum

yn darllen yn lled diweddar am John ei fab (J. J. Edeyrn) yn pregethu o 400 i 500 o weithiau bob blwyddyn rhwng 1790 a 1802 ond cafodd ei dorri i lawr wrth bregethu tua Ffestiniog, ond gwellhaodd ond nid i'r un graddau y bu ei iechyd ar ol hyn. Fodd bynnag, yr oedd yn bregethwr poblogaidd anarferol a chanddo gorff eithriadol o gry cyn y salwch. Dywedir fod ei arswyd gymaint fel na feiddiau neb ei groesi heb sôn am ei erlid. 

Gan na fynwn i er dim i neb feddwl fy mod yn honi fod dim o'r hynafiaethwr ynof, yr wyf yn ostyngedig iawn yn hel y llwyth at eu gilydd, creu gallaf hwyrach y gellwch chwi wneud ‘coeden achyddol' ohonnynt. 

Methusalem Jones                                a (Gaynor ei wraig)

Marw oddeutu 1827 os gywir          os wyf yn gywir eto 

Eu plant 

John Jones                    William Jones               Hugh Jones a Catherine ei wraig

(Sion Methu)                marw oddeutu 1875     (nid oes gennyf wybodaeth pa

marw odd. 1886           Tyddyn Meinsenk         bryd y bu fanıv)

wedi hynny                   Tyddyn Dafydd Ddu 

tad                                                                   tad

John Jones Tyisarhos                                        Hugh

Marged Thomas, Caermoel                              Robert

Gaynor Jones, Y Siop,                          John

Groeslon                                                          William

(Gwraig John Jones,                                         Meth

Dafarn)                                                             Gaynor

Mary Roberts, Efail Dolydd 

Fy mhroblem fawr ydyw, pwy oedd yr hen gono - Meth Jones? A pha berthynas oedd i'r hen Feth, tad John Jones, Edeyrn? 

4 Chwaer arall i Huw Huws, Cefneithin oedd gwraig Griffith Roberts (Tan y graig), Penygroes.

Dichon eich bod yn adwaen Mr Willie Roberts MA, eu mab. Bu yn Arolygwr yr Ysgolion ond y mae ei hanes yn ddieithr i mi yn awr. Roedd tad Mr W Roberts MA yn perthyn i minau o ochr fy mam. 

5 Fy nyfaliad gyda golwg ar 'Y Ty Ucha Rhosenan' ydyw mae yr enw cyntaf ar y Garreg-Wen, ger Dolnenan ydyw, mae yma ddau dy, a buaswn yn cyfri fod y mwyaf gryn 100 mlynedd yn hyn na'r llall, a dyna'r Ty Isa Rhos - (Rhosnenan) odditano, a'r Penisa 'rhos gerllaw. Ond nid oes air am hynny yn y Title Deeds efo'r sais sydd yno'n byw. 

6 Yr Eamsiaid. Pa un ai at y gweithfeusydd copr a'i y llechi y mae'r estroniaid hyn wedi dod, fe allai y ddau a'r plwm hefyd. Dyma' nodiad ddigon diddorol gan (Carneddog neu Gruffudd Prisiart).

Nathaniel Eames, o Bryn Coch, a Mary Morris ei wraig, a gladdwyd yn un dydd, Hydref 29, 1788. Mab ydoedd hwn i John Eames, a ddaeth o Swydd Derby, i weithio i Fwlch Plwm, Llanfrothen.

Gwel Mwnfenydd yr Eryri o M S Gruffudd Prisiart (tua 1860) wedi eu copio gan Carneddog.

Cymru O M Edwards, Cyf XX tud 314. Yn ol Gruffudd Prisiart dyma ddechreuad hiliogaeth yr Eamsiaid a'r Clossiaid hefyd o ran hynny. O'r gwaed yma yr oedd Ioan Arfon yn hannu. 

7 Teulu Rugan. Roedd y rhain yma'n lled gynnar, synwn i ddim nad oeddynt yma'n bell cyn i Deulu'r Rugan Wen ddod o'r Plas Newydd. Roedd Robert Owen, tad Owen Jôs 'Rugan a'i frodyr Robert, Tomos a Will Owen ac yr oedd iddynt chwaer - Ellen. Roedd eu tad yn frawd i W. Owen y Rugan Ddu. (nid wyf yngwybod pwy oedd Laura Owen...)  William Owen Rugan Ddu oedd tad y fraethbert David O Brian Owen. Gair ami W O fyddai 'Be sy well?' Roedd ei nal W. R. O. yn tebygu'n fawr iddo - coffa da amdano tua efail Owen Parri'r gôf pan yn blentyn. 

8 Y gred ydyw mai Ysgotiaid yw y Robinson's a rhaid eu bod wedi ffynnu yma'n gynnar iawn. Mrs Williams gweddw Owen Williams, Saer a chwaer mam Mr John Jones y Saer-maen wr fwyaf o'u hanes - nid yw'n dda ei hiechyd ar hyn o bryd, mae yn hannu ohonnynt. 

9 Anfonais nodyn at W Robinson, Nantlle, i ofyn a allai roi ryw oleuni, ond hysbyswyd fi ei fod wedi mynd yn ddigon ‘digri' er hynny yr wyf yn lled sicr fy mod yn iawn. 

