Cyflafan Trelew

Oddi ar Wicipedia
Cyflafan Trelew
Enghraifft o'r canlynolcyflafan Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Awst 1972 Edit this on Wikidata
Lladdwyd16 Edit this on Wikidata
LleoliadMaes Awyr Almirante Marcos A. Zar Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Hen Wylfa'r Maes Awyr, sydd heddiw'n gofeb i'r gyflafan.

Cyflafan Trelew oedd llofruddiath 16 gwrthryfelwr o wahanol grwpiau Peronaidd ac asgell chwith a oedd yn cael eu dal yn garcharorion mewn carchar yn Nhrelew, Yr Ariannin. Roedd y carcharorion eisoes wedi cael eu dal yn dilyn cais aflwyddiannus i ddianc ac fe gawsant eu saethu gan filwyr y llynges dan arweiniad y Cadlywydd: yr Is-gapten Luis Emilio Sosa. Digwyddodd y gyflafan ar fore 22 Awst 1972 ym Maes Awyr Milwrol Almirante Marcos A. Zar (sy'n rhannu rhedfa gyda Maes Awyr Almirante Marcos A. Zar).

Y ddihangfa[golygu | golygu cod]

Ar 15 Awst am 18:30, ceisiodd 110 carcharor gwlediyddol ddianc o garchar yn Rawson, prifddinas talaith Chubut.[1] Dim ond chwech o'r 110 lwyddodd i ddianc a hynny ar awyren i Chile o faes awyr Trelew. Llwyddodd 19 carcharor i gyrraedd y maes awyr ond roeddynt yn rhy hwyr gan fod yr awyren eisoes wedi gadael. Fe'u daliwyd, drachefn, a'u carcharu ym Maes Awyr Milwrol Almirante Marcos A. Zar. Cawsant eu deffro'n gynnar ar 22 Awst ac fe ddwedwyd wrth y carcharorion i ddod allan o'u celloedd a wynebu'r llawr. Saethwyd yr 19 a honnwyd eu bod wedi ceisio dianc. Bu farw 16 a goroesodd tri.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gambini, Hugo: Historia del peronismo. La violencia (1956-1983) tud. 248 Buenos Aires 2008 Javier Vergara Editor ISBB 978-950-15-2433-8 (Sbaeneg)
  2. Testimonios de los 3 sobrevivientes de la Masacre de Trelew. El Historiador. Archifwyd 2012-10-01 yn y Peiriant Wayback. (Sbaeneg)