Donald Watts Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Donald Davies)
Donald Watts Davies
Ganwyd7 Mehefin 1924 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mai 2000 Edit this on Wikidata
Esher, Princess Alice Hospice Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffisegydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, mathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Department of Scientific and Industrial Research
  • Labordy Ffiseg Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Adnabyddus ampacket switching, Automatic Computing Engine, ARPANET Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Gwobr Rhyngrwyd yr IEEE, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Cymrawd Neilltuol Cymdeithas Gyfrifiaduron, Prydain Edit this on Wikidata

Gwyddonydd cyfrifiadurol Cymreig oedd Donald Watts Davies CBE, FRS (7 Mehefin, 1924 - 28 Mai, 2000) a oedd yn arloeswr y dull o drosglwyddo data bob yn swp neu bacedi (packet switching). Cafodd ei eni yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda, Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Donald Davies a Marion Ivey, ei efaill, ar 7 Mehefin 1924 yn Nhreorci, yn fab i John Davies a weithiai fel clerc mewn pwll glo ac a fu farw Gorffennaf 1925, a Hilda (ganed Stebbens) a oedd yn wreiddiol o Portsmouth. Ar farwolaeth ei gŵr, dychwelodd gyda'i phlant i Portsmouth. Mynychodd Donald y Portsmouth Boys' Southern Secondary School ac yna Coleg Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ymerodrol Llundain (Coleg Imperial Llundain erbyn heddiw). Roedd hefyd yn Aelod Cyswllt o Goleg Brenhinol Gwyddoniaeth (ARCS) a derbyniodd radd BSc anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffiseg yn 1943. Ar ddiwedd y rhyfel, yn 1947, wedi gweithio dan orfodaeth milwrol yn creu'r bom atomig, defnyddiodd y flwyddyn oedd yn weddill o'i Ysgoloriaeth Wladol i gael gradd BSc mewn mathemateg.[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Wedi gadael yr 'Imperial', gweithiodd yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol yn Teddington. O 1947 bu'n gweithio gydag Alan Turing ar gyfrifiadur Pilot ACE gan ddangos fod yna gamgymeriadau ym mhapur 1936 Turing On Computer Numbers. Dyma mae'n debyg y gwallau rhaglennu cyfrifiadurol cyntaf erioed.

Methiant[golygu | golygu cod]

Wedi peth amser yn yr Unol Daleithiau ac India, dychwelodd yn 1955 i'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL) i gynllunio a gwneud cryotronau (darnau switsio a ddefnyddia'r nodwedd o dra-dargludedd i wneud cyfrifiaduron cyflym iawn), ond bu'n aflwyddiannus oherwydd problemau peirianegol. Ymchwiliodd hefyd yn datblygu rhaglenni i gyfieithu Rwseg, ond nid oedd peiriant ar gael i ddarllen y testun, ac felly roedd yn rhatach talu cyfieithydd na gweithio ar y datblygiadau hyn.

Cyfnewid pecynnau o ddata[golygu | golygu cod]

Yn 1965 cyhoeddodd ei waith pwysicaf: datblygodd system a oedd yn galluogi i gyfrifiaduron ddanfon pecynnau o wybodaeth i'w gilydd drwy rwydwaith. Defnyddiwyd ei gynllun gan yr Asiantaeth Cynlluniau Ymchwil Blaengar (The Advanced Research Project Agency) yn yr Unol Daleithiau a'i ymgorffori yn ARPANET. Mae "Packet Switching" (fel y gwyddwn amdano bellach), yn dal yn un o gonglfeini'r Rhyngrwyd a'r we fydeang.

Daeth yn bennaeth ar NPL Autonomic Division yn 1966 gan weithio ar ddiogelwch rhwydwaith cyfrifiadurol ar ddiwedd y 1970au. Ymddeolodd o'r gwasanaeth sifil yn 1984 a hyd at 1999 bu'n ymgynghorydd dyfeisiau diogelu, gan gael ei gyflogi gan ddiwydiant a'r cyfryngau.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Derbyniodd y John Player Award gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain am waith a wnaeth yn 1969. Derbyniodd lawer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys:

  • Gwobr Syr John Lubbock mewn Mathemateg (1946)
  • John von Neumann Society's Award, Budapest (1985)
  • Cymrodor Hyglod Cymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (1975)
  • Dsc er Anrhydedd (Salford, 1989)
  • CBE yn 1983 a'i ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1987.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; awdur: Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Gyda D. Barber: Communication Networks for Computers, Wiley, 1973.
  • Gyda W. Price: Security for Computer Networks, Wiley, 1984.
  • Who was who?, 1996-2000;
  • Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 2002, Cyf. 48, 89-96.