Cymdeithas Bêl-droed Gibraltar
| UEFA | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 1895 |
| Pencadlys | Victoria Stadium, Gibraltar |
| Aelod cywllt o FIFA | 13 Mai 2016 |
| Aelod cywllt o UEFA | 24 Mai 2013 |
| Llywydd | Michael Llamas, QC |
Y Gibraltar Football Association neu'r talfyriad GFA yw corff llywodraethol pêl-droed clwb a thîm genedlaethol Gibraltar ac Uwch Gynghrair Gibraltar.
Ffurfiwyd y GFA yn wreiddiol fel y Gibraltar Civilian Football Association yn 1895. Gydag hynny, mae'n un o'r ffederasiynau pêl-droed hynaf yn y byd.
Daeth yn aelod dros dro o UEFA (UEFA) ar 1 Hydref 2012, yn dilyn penderfyniad gan y Llys Cyflafareddu Chwaraeon (Court of Arbitration for Sport) a gynhaliwyd ym mis Awst 2011. Penderfynwyd ar ei dderbyn fel aelod llawn ym mis Mai 2013. Cystadlodd y timau futsal dan 19 a dan 17 cenedlaethol Gibraltar mewn gemau o dan nawdd UEFA yn nhymor 2013-14.
Ar 24 Mai 2013, derbyniwyd Gibraltar fel 54edd cenedl aelod UEFA,[1] Ar 13 Mai 2016, derbyniwyd Gibraltar yn aelod rhif 211 o'r FIFA ynghyd â Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]
Mae perthynas cynnar Gibraltar a'i datblygiad strwythurol cynnar, yn gysylltiedig gyda'r ffaith bod Gibraltar yn drefedigaeth Brydeinig a phorthladd hynod bwysig i Llynges a Llynges Fasnachol Prydain a gwleidydd eraill. O ganlyniad, daeth trigolion Gibraltar i gyswllt gyda thueddiadau newydd a phoblogaidd o Brydain, gan gynnwys pêl-droed, yn gymharol gynnar o'i cymharu â rhannau eraill o Ewrop.
Ffurfiwyd y GFA i ddwyn ynghyd y nifer cynyddol o glybiau yn Gibraltar. Yr unig gystadleuaeth bêl-droed yn Gibraltar oedd y Merchant's Cup.
Yn 1901, trefnodd y GFA i dîm yn cynrychioli Gibraltar, gystadlu yn erbyn timau milwrol Prydain a oedd wedi eu lleoli ar y drefedigaeth Brydeinig. Parhaodd i chwarae dros y degawdau, a'i pherfformiad gorau yn gêm gyfartal yn erbyn Real Madrid yn 1949.
Ym 1907, sefydlodd y GFA gynghrair pêl-droed er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth cwpan.
Ymgyrch Statws ryngwladol
[golygu | golygu cod]
Dechreuodd y GFA ymgyrchu dros statws ryngwladol gan UEFA a FIFA a bu'n frwydr hir oherwydd nad yw Gibraltar yn wlad annibynnol wedi ei chydnabod gan y Cenhedloedd Unedig a cafwyd gwrthwynebiad chwyrn o du Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen sy'n gweld Gibraltar fel rhan o'i thiriogaeth hanesyddol a gollwyd yn sgil Cytundeb Utrecht yn 1714.
Cafodd cais y GFA i ddod yn aelod o FIFA ei ffeilio ym 1997. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cadarnhaodd FIFA agoriad y weithdrefn ac anfonodd y cais GFA at y cydffederasiwn cyfandirol priodol, UEFA, oherwydd yn ôl statudau FIFA, cyfrifoldeb y cydffederasiynau yw rhoi statws aelodaeth i ymgeiswyr. Yn 2000, cynhaliodd cyd-ddirprwyaeth UEFA a FIFA arolygiad ar gyfleusterau a seilwaith y GFA. Roedd FA Sbaen yn gwrthwynebu cais y GFA yn gryf.[3]
Cyfwynwyd cais arall yn 2006 ond ar 26 Ionawr 2007 yng Nghyngres UEFA a gynhaliwyd yn Düsseldorf (Yr Almaen), gwrthodwyd cais Gibraltar i ddod yn aelod llawn o UEFA, gyda 45 o bleidleisiau yn erbyn, 3 o blaid (sef Cymru, Lloegr a'r Alban), a 4 heb benderfynu.[4] Priodolodd llywydd y Ffederasiwn Ángel María Villar wrthwynebiad Sbaen i hawliad Sbaen dros Gibraltar.[5] Honnodd hefyd ei fod yn fater gwleidyddol a chyfeiriodd at Gytundeb Utrecht o 1713.[6] Er gwybodaeth, dyma'r un Cytundeb a roddodd Catalwnia ym meddiant Sbaen yn dilyn methiant Gwrthryfel y Medelwyr (Segadors), dros annibyniaeth Catalwnia.
Ar 21 Mawrth 2012 trafodwyd y cais am aelodaeth UEFA lawn gan Gibraltar eto,. Ar ôl y bleidlais yng nghynhadledd UEFA a gynhaliwyd yn Llundain ar 24 Mai 2013, derbyniwyd Gibraltar fel aelod llawn o UEFA. Cynhaliwyd pleidlais, canfuwyd bod mwyafrif clir wedi pleidleisio i dderbyn Gibraltar i UEFA. Dau gymdeithas genedlaethol; Pleidleisiodd Belarus a Sbaen yn erbyn y cynnig.[7]
Ar 13 Mai 2016, derbyniwyd Gibraltar yn aelod o FIFA gyda phleidlais o 172 i 12 o blaid.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/22657481
- ↑ https://www.lequipe.fr/Football/Actualites/Le-kosovo-et-gibraltar-admis-comme-membres/673467
- ↑ Paradinas, Juan Jose (20 Awst 2000). "El apoyo del Gobierno y de los partidos". El País (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2015.
- ↑ "UEFA admits Montenegro, rejects Gibraltar". Reuters. 27 January 2007.[dolen farw]
- ↑ Sparre, Kirsten (8 Medi 2006). "Gibraltar to become member of UEFA despite Spanish resistance". playthegame.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Hydref 2007. Cyrchwyd 22 Medi 2008.
- ↑ "Gibraltar's bid fails 'through political pressure from Spain'". Panorama. 26 January 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 22 Medi 2008.
- ↑ Lafuente, Javier (24 Mai 2013). "Gibraltar mete gol a España (Gibraltar scores a goal against Spain)". El País (yn Spanish). Cyrchwyd 25 Mai 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Fifa: Kosovo and Gibraltar become members of world governing body". BBC Sport (yn Saesneg). 13 Mai 2016. Cyrchwyd 19 Ionawr 2018.