Cwymp Pont Glanrhyd
Enghraifft o'r canlynol | train wreck, bridge failure |
---|---|
Dyddiad | 19 Hydref 1987 |
Lladdwyd | 4 |
Achos | Bridge failure, bridge scour |
Lleoliad | Llandeilo |
Gweithredwr | British Rail |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin, Dyfed, Cymru |
Digwyddodd Cwymp Pont Glanrhyd ar 19 Hydref 1987, pan chwalwyd y bont ar linell Rheilffordd Calon Cymru ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Disgynnodd trên i'r Afon Tywi islaw a bu farw pedwar o bobl.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Digwyddodd y ddamwain yn gynnar ar ddydd Llun, 19 Hydref 1987. Roedd y trên 05:27 yn cludo teithwyr o Abertawe i'r Amwythig, ac yn cynnwys dau gerbyd DMU Dosbarth 108 [1] pan ddisgynnodd mewn i'r Afon Tywi ger Llandeilo, tua 07:00. Roedd Pont Glanrhyd wedi ei olchi i ffwrdd yn rhannol am fod yr afon wedi chwyddo yn dilyn cyfnod o law trwm. Roedd y trên yn symud ar gyflymder o 10 miles per hour (16 km/h) yn unig, sef y cyfyngiad cyflymder arferol ar gyfer y bont.[2]
Roedd Carwyn Davies, ffermwr lleol (a chwaraewr rygbi i Lanelli a thîm rhyngwladol Cymru),[3] wedi aros nes golau ddydd am 07:00 er mwyn dechrau archwilio'r llifogydd ar ei fferm. Roedd e 400 yard (370 m) o'r bont mewn cae dan lifogydd pan welodd fod rhan ganolog y bont wedi cwympo. Ceisiodd fynd nôl i'r tŷ er mwyn ffonio'r awdurdodau ond cyn iddo gyrraedd, clywodd y trên yn agosáu at y bont a gwelodd y cerbyd cyntaf yn cwympo i'r afon.[4] Yn ddiweddarach, defnyddiodd ei dractor i gynorthwyo achubwyr gyrraedd y bont.
Roedd deg o bobl ar fwrdd y trên, a llwyddodd tri o deithwyr a thri o aelodau staff British Rail i ddianc ond boddwyd y gyrrwr a thri o deithwyr. Roedd staff ar y trên yn cynnwys Rheolwr Traffig a Pheiriannydd a oedd yn teithio ar y trên er mwyn archwilio'r llinell ar ôl adroddiadau o lifogydd a difrod i'r trac a dderbyniwyd y diwrnod cynt.[5] Gadawodd y cerbyd cyntaf y traciau a chwympo i lif yr afon oedd yn llawer uwch na'r arfer, er bod y cerbyd cefn wedi aros yn rhannol ar y cledrau ac uwchben y dŵr. Tra bod y teithwyr a'r staff yn gwneud eu ffordd yn bwyllog drwy'r cerbyd cefn, torrodd y cerbyd cyntaf i ffwrdd ac fe'i ysgubwyd lawr yr afon gyda'r gyrrwr a thri o deithwyr (pâr priod a bachgen ysgol yn eu harddegau) yn dal y tu mewn.[6]
O ganlyniad i'r digwyddiad cyflwynwyd gweithdrefnau llymach ar gyfer archwilio pontydd rheilffordd. Dros yr 20 mlynedd nesaf ni chafwyd unrhyw farwolaethau arall ar wasanaethau rheilffordd i deithwyr yng Nghymru.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- "Report on the Collapse of Glanrhyd Bridge on 19th October 1987" (pdf). Department of Transport. 31 Ionawr 1990. ISBN 0-11-550961-5.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Report on the Collapse of Glanrhyd Bridge (1990), page 1
- ↑ Clark, Rhodri (19 Hydref 2007). "Rail travel in Wales is so safe, the most dangerous part of a train journey is getting to the station". Western Mail. Cyrchwyd 4 Ionawr 2015.
- ↑ "From the Archives A Glimpse Back in Time". Llanelli Star. 24 October 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-29. Cyrchwyd 4 January 2015 – drwy Highbeam Research.
- ↑ Report on the Collapse of Glanrhyd Bridge (1990), page 5
- ↑ Report on the Collapse of Glanrhyd Bridge (1990), pages 2-5
- ↑ Report on the Collapse of Glanrhyd Bridge (1990), page 7