Cwpanllys cyffredin
| Cwpanllys cyffredin | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Marchantiophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Marchantiales |
| Teulu: | Marchantiaceae |
| Genws: | Marchantia |
| Rhywogaeth: | M. polymorpha |
| Enw deuenwol | |
| Marchantia polymorpha L. | |
Math mwyaf cyffredin o lysiau'r afu yw'r cwpanllys cyffredin (Marchantia polymorpha). Mae'n tyfu ar bridd a chreigiau mewn amrywiaeth o gynefinoedd llaith, gan gynnwys gerddi a thai gwydr. Mae'n rhywogaeth fawr sy'n cyrraedd 10 cm o hyd. Mae'n cynhyrchu adeileddau atgenhedlu ar ffurf palmwydden (y fenyw) neu ambarél (y gwryw).


Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anfasgwlaidd bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term ‘llysiau'r afu’ am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peter H. Raven, Ray F. Evert a Susan E. Eichhorn: Biology of Plants. Efrog Newydd: W. H. Freeman, 1999.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Delweddau o Marchantia polymorpha Archifwyd 2010-05-31 yn y Peiriant Wayback