Cwmni Bae Hudson

Oddi ar Wicipedia
Cwmni Bae Hudson
Enghraifft o'r canlynolbusnes, menter Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Mai 1670 Edit this on Wikidata
PerchennogNRDC Equity Partners Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifArchives of Manitoba Edit this on Wikidata
SylfaenyddPierre-Esprit Radisson, Médard des Groseilliers Edit this on Wikidata
Gweithwyr70,000 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auHudson's Bay, Puget Sound Agricultural Company, Simpsons Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyd-stoc Edit this on Wikidata
PencadlysBrampton, Toronto Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hbc.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Menter fasnachol oedd Cwmni Bae Hudson (Saesneg: Hudson's Bay Company, HBC), yn llawn Cwmni'r Anturiaethwyr o Loegr yn Masnachu ym Mae Hudson (Company of Adventurers of England Trading into Hudson's Bay), a chwaraeodd ran bwysig yn Oes y Darganfod a'r fasnach grwyn yng Nghanada.

Sefydlwyd yn Llundain, wedi i Médard Chouart Groseilliers ddychwelyd o Fae Hudson ym mis Hydref 1669. ac ymgorfforwyd gan siarter frenhinol ar 2 Mai 1670, gyda'r nod o ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, i feddiannu'r tiroedd ar lannau Bae Hudson, ac i fasnachu yn y tiroedd hynny er budd economaidd Teyrnas Lloegr. Llofnodwyd y siarter frenhinol gan ddeunaw o fuddsoddwyr sefydlol: Rupert, Tywysog y Rhein; Syr George Carteret, dyn cyfoethocaf Lloegr; Yr Arglwydd Ashley; Christopher Monck, 2il Ddug Albemarle; Syr James Hayes, Aelod Seneddol ac ysgrifennydd i'r Tywysog Rupert; Syr Robert Vyner, Barwnig a Siryf Llundain; Syr John Robinson, Arglwydd Faer Llundain; Syr William Craven, Iarll Craven, un o Arglwydd Berchenogion Carolina; Syr Peter Colleton, Llywodraethwr Barbados; Syr John Kirke; Syr Paul Neele; Syr Edward Hungerford; John Portman; Francis Millington, Comisiynydd Tollau; Syr John Griffith; William Pretyman; John Fenn, Tâl-feistr y Morlys; ac Henry Bennett, Arglwydd Arlington.[1]

Datblygodd y cwmni fonopoli ar y fasnach grwyn, a bu'n meddu ar dra-arglwyddiaeth yn yr ardal. Trwy gydol y 18g brwydrodd y cwmni yn erbyn y Ffrancod dros reolaeth Bae Hudson. Ildiodd Ffrainc ei thiriogaethau yng Nghanada i Brydain Fawr ym 1763, a ffurfiwyd Cwmni'r Gogledd Orllewin. O ganlyniad i gystadleuaeth rhwng y ddau gwmni, gorfodwyd Cwmni Bae Hudson i fforio i'r gorllewin, ac ym 1771 dangosodd Samuel Hearne nad oedd ffordd o ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin allan o Fae Hudson. Cyfunwyd y ddau gwmni ym 1821 gyda rheolaeth dros diriogaeth o'r Iwerydd i'r Cefnfor Tawel. Yn sgil Cydffederasiwn Canada ym 1867, cynyddodd yr heriau i'w fonopoli, ac ym 1869 gorfodwyd i'r cwmni ildio'i holl diriogaeth i Ganada am £300,000. Wrth i'r fasnach grwyn leihau yn nechrau'r 20g, cafodd y cwmni ei amrywiaethu, ac ym 1930 ei rannu'n sawl cwmni.

Cwmni Bae Hudson yw'r cwmni nwyddau cyd-stoc corfforedig hynaf yn y byd Saesneg,[2] a'r gorfforaeth hynaf sydd yn dal i weithredu yng Nghanada.[3]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lynn Ferguson, "The Hudson's Bay Company" yn World Encyclopedia of Entrepreneurship, ail argraffiad, golygwyd gan Léo-Paul Dana (Cheltenham: Edward Elgar Publishing, 2021), tt. 358–9.
  2. Ferguson, "Hudson's Bay Company" (2021), t. 358.
  3. Ferguson, "Hudson's Bay Company" (2021), t. 365.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Lynn Ferguson, "The Hudson's Bay Company" yn World Encyclopedia of Entrepreneurship, ail argraffiad, golygwyd gan Léo-Paul Dana (Cheltenham: Edward Elgar Publishing, 2021), tt. 358–66.