Gwyddwn i sicrwydd ei fod o a H G Williams - ar lafar gwlad Huw William bach, yn ddau gefnder. Huw bach Ty'n Bont y gelwid H. W. Mab ydoedd i G Williams Ty'n  Bont. Os ydyw M. S . Owen Eames ganddoch cewch hanes mab arall i'r G. W. hwn yn cael ei saethu gan y Spring Gun yn Glynllifon. A darfu iddynt ei dresio i'r Tyn Bont - wrth ddilyn ei waed. Tâd oedd y H. W. Bach hwn i Mrs J. T. Jones, gwraig ein cynrychiolydd ar y Cyngor Sir.

10 Am gyfnod maith iawn, GTE fyddai'n cyhoeddi ym Mryn'rodyn ac roedd ei ddawn enillgar gyda'r gwaith yma eto ymhell uwchlaw neb a glywais ar ei ol. Nid oedd yna ddim i dynnu oddi wrth, nac i ychwanegu ato yn y gwaith anhawdd hwn. 

O ie un da oedd 'Gruffudd' ys y'i gelwid gan yr hen Weinidog. 

Collodd ei briod yr hon oedd yn ferch i'r hen Domos Huws o 'Rugan Wen' yn dra sydyn. Bu iddynt ddau o blant, mab a merch - Tom a Margiad. Thomas Edwards, masnachwr llwyddiannus yn Llangefni oedd. Tom - gwr call, teilwng fab i'r tad, yr oedd ganddo yntau ryw iaith fwyaf hapus. Yr oedd ei ferch Margaret hefyd yn meddu'r un rhinweddau ac yn hoffus ryfeddol. 

11 Nodiad am G.T.E. yn yr Ysgol Sul. Cofiaf yn dda am y Parch. W. Williams, Tal-y-sarn yn holi mewn Cyfarfod Ysgol. Yn ol y ddefod y pryd hynny, rwyn meddwl mai yn y Pwlpud yr oedd W.W.

Y maes oedd yr Epis at y Hebreaid. Os nad wy'n methu gofynai'r arholydd am ddeffiniad o'r gair "Person" a chan ei fod yn grym gwestiwn yr adeg honno, fel y mae'n wir eto, aeth dipin yn fud, ac yn ddistaw ar bawb “Dowch Mr Edwards" meddai'r arholydd gan apelio at G.T.E. - dan wenu a chan fod y Pwlpud yn eithriadol o uchel, fe welai W.W. G.T.E. yn rhoi ei wydr mawr ar ryw lyfr oedd ganddo ac atebodd yn llythrennol ohonno. “O, ie wir” meddai W.W. “felly yn hollol y mae

Principal Edwards yn dweud hefyd yn te'?” “A ydych chwi o'r un farn a'r ddau Edwards'?” meddai W.W. Na feddylier y byddai G.T.E. yn arfer; cario esboniad ond y tro hwn. 

12 Nis gallaf brofi dilysrwydd y 'tagu' ger Giat Llwyngwalch, er na fuaswn yn synnu o gwbl at beth felly wrth i mi atgofio agwedd T. J. y noson Seiad honno. Ond credaf nad oes neb oedd yno y noson honno ar dir y rhai byw, os nad oedd Mr Henry Hughes y maent wedi mynd 'bod yg un'.

Teg a coffadwriaeth T. J. ydyw i mi ddatgan y bu yn flaenor go dda wedi y cwbl pe buasai ganddo cystal dawn i danio'n ysbrydol ag oedd ganddo i ymhyllio yn ariannol - buasai yn 'rhoi Cymru ar dan' fel yr Hen Dal'sarn.

Dawn bach oedd ganddo, a byddai yn gwneud mess ohonni hefo'i illustratíons bob gafael – y tebycaf iddo heddiw ydyw ei nai - fab ei chwaer - John Hobley Griffiths, bu farw oddeutu 1907. 

13 Yr wyf yn gweled fy hun braidd yn anghyson hefyd, wrth adrodd hanes yr hen Goff gan y buasid yn darllen rhwng y llinellau fod Mr Bob Owen M.A. yn dweud y gwir. Ond daw ryw chwerthin ar fy nghalon wrth gofio 'troion yr yrfa' a daw llawer o onestnıvydd i'r golwg hyd yn nod yn y llerdd yr oedd yr hen saint 'yn wan". Synwn i ddim nad oedd yr hen Goff yn meddwl ei fod wedi ‘gneud strôc' go dda, yn dod 'i'w dreial' y noson honno. Cofiaf iddo ar ol hyn gael ei godi yn “Brif Demlydd" yn y Groeslon ac roedd ganddo feddwl mawr o'i swydd, a rhoddwyd cystadleuaeth

gwneud nifer o benillion i'r “Prif Demlydd”, dyma'r unig linellau wyf yn gofio. 

“Mae Gough yn rholyn castiog ~

Yn llawn o uwd a lol

Yn mesur trigain modfedd

Yn hwylas draws ei fol."

Ni chymerodd Gough y llinellau yn dramgwydd o gwbl.

14 Elis Jôs y Crydd. Mae ryw argraff arnaf mai brawd i Elis oedd gan Eben yn ei gân “Y Morwr Bach”. Dyma eto hen ffigiwr diddorol yn y Groeslon 40 a 50 yn ol. Roedd yn hanu o Glynog, a soniodd lawer am Eben Fardd wrthym ond nid oeddem yn gwerthfawrogi digon ar ei bethau yr adeg honno. Dyn byr, llydan ei ysgwyddau ond byr ei wddf oedd. Byddem yn myned i'w weithdy bron yn ddyddiol, a byddai ganddo bapur yr herald, a disgwylid i ni ddarllen y papur yn gyhoeddus, ac ar ddiwedd bob paragraph go ddiddawl byddai'r crydd yn rhoi math o Amen neu gymeradwyaeth i ni gellid cymryd hynny bob amser y byddai yn cael ei blesio, yn y mater dan sylw a hefyd yn y darllenwr. Owen Jones y Dafarn oedd ei brif ddarllenwr. Credaf mai dyn

anrhydeddus iawn oedd E. J. Roedd ganddo ddylanwad mawr arnom ni y plant ac os buasai rhai ohonom yn ymddvwn yn anheilwng gwyddem mai y strap fyddai yn ein hanwesu.

Mab iddo yw Mr Hugh Ellis Jones, cyn Ysgol Feistr, Y Cemaes, Môn. Ni welais ef ers degau. Gelwid John Jones yn 'John Cae lago' am mai yn Cae Iago Bach y'i magwyd os nad y'i ganwyd.

Crydd oedd yntau hefyd a chrefftwr ardderchog ond yr anffawd oedd nad oedd ganddo gapital i gael lledr, ond dywedir y byddai y sawl a feddu y moddion i dalu ymlaen yn cael llôg da ar eu harian, yn gymaint felly fel y byddai yn gywilydd gan rai ohonnynt wisgo yr un par byth a hefyd ar hyd y blynyddoedd. 

Clywais ei fod yn mesur troed i rywun - John y Groesffordd am wni, a gofynai John y Crydd i John, “faint o wich s'arnat eisio yn un nhw John'?”

“Rhowch dipin go lew" ebai John yn ddiniwed. Roedd gwich yn y ffasiwn gan lafna' yr adeg honno. Ystyrid John Jones yn athro da, a  trwm o'r 'hen ysgol'. Meddai ar ddau lygaid tlysaf a welais erioed.

Ffynhonnell Ifor Williams, drwy law teulu Methusalem Jones. Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu cyhoeddi'n gyhoeddus.  

Darlith yng Nhymdeithas Lenyddol Brynrodyn Nos wener chwf 7fed 1944[golygu | golygu cod y dudalen]

 

Adgofion Meth Jones O ardal Brynrodyn a'r cylch o'r flwyddyn 1873 hyd 1944.[golygu | golygu cod y dudalen]

Canolbwynt fy modolaeth yw Capel Brynrodyn. Yn gyntaf oll, fe ddylech fel pwyllgor nodi rhywun a thraed go fawr ganddo i sathru fy nhraed inau, rhag ichwi flino arnaf, os gallaf fyned yn mlaen o gwbl. 

Everybody's Birthday Guide 1944

Dyma ddywed ynglun a mi fy hun

Sept 24'“ to 27"“

“Show gain through Friends"

“Extension of artistic”

“Social and public activities"

“Shows a good deal of travel” 

“clywch clywch" 

Wel dyna ichwi ddarn da o broffwydoliaeth am dana. U (1) Yr wyf yn benderfynol o

gadw at un adran o'r testun beth bynnag, sef “Cymysgfa Fawr o Drefn ac Anrhefn".

Wel rwan am dani - y cyntaf a ddaw o dan fy sylw yw yr Hen Batriarch yr Amwyl John Jones (Yr hen Sion Frynrodyn). Gweinidog a gwerthwr cyffyriau i anifeiliaid. Yr roedd yn Brifweinidog mewn llawer ystyr. 

Wel yn awr dyma fi am ddechreu yn y modd mwyaf hunanol fedrai i, cyfeirio yr ydwyf am y noson ces fy medyddio ganddo - yr oeddwn yn faban tlws iawn o bosibl, y tlysaf un o blant yr Eglwys yr adeg hono oddigerth hwyrach Mrs Maggie Jones (Lewis) Brynffynnon. Wel cofiaf neu dychmygaf fy mod ar fraich fy mam, ag yntau yn gofyn iddi enwi y plentyn, ac yn fy nghymeryd yn ei freichiau ei hun, ac wedi cael yr enw (nid oes sicrwydd llawn pa un a'i Methusalem a'i Methuselah) rhoddodd ei law yn y ddysgl fedydd – a gweddiodd am inni gael byw i gael myned yn hen fel yr hen Batriarch ei hunan. Gyda llaw mae traddodiad yn dweyd mai fi gafodd ei fedyddio gyntaf yn y ddysgl sef rhodd yr hen Simon Hobley ynghyd a'r llestri Cymun ydynt (y rhai presenol) eraill. 

Symmudaf yn bresennol yn mlaen pump oed; oedd y capel yma pan aned fi - ac nid pump oed oeddwn i pan adeiladwyd y capel. 

Wel y pregethwyr ydwyf yn ei gofio ydynt - yr anwyl (Hen) John Jones

David Roberts (Rhiw)

John Davies (Y Traian)

David O Brian Owen (Grugan Ddu)

William Evans (Llwyngwalch)

William Davies (Bryn Pistyll)

William Jones (Y Rhandir)

David Williams (Fern Villa)

John Jones (Ty Mawr)

John Jones

D Tudwal Davies

Maldwyn Davies

R. G. Jones, E. R. Evans. W. Thomas Cae Ffridd.   

Enwau yr hen flaenoriaad ydwf yn ei gofio ydynt.

(1) Griffith T. Edwards y Cyhoeddwr goreu yn ddi-ameu trwy'r wlad i gyd.

(2) Daniel Eames.

(3) Richard Eames ei frawd a gyfarfyddodd a damwain angeuol yn chwarel

Llanberis.

(4) Evan Jones, Plas Dolydd.

(5) Thomas H. Griffith, Grugan Wen.

(6) Thomas Jones, Glan Gors yr hwn bob amser a siaradai am ryw gasgliad neu

gilydd.

(7) Owen Jones, Croesffordd.

(8) Owen Jones, Glynllifon Terrace.

(9) Evan T Hughes, Grugan Gannol.

(10) Henry Hughes.

(11) Humphrey Jones. 

Caniatewch imi ddwyd yn garedig, yr roedd yr hen flaenoriaid hyn yn gallach a charedicach o lawer na`r staff presennol oherwydd yr roeddynt yn gwahodd hen frodyr fel fi a Thomas Roberts oeddynt wedi colli ei cly\ıv i radda, yn gynnes i'r “Sedd Fawr” i wrando yr Efengyl ac i roddi ambell Amen yn ei schil hwy. 

Arweinyddion y Canu

1 Griffith Hughes, Grugan Villa. Efe oedd y cyntaf erioed imi fyned i'w gynhebrwng

- yn llaw fy nhad pan oeddwn 7 neu 8 oed. Griffith Hughes mi dybiaf oedd y cyntaf i

gael myned a'i gorph i'r capel ddydd ei arwyl.

(2) Robert Evans, Caerbongam. (Yr hwn oedd yn enwog am seinio ei bitch fork dros

y lle).

(3) John Hughes y Gwynllys.

(4) Richard Eames, Ty Capei.

(5) Henry Jones, Shop lsaf.

(6) Rowland J. Thomas, Post Office.

Y stori wyf yn goflo am Rd Eames ydoedd (rhoddi enw ei gariad Kate Ellen Parry ar ei lyfr Tonnau mewn llythrennau breision). 

Yr Ysgol Sul

Fy Athraw cyntaf - yn dysgu'r wyddor oedd gyda math o pointer yn ei law oedd yr hen frawd Thomas Jones, Garreg Fawr, ac yn ail i ddysgu sillebu - oedd yr hen frawd Evan Roberts, Brynrodyn, ac yn dilyn ar ol hyny i ddosbarth y darllen, yr hen Owen Parry y Gof oedd yn athraw sefydlog bob amser. 

Yr hen weddiwyr cyntaf wyf yn eu cofio, ag oeddynt bob amser yn boblogaidd a pharchus oeddynt.  

O.P.

(Byddai O.P. yn gofalu bod ganddo ddigon o fferins ar ein cyfer.

Samuel Jones, “Dolydd", ac “Ysgubor Fawr”.

Yr hen Owen Gough, Y teiliwr.

William Lewis, “Brynffynon”.

Richard Evans, Beudy-newydd”

Dafydd Evans, “Bryngoleu”.

John Hughes (Hewn Bererin), “Penybont".

John Jones, Y Crydd.

Owen Jones, “Croesffordd”.

John Jones, “Bryngoleu".

William Pritchard, Cae Ffridd.

Robert Evans, “Y Gerlan".

Owen Hughes, Pen Caer Wen.

Griffith Jones, Dyffryn Terrace. 

Y Band of Hope

John Hughes, Y “Gwynllys".

Harry Jones, Y Shop.

Henry Hughes, “Llwyn Gwalch”.

Richard Eames, “Ty Capel".

Cofiaf am stori gan Richard Eames sef stori Simon Llwyd y Fotty yn mynd a buwch i ffair Caernarvon - daeth sais ato a phrynodd hi, a thalodd am dani a gwnaeth i Simon ei chadw iddo a chadwodd ef mor hir, fel y blinodd wrtho, a gwerthodd hi am yr ail waith, a chafodd ei erlun o'i hachos yn y llys - a'r cwbl a gawd gan Simon oedd, wel dyma le da i wneyd ty gwair, ola biaen - fel nag oedd dim gwell i wneyd nai ryddhau o'r achos a dyma fina ar ol triugain mlynedd yn gwneyd yr un modd gyda tas o wair a'i gwerthu ddwy waith ac yn derbyn £15 a £25 am dani. Clod i Rd Eames am roi y symbol i mi yn fy mhlentyndod! 

Cofiaf am gystadleuaeth mewn Band of Hope unwaith. Y testyn oedd penillion i'r “Band of Hope” a'r hen Owen Parry y gof oedd y beirniad. 

Y farddoniaeth bob amser a gyrrai'r feirnadaeth mewn can bob amser dan ofal rhai o'r plant. A fi a William fy mrawd oedd yr unig ymgeisiwyr y tro hwn, a fi oedd y buddugol. 

Band of Hope sydd yn lle Hynod

A phawb yn mwnglian fel cacynod.

Humphrey “Ty Draw” oedd fy ffygenw i a Shakpier oedd fy mrawd, y feirnadaeth oedd -

Y goreu o ddigon yw Humphra Ty Draw - a Shakespier enwog a gafwyd yn y Baw.

Hip hip hwre ect ect.

Yr hen ganeuon wyf yn ei gofio ydynt o waith yr hen O Parry. 

(1) Draw yn nghoed y Glyn mi glywaf

Lais y Deryn Du ect ect.

(2) Rhen Gomer a fu farw

A'i gladdu yn Cae Gwyn

A phawb oedd yn ei gynhebrwng

Yn gwisgo dillad gwyn.

So John Jones Pregethwr

A dafydd Grugan Ddu

A Griffith T. Edwards

A John Jones y Crudd. 

(3) Owen Gough y teiliwr Glas

Mynd i Lerpwl ar ol rhen Blas.

Aeth Owen Gouch ar y Deck

Gwelai Huw yn chifio'r het. 

Enwau rhai o Hen Bregethwyr wyf yn gofio yn fynych yn dod yma ydynt - sef cyfeillion mynwesol yr hen John Jones ydynt. John Jones Abercin, neu Pwllheli os mynwch, yr hwn a ddaeth a dwfr afon yr lorddonen i fedyddio ei faban bach (Fy nhestyn i fel yr arferai ddweud bob amser). 

Robert Hughes, “Uwchlaw Ffynnon”.

John Puleston Jones hefyd wyf yn ei gofio'n dod yma am y tro cyntaf - ac yn dweyd wrthym fod ganddo guess faint oedd hyd a lled y capel - gan fod pawb wedi pesychu erbyn hyn. Howell Roberts, Clynnog hefyd oedd ymwelydd cyson iawn a ni yn Mrynrodyn ac yn yr Hen Bost office.

Anthropos hefyd oedd un o'r favourits fyddai yn galw yma yn fynych iawn. Cofiaf

Richard Owen, y diwygiwr hefyd yn dod yma ar ddydd lau tnıvy'r dydd a'r capel yn orlawn fel Sasiwn fawr. Hefyd Evans Roberts y Diwygiwr yn dod yma hefyd. Hefyd cofiaf John Williams “Brynsiencyn” yn dod yma gyntaf erioed, ac wrth fynd adref y dynion mewn oed yn dweud wrth eu gilydd am dano. Hwn fydd mawr ac yn proffwydo yn dda amdano yn union fel y bu. 

Daw cofion am gyfarfodydd Llenyddol Brynrodyn i'm cof. Cyfarfodydd llewyrchus a phoblogaidd - Brynrodyn oedd yn cael cyfarfodydd dydd Nadolig a Rhostryfan y dyddiau dilynol fel yr oedd cynulliadau mawr yn dod yma o bell ffordd o Llanberis, Cwmglo, Llanrwst a holl ochrau Caernanvon yng nghyda Talysarn, Penygroes a Llanllyfni. 

Cofiaf un Nadolig yn arbenig bu agos i'r Capel ddod i lawr a myned ar dan - ar ol y tro hwnw bu byd o wahaniaeth yn y tyrfaoedd. Cofiaf un peth neillduol ynglyn a mi fy hun yn y cyfarfod mawr hwn - yr roedd cystadleuaeth ymddangos mewn hen wisg Gymreig.

Cefais inau fenthyg ryw hen suit o Blas Glynllifon, aethum yno i'r berw mawr a dim ond fy hunan bach oedd yn “ymgeisio” ac with lwc roedd y beirniad wedi ei daro'n wael a gwrthodais innau ymddangos yn yr heldrin fawr oedd yn y lle, ond mynais gael y wobr o 7/6 am fy nhraffeıth. 

Pan oeddwn blentyn mi roedd tai y Groeslon bron i gyd yn shopa mawr a man shop

John Jones - pregethwr yr “Hen Bost”.

Shop Griffith T. Edwards.

Shop Owen Gough.

Shop Thomas Parry (Y Post office presenol).

Shop Harry Jones.

Shop Ellis Jones (Y Crydd).

Shop William Appiffonum (lyfrau).

Shop Catrin Jones y (Tai Next Door)

Shop John Jones (Dafarn)

Shop Thomas Jones (Rd Owen).

Shop Papurau.

Shop Fferins Betsy Jones.

Shop John Jones y Crydd.

Shop Evan Ty Rhos.

Shop Y Butcher.

Shop Y Bakehouse.

Shop Seth Lewis.

Shop Dorothy Griffith.

Shop Hugh Thomas (Dd Rts) Wms.

Shop Uchaf Dyffryn Terrace (Teilwriaid).

Shop Eames.

Shop Robert Roberts butcher.

Shop Catherine Williams.

Shop Richard Eames (llestri).

Shop Gig Dafydd "Yr Ynys".

Shop Catherine Parry, “Garreg Fawr". 

Cofiaf yn dda am weithdy coed Evans Jones y Dolydd yn myned ar dan a pwlpud a set fawr Capel Bwlan yn cael eu llusgo allan cyn iddynt fynd yn goelcerth. 

Amgylchiad trist iawn yn y pentref oedd marwolaeth yr hen Ellen Jones y post office, priod yr hen weinidog Parch John Jones - trwy gael ei lladd wrth roddi Mail y Post yn y train. Peth arall pwysig iawn yn y dyddiau hynu fyddai Club Pisgah yn dyfod i'r Llanfair Arms ar ddydd lau Dyrchafael i gael ciniaw. Peth bach arall wyf yn gofio ydyw i iar perthynol i Llanfair Arms fyned o dan y tren. 

Tua hanner can mlynedd yn ol yr roeddwn yn un o'r lliaws Rebels fel y maent yn cael edrych arnynt y dyddiad presenol - sef nifer wedi cael eu nodi megys gan Eglwys ac Ysgol Sul Brynrodyn - i fyned i Gapel bach y Graianfryn bob sabath fel am wn i i geisio gwneyd drwg i Eglwys a Chapel Glan Rhyd, ond syrthio drwodd wnaeth y cyfan, ein harweinydd ydoedd Owen Jones Croesffordd, blaenor yma gyda ni yn Brynrodyn 45 neu 50 o'r aelodau yn cael eu rhoddi dan ddisgyblaeth Eglwysig.

Symudwn yn mlaen yn awr i'r “Cefn”. Y peth mwyaf neillduol gofiaf am y “Cefn” ydyw imi fod mewn claddedigaeth yno. 6.30 am y boreu yn claddu Mrs Roberts. Cae’r Moel oedd y lle pellaf wyf fi yn ei gofio yn dod i Brynrodyn, a'r cof sydd gennyf am yno yw i'r hen Mrs Thomas freuddwydio gweled plentyn bach wedi boddi yn y ffynnon gefn nos - a'r dydd dilynol daeth telegram yn dweyd fod ei mhab John wedi boddi yr un oriau yn afon Llundain. 

Ty Croes yn mynd ar dan. 

Pentref y Dolydd - Tafarn ydoedd y Plas, pan gofiaf ef gyntaf.

Stori. Cofiaf am hen wraig wedi manıv yn un o'r tai bach gyferbyn a'r plas a'r arferiad y dyddiau hynu fyddai i rywrai warchod tros y nos yno - hyd nes y delai yr arch i'r ty a'r noswaith hono trefnwyd i wr y dafarn a rhyw gyfaill iddo i warchod. Deallodd Hugh Jones, Tyddyn Dafydd ymwelwr cyson a'r plas, pwy oedd i fod yno y noswaith hon - penderfynodd fyned i mewn trwy ffenest yn y cefn, ac aeth i mewn o'u blaen i'r ystafell lle yr oedd y corph - daeth o hyd i ryw gynfas wen a rhoddodd hi drosto. Yn y man daeth y gwylwyr i mewn ac wedi rhoddi y fan mewn trefn a gosod y bwrdd a'r ddiod arno, dechreuasant loddesta. Dyma Hugh Jones yn gwaeddi tıwy gil y dnıvs “Does bosibl gen i eich bod yn dwad yma i feddwi a minna yn gorph yn y fan yma", a dyma'r ddau yn rhuthro allan ar draws ei giiydd, a'r hen Hugh yn aros yno drwy'r nos i orphen y gloddesta. 

Symudaf yn awr i'r “Traian” Cartref. David Roberts y “Rhiw", yr hwn fyddai bob amser yn pregethu Sul y Pasg ini, hefyd cartref John Davies, yr hwn bregethai y rhan fwyaf o lyfr Esex - “yr olwyn mewn olwyn chwedl”, yntau - am Mrs M. A. Griffiths. 

Un sabbath daeth dyn ieuanc neis is aros, at Elliss Owen i'r Benallt. Yr wythnos ddilynol roedd gwraig o'r ardai yn y ty acw a dyma hi yn dweyd wrth mam pity na fuasech chwi yn y capel ddoe Mary, roedd yna ddyn neis ofnadwy yn set Elliss Owen trwy'r dydd, beth feddyiiech chwi oedd ei neges - chwilio am wraig, ngeneth i, ac y mae wedi caei un hefyd. Mary Anne “Traian". 

Symudwn yn bresenol am y “Gilwern lsaf”, sef cartref yr ysgolaig mwyaf yr adeg hono - cyfeirio yr ydwyf at Griffith Davies Llundain, er mai yn “Beudy lsaf” y cafodd ei eni - i'r Gilwern Isaf y daeth wedi hyny. Hefyd, dyma'r ffarm a'r lle cyntaf erioed imi fod mewn aıwerthiant (auction) felly peidiwch a fy meirniadu gormod am fyned i leoedd o'r fath oblegid yr oeddwn yno cyn bod yn llawn 7 oed yn llaw fy nhad.

Awn yn bresenol ar hyd y llwybr i “Hafod lfan” sef cartref y bardd ar adnabyddus goreu Cymru - clwych ei gan Anfarwol i Gymdeithas Lenyddol “Brynrodyn” ar ddiwedd un tymor gwrandewch – 

Cymdeithas Brynrodyn

Wna ddyn o ffol hogyn

Eleni ddaeth i ben. 

Os trown ein gwynebau i bentref y Groeslon.

Daw Eames yma'n gyson fel goron llawn gwaith

A gwr y llythrdy

Run gwelil o ran gallu

Am ganu a phrydyddu ychwaith

A Davies Brynarfon a Jones o Bryntirion

Y ddau yn rhai gwirion

A Hughes Grugan Wen

A Jones o Bryn-henau

Hen gono'n llawn cynnen

A gwae fydd i'r hwn a'i tyn yn ei ben.

Ond Jones o'r “Bodryn”

Goeiiaf, yw'r Hero cryno crwn

Fe synna graddedigion

Pan y siarada hwn

Gall eistedd wrth y byrdda

Yn gomplimentaidd hardd

A dyna'r achos am wn i

Cynhyrfa awen bardd. 

Symudwn yn mlaen at yr hen gymeriad hen ffasiwn - sef Evan Jones “Tan y Coed”.

Dyma fi ato un diwrnod, ac yr roedd yn palu'r ardd ar ol cyfarch gwell, dyma ni'n cael

sgwrs, a dyma fo yn dweyd wrthyt, wyddost ti beth fuaswn yn lecio gael ei wneyd – wel palu a phlanu tatws a'i codi i dragwyddoldeb. 

Awn am dro i'r “Felin” rwan. Byddai rhyw ddwsin o fulod yno a byddem ar ei cefnau yn gyson ar Sadyrnau. Cofiaf hefyd fel y byddai y cyfaill R. E. yn crogi ambell i hen ful go berygl. Awn gam yn ol eto am “Hafod-y-Coed", lle cofiaf am y cynhebrwng cyntaf erioed yn ein hardal ni, pryd y rhoddwyd y gorchydd du heibio am y waith gyntaf ac ugainia wedi dod i'r fynwent i'w weled (claddedigaeth yr anwyl Ann Jones “Hafod-y-Coed” ydoedd. 

Yn bresenol fe gawn droi en gwynebau i Wernoleu, y peth wyf yn ei gofio oreu ydyw mai merch ieuanc “Wernoleu” gladdwyd yn gyntaf erioed yn mynwent “Bryn yr Odyn”, neu fel y gelwid y lle y pryd hwnw - mynwent y “Caetu” a llawer ffrae wyf yn ei gofio o'i herwydd gan bleidwyr y “Caetu“. Mae un stori arall ynglun a “Hafod-y-Coed” wedi slippio. Cyfeirio rwyf at Auction y Degwm, dan denantiaeth yr hen Griffith Hughes. Roedd cannoedd wedi dod ynghyd a Charter Bach Caernanvon yn gwerthu a'r hogia'n chwythu y cregin lwyd, ac yn ei fyddam, yn methu yn lan a myned yn ei flaen. Yr auctioneer yn rhoddi 5/- i rywun am beidio a'i fyddam, hwnw drachefn yn rhoddl go-witch ar ei wddw, gorfod myned ag ef i “Felin-Forgan” a Mrs Eames hithau yn ei fathio hefo hufen weddill y pryd-nawn. Deuwn yn bresenol i “Injian yr Hafod" lle y gwnaethid llechi ysgol i blant, o chwerw goffadwriaeth am dani. Y pryd hwn yr hen saer (Robert Jones) oedd yn ei meddiant ac un diwrnod roedd yr hen fachgen yn ei repairio a'i phaentio yn nghanol yr hen olwyn fawr. (Roedd olwyn ddwr Mr Henry K Jones, y Grafog, ond fel olwyn pram iw chyferbynu iddi - wel i fynd yn mlaen a'r stori. 

Dyma Daniel Thomas yr Hafod ar ddamwain neu ar fwriad yn dyfod uwchben yr olwyn ac yn gweled Roberts Jones yn chwys a llafwr yn yr olwyn fawr - dyma fo yn troi ar ei sawdl ac am y fflodiad ac yn tywallt dwfr arni nes oedd yn chwyrnellu mynd a Robert Jones fel gwr cynddeiriog yn ceisio cadw ei hun rhag ei godi i entrychion – parhaodd felly am oddeutu awr. 

Wel mi groeswn y ffordd i “Beudy lsaf' cartref y mudanod “Rhen Billa” (William Williams) a John E Williams. Dysgais yn foreu iawn iaith y bysedd gyda J. E. W. ond anrwyddion a chyfeiriadau y byddai rhen Billa yn ei arfer. Cofiaf iddo unwaith fod yn toi tas wair fy mam, ac yr roedd wrthi yn rhaffu ei oreu - a dyma dri neu bedwar o honom ninau i'r cae a dyma argument yn nglun a Billa, a'r ddadl oedd pe byddai un o honom ei daro na chlywai ddim arnom - rhoddwyd prawf teg - cododd y cryfaf garreg ac anelodd ef a tharawodd ef yn ei ben. Wed dyma ras, daliodd ni o dan y gwely a llusgodd ni allan ac ni anghofiwyd y triugain a rhagor hyn. Dyma ni yn cyrhaedd “Glan Gors" hen gartref Thomas Jones, y blaenor, fyddai bob amser yn codi i fynu a siarad ar gasgliad neu gilydd. Hefyd ef oedd y gwron yn nyddiau ein plentyndod ddarfu ei scorio ynglun a chyfarfod “Brodyr”. Daeth ei achos gerbron y “Brodyr”, gorchymodd Griffith Edwards, fel llywydd y cyfarfod i Thomas Jones ymneillduo gan fod ei achos i fod gerbron – aeth yntau allan yn erbyn ei ewyllus, ac aeth cyn belled a giat “Llwyngwalch”. Wardiodd yno nes oedd y brodyr wedi pasio a phan ddaeth yr hen Sion Jones neu John Jones a Griff Edwards heibio neidiodd o dwll y wal ac i wddw G. Edwards.

Down yn bresenol i lawr oddiyno i “Glan ffynon", hen gartref yr hen Catrin Griffith, yr hen wraig fyddai yn arfer ein faedio gyda brechdana, bara ceirch a jam, hen wreigen mwyaf hoffus o bawb yn yr ardal. Byddem yn arfer clepian am wya'r Pasg a chrefu am y grempog. Deuwn am “Caeffridd" lle cofiaf am David Pritchard yn hwylio i fyned i'r America lle y mae yn trigiannu yn bresenol. Dyma ni yn “Bryngoleu" lle y cartrefai yr hen frawd David Evans, yr hen gymeriad fyddai bob amser yn cynnal gwasanaeth teuluaidd.

Cofiaf am dano un diwrnod yn dweyd wrthyf fi a Dafydd Jones am fod yn blant da, tra fyddai yn myned i “Glyn-meibion Bach” i edrych am berthynas iddo. Yna 6.30pm daeth torf o chwarelwyr ag ef adref yn fanrw. Hefyd cofion da am ei frawd Robert Evans “Bryngoleu Bach” hen lanc wedi colli ei glyw yn llwyr a'r ffordd oedd ganddo i wybod fod y tecell neu'r sospan yn berwi ydoedd dodi y proker ar ei glust a'i cymwyso at y tecell a'r sospan. Awn dros y wal i '“Brynenan”' i gartref Cymry - nid an-enwog - on un stori am danynt heno ydyw ei bod wedi prynu Bastard mul ac erbyn gweld hi chyffyrddai mewn hen wair o gwbwl, dim ond dinystrio pop peth glas megys blodau a choed mewn gerddi fel aeth pethau yn bur ddrwg gyda'r cymdogion fel bu raid cymhwyso llawer o bethau, ac yn ei mysg ceisio rhoddi triagl i gymysgu y gwair, ac yn mhlith pethau eraill nid oedd ddiben yn y byd. Felly bu raid cymhwyso science ato yn y ffurf o drio spectol las a phrofodd hyn yn llwyddiant mawr, ac nid oedd digon o hen wair iddo ei gael, mewn caniyniad meddyliai mai gwellt medi gawsai. 

Awn yn mlaen yn bresenol am Croesffordd hen gartref Owen Jones y blaenor.

Symudwn eto i “Llidiard Gwyn" lle yr oedd ei hen ewyrth yn byw sef William Thomas. Yr roedd yr hen lanc yn gymeriad rhyfedd. Het silk fawr am ei ben bob Sabath a byddai yn siarad wrtho ei hun, ar hyd y bregeth yn hyglyw, ac yn gwneyd ystumiau mawr, ond yr roeddym wedi cynefino gydag ef. 

Trown ein gwynebau tua “Garreg Wen", lle preswyliai yr hen gymeriad Owen Hughes, byddai bob amser yn dweyd ei ddyledswydd teuluaidd cyn myned at ei waith a byddai rhyw gnaf o gymydog iddo pan fyddai ar ei luniau yn gwaeddi ei bod yn hyn a hyn o`r gloch ac Owen Hughes yn talfyru y weddi ar unwaith, gyda'r geiriau “Er mwyn ei enw Amen". 

Awn i “Ty-Isa-Rhos” (Rhoslan) lle yr roedd yr hen Sion Jones wedi cael ei symud

ychydig cyn marw ar ol bod yn orweddiog am dros 33 mlynedd - a'i wylnos ef rwyn

meddwl oedd y ddiweddaf yn yr ardal i gyd-ar _. cael cynulliad mawr y noswaith hono. 

Cam ymlaen eto a dyma ni yn yr hen fwthyn bach “Fron Helyg” lle trigianau yr hen W. Roberts y melinydd unllygeidiog a'i wraig yn melin “Llwyngwalch” y gweithiai yr adeg hono a rhyw noson fe welai ddyn yn dod o gyfeiriad “Bethesda Bach” yr hwn oedd yn ei adnabod yn iawn. Gofynodd iddo oedd ef yn pasio “Fron Helyg”, atebodd yntau yn gadarnhaol, gofynodd iddo ddweyd wrth C. Roberts - na fedrai ddod adref y noswaith hono, gan ei fod yn brysur trwy'r nos - pan oedd y cyfaill yn dod yn ei ol i ymyl y felin y cofiodd am ei addewid a throdd ar ei sawdl yn ol, heibio “Llwyngwalch” a Chae lloc, gwelodd oleu yn y ffenestr, curodd y drws ac agorodd ei gil. Ydych chwi yna, “C. R." - ydwyf - ddaw W. Roberts ddim adra - mae'r Felin wedi dod i lawr ar ei gefn ef, ac ymaith ag ef. Chwiliodd “C. Roberts” am ganwyll taniodd hi a rhoddodd hi ar soser, a cherddodd yn araf hyd nes y daeth at y “Felin" tua 2 o'r gloch y bore. Catherine Roberts hithau yn gymeriad hynod iawn cychwynai o'r ty yn y boreu galwai yn mhob ty a bwytai ynddynt, a byddem ni y plant yn methu gwybod syt y llwyddai i wneyd hynu, ond cawsom eglurhad boddhaol pan ddaethum yn hynach, y secret ydoedd mai y clefyd siwgr oedd arni. 

Yn nesaf down at Bryn Ffynon hen gartref William Lewis y gweddiwr mawr hwnw -

deuwn yn nesaf at “Tal-y-llyn”, lle preswyliai yr hen Owen Williams y Butcher yr hyn sydd yn hynod ynglun ag ef ydy iddo gael ei ddirwyo yn drwm yn y llys yn Nghaernarfon am iddo hel dail eiddew oddiar wal y “Glyn” i'w ddefaid ar stori o eira. 

Bagiwn yn ol am funud i'r "Ficerdy” lle preswyliau yr hen berson anwyl Mr Langharn. 

Deuwn yn bresenol at gapel Brynrhos yr hwn a adeiladwyd yn 1880 neu 1882 a

digwyddodd rhywbeth iddo - fel y canodd yr hen Owen Parry am dano. 

Capel newydd, seren bren

Wedi ei osod ar ei ben. 

Awn yn mlaen o "Brynrhos" i “ffarm Brynrodyn" - byddai plant y gymdogaeth yn tyru yno i weld yr hen Catrin Roberts yn smocio rhyw hen bibell ddu fawr oedd ganddi.

FFynhonell drwy law teulu Methusalem Jones, Gan ifor Williams Cymdeithas Hanes y Tair Llan

Hanesion Llanfaglan[golygu | golygu cod y dudalen]

Cewch hanesion Llanfaglan ar dudalen Wici Llanfaglan yma Llanfaglan.

Mae hanes yr Hen Eglwys, Atgofion Mebyd (Hanes bywyd plentyn ar droad yr 20g yn Llanfaglan) Hanes Capel Pen y Graig, ac nodiadau bywyd y diweddar John Owen Bronydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]