Cyfrifiannell mecanyddol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amrywiaeth o gyfrifianellau mecanyddol a ddefnyddiwyd mewn swyddfeydd o 1851 ymlaen. Mae gan bob un ryngwyneb-defnyddiwr gwahanol. Clocwedd o top-chwith: Arithmometer (1851), Comptometer (1887), peiriant adio Dalton (1902), Dyfais Sundstrand a'r Odhner Arithmometer (1873).
Erthygl am y ddyfais mecanyddol yw hon; ceir erthygl arall ar y cyfrifiannell electronig

Mae'r cyfrifiannell mecanyddol, yn ddyfais fecanyddol ac yn beiriant a ddefnyddir mewn rhifyddeg fel cymorth yn y broses o gyfrifo. Roedd y rhan fwyaf o gyfrifianellau mecanyddol oddeutu maint i gyfrifiaduron personol y 2o00au a chawsant eu holynu yn y 1970au gan ddyfodiad y cyfrifiannell electronig.

Mae nodiadau Wilhelm Schickard yn 1623 wedi goroesi, ac maent yn dangos iddo greu'r peiriant cyfrifo cynharaf; yn anffodus roedd gan y peiriant hwn nifer o ffaeleddau e.e. drwy wthio'r un dial mwy nag unwaith neu adio 1 i 999. Er hyn, roedd ei beiriant yn cynnwys esgyrn Napier er mwyn hwyluso lluosi a rhannu a rhan symudol, mecanyddol gyda dialau. Rhoddodd y gorau i'w ymgais yn 1624 a bu farw yn 1635. Felly, ar y cyfan, methiant oedd ei ymgais.[1][2]

Yn 1642 aeth y Ffrancwr Blaise Pascal ati, gan ddatrus y problemau a fu, a dyfeisio'r cyfrifiannell cyntaf ar gyfer cwmni casglu treth, ei dad.[3] Roedd ei beiriant yn otomeiddio'r cyfrifo llafurus ac undonnog a oedd ei angen yn y gwaith.[4] Enwyd y peiriant hwn yn "Gyfrifiannell Pascal" neu'r "Pascaline".

Roedd yn rhaid aros dau gan mlynedd cyn i gyfrifiannell gael ei farchnata'n llwyddiannus, fodd bynnag, a hynny yn 1851; roedd y peiriant hwn yn ddigon cadarn i wrthsefyll yr holl ddrymio, dyddiol, mewn swyddfa. Enw'r cyfrifiannell hwn oedd yr "Arithmometer" neu'r "Thomas' arithmometer" (gweler y llun ar y dde). Am 40 mlynedd, dyma'r unig gyfrifiannell masnachol oedd ar werth.

Cynhyrchwyd y cyfrifiannell cyntaf a oedd a bysellfwrdd yn 1887, gyda naw digid 1-9. Yn 1902 gwelodd peiriant adio "Dalton" olau dydd, gyda chyffyrddell 10 digid.[5] Cyflwynwyd trydan i yrru motor mewn llawer o'r peiriannau a werthwyd o1901 ymlaen.[6] Yn 1961 roedd y Anita mk7 yn gyfangwbwl ddibynnol ar drydan i'w yrru. ond prin oedd anterth ei werthiant a gwelwyd cyfrifianellau electronig, cludadwy, cyflwr solet tua'r un pryd (cychwyn y 1960au) a pheidiwyd a chynhyrchu cyfrifianellau mecanyddol yng nghanol y 1970au, wedi cyfnod o 120 mlynedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Michael Williams, History of Computing Technology, IEEE Computer Society, tud. 122 (1997)
  2. Michael Williams, History of Computing Technology, IEEE Computer Society, tud. 124, 128 (1997)
  3. Prof. René Cassin, Pascal tercentenary celebration, Llundain, (1942), Nature
  4. Jean Marguin (1994), tud. 48
  5. Ernst Martin tud. 133 (1925)
  6. Ernst Martin tud. 23 (1925)