Neidio i'r cynnwys

Cyfrifiadur

Oddi ar Wicipedia
Cyfrifiadur NeXTstation (1990)
Cyfrifiadur Zuse Z3 yn y Deutsches Museum ym München

Dyfais raglenadwy electronig yw cyfrifiadur sy'n cynnwys uned brosesu ganolog (CPU) a chof, y gellir ei ddefnyddio fel prosesydd geiriau neu i gadw cronfa ddata a myrdd o ddibenion eraill. Y ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu â'r rhyngrwyd yw trwy gyfrifiadur. Gellir chwarae gemau ar gyfrifiadur neu ei raglennu i wneud pethau'n otomatig.

Ceir cyfrifiadur llai, cludadwy ers tua 2000 (sef y gliniadur) a ffurf cludadwy llai byth, sef y cledrydd.

Rhannau

[golygu | golygu cod]

Ceir y canlynol mewn rhai cyfrifiaduron:

Y Cyswllt Cymreig

[golygu | golygu cod]

Yn 1965 cyhoeddodd Donald Davies ei waith pwysicaf a oedd yn egluro sut y datblygodd system a oedd yn galluogi i gyfrifiaduron ddanfon pecynnau o wybodaeth ei gilydd drwy rwydwaith. Defnyddiwyd ei gynllun gan yr Asiantaeth Cynlluniau Ymchwil Blaengar (The Advanced Research Project Agency) yn yr Unol Daleithiau a'i ymgorffori yn ARPANET. Mae "Packet Switching" (fel y gwyddwn amdano bellach), yn dal yn un o gonglfeini'r Rhyngrwyd a'r we fydeang.

Cyfeirir at yr hyn rydym ni heddiw'n ei adnabod fel cyfrifiadur (ac nid 'cyfrifydd' / 'accountant') gyntaf yn y Gymraeg yn Y Cymro ar y 23 Gorffennaf 1969 gan Owain Owain pan ysgrifennodd, Yn syml, mae'r cyfrifiadur yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!

Meddalwedd

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am cyfrifiadur
yn Wiciadur.