Cyfarfod y ddau frenin ar ynys Faisans yn 1660

Oddi ar Wicipedia
Cyfarfod y ddau frenin ar ynys Faisans yn 1660

Mae Cyfweliad Louis XIV a Philippe IV ar ynys Faisans yn beintiad olew ar gynfas a ddylunwyd gan yr arlunydd Jacques Laumosnier (tua 1669 – tua 1744).[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain yn gyfres o ryfeloedd a ddigwyddodd yn Ewrop o 1618 i 1648 rhwng yr Habsbwrgiaid o Sbaen a'r Ymerodraeth lân rufeinig, a gefnogwyd gan y babaeth, a thalaethiau protestannaidd Almaenig yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd, a oedd yn gynghreiriaid â'r pwerau ewropeaidd protestanaidd, y Taleithiau Unedig a'r gwledydd llychllynaidd, yn ogystal â Ffrainc, a oedd – er yn gatholig ac yn ymladd protestaniaid gartref – yn bwriadu lleihau grym yr Habsbwrgiaid yn Ewrop. Parhaodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen am ddeng mlynedd, nes dod i ben gyda threchu'r fyddin Sbaeneg ym mrwydyr y Twyni yn 1658, gan arwain at Gytundeb y Pyrenees ar 7 Mehefin 1660 ar ynys  Faisans, sydd wedi ei leoli ar afon Bidassoa rhwng y ddwy wlad.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r darlun yn dangos y cyfarfod rhwng y brenhinoedd Louis XIV, brenin Ffrainc, a Felipe IV, brenin Sbaen, ar ynys Faisans ar 7 Mehefin 1660 lle y dathliwyd y briodas rhwng Louis XIV a merch Felipe IV, Maria Teresa o Awstria. Caniataodd y cyfarfod hefyd arwyddo Gytundeb y Pyrénées a ddaeth a'r rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen i derfyn.[2]

Ar yr ochr Ffrengig gellir gweld y frenhines Ann o Awstria, chwaer brenin Sbaen a mam Louis XIV, yn ogystal â Philippe o Orléans a'r Cardinal Jules Mazarin plenipotensiwr y brenin.

Ar ochr Sbaenaidd y darlun, mae'r brenin Felipe IV gyda'i ferch Marie-Thérèse o Awstria, ei fab ac etifedd yr orsedd Siarl II, brenin Sbaen, y Dug Olivares ac un o drefnwyr y cyfarfod Diego Velázquez.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Joconde". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-17. Cyrchwyd 2021-08-30.
  2. L'Histoire par l'image